Sgons hanner nos - National Theatre Wales

Sgons hanner nos

Tachwedd 12, 2021

Rysáit Sgons Hanner Nos gan Fam Shôn Dale-Jones

Mae mam Shôn, sy’n trigo ar Ynys Môn, yn chwarae rôl bwysig yn stori Possible, yn enwedig ei harferiad o bobi sgons wedi hanner nos yn ystod y cyfnod clo. Mae hi wedi bod yn garedig iawn yn rhannu ei rysáit gyda ni, er mwyn i ni ei rhannu gyda chi. Pa un ai a ydych yn credu bod pobi sgons wedi hanner nos yn arwydd drwg ai peidio, gallwn eich sicrhau y byddant yn flasus tu hwnt.

Byddwch angen:

  • 250 gram blawd codi
  • 1 llwy de grom o bowdwr codi
  • 40 gram menyn meddal
  • 25 gram siŵgr mân
  • 1 wy
  • Oddeutu 100ml llaeth

Rysáit:

Yn gyntaf, cynheswch eich popty i 200°c. Wedyn, rhowch y blawd, powdwr codi, menyn a’r siwgr mewn powlen a’u cymysgu â llaw. Chwipiwch yr wy gyda digon o laeth i gyrraedd 100ml, yna ychwanegwch hwn at y cynhwysion sych, nes bod gennych does mymryn yn ludiog. Rhowch y cymysgedd ar fwrdd â blawd arno a rholiwch y toes i drwch o 2cm. Yna, torrwch y sgons gyda thorrwr 4cm. Gosodwch nhw ar hambwrdd pobi wedi’i iro (gadewch ychydig o le rhwng bob sgonsen) a rhoi gweddill y llaeth ar ben y sgons gyda brws. Yn olaf, pobwch am oddeutu 8 munud nes eu bod yn lliw euraidd ac wedi codi, a dyna ni!

 

Dewch i wrando ar stori garu, pobi gyda’r hwyr, grwpiau WhatsApp teulu, a Grandmaster Flash yn Possible, sydd ar daith hyd at 26 Tachwedd.

Blogiau

  • Hydref 22, 2021
    “A blank canvas for you to play with”
  • Medi 2, 2021
    Ail-ddychmygu prosiect cymunedol yn ystod cyfnod o ynysu
  • Medi 2, 2021
    Stori helyntus Go Tell the Bees
  • Medi 2, 2021
    Mae’r Awdur a’r Cyd-Grëwr Naomi Chiffi yn dweud mwy wrthym am y sgript ar gyfer Go Tell The Bees
  • Awst 26, 2021
    Springboard: Cyflwyno Idrissa Camara
  • Awst 18, 2021
    Springboard: Cyflwyno Jeremy Linnell
  • Awst 18, 2021
    Springboard: Cyflwyno Anushiye Yarnell
  • Awst 16, 2021
    Springboard: Cyflwyno Sara Hartel
  • Awst 16, 2021
    Springboard: Cyflwyno Durre Shahwar
  • Awst 16, 2021
    Springboard: Cyflwyno Chris Tally-Evans
Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast