Mae Go Tell the Bees yn parhau i esblygu, i dyfu ac i ffurfio.
Fel rhan o’i ddatblygiad rydym wedi bod yn cyfweld â phobl ryfeddol Sir Benfro am eu hatgofion o drychineb y Sea Empress, a ddigwyddodd 25 mlynedd yn ôl fis Chwefror nesaf.
O syrffwyr i bysgotwyr, gweithwyr purfa olew i gapteiniaid llongau, cadwraethwyr i wleidyddion, rydyn ni wedi cael ein synnu gan yr ymateb i’n galwad ac wedi bod wrth ein bodd yn gwrando ar straeon pawb.
Mae’n stori emosiynol sy’n ein hatgoffa o harddwch ein hamgylchedd yn ogystal â’i freuder a’i fregusrwydd. Mae hefyd yn stori am bobl a’u cysylltiad personol â natur ynghyd â’u cysylltiad â’i gilydd ac yn enghraifft ddisglair o gymuned yn dod at ei gilydd mewn cyfnod o argyfwng er mwyn gweithio tuag at ddyfodol mwy gobeithiol.
Diolch o galon i bob un ohonoch.
Bydd Go Tell The Bees yn un o’r cynyrchiadau byw cyntaf i ni eu cynnal pan fyddwn ni’n gallu dychwelyd i’r llwyfan. Bydd stori trychineb y Sea Empress ym 1996 yn gefndir i’r penwythnos ar ffurf gŵyl wrth i ni weithio ochr yn ochr â phobl Sir Benfro i archwilio sut mae’r gymuned yn dod at ei gilydd ar adegau o argyfwng i amddiffyn ein gilydd a’n hamgylchedd naturiol.
Byddwn yn cyhoeddi rhagor am Go Tell The Bees yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys dyddiadau perfformio, felly gwyliwch y gofod hwn!