Rydym yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i addasu a newid ein rhaglen 2020 yng ngoleuni COVID-19/Coronafirws. Mae NTW wedi penderfynu parhau â The Agency. Rydym yn gweithio gyda phedwar cynhyrchydd annibynnol ac 11 o bobl ifanc yn archwilio syniadau ar gyfer addasu eu dull lle y bo’n bosibl er mwyn symud ar-lein. Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio am ddiweddariadau wrth i ni addasu a newid.
Ar ddydd Sadwrn y 7 o Ragfyr cyflwynodd ein Hasiantau eu syniadau ar gyfer busnesau cymdeithasol neu brosiect i banel gwych o arbenigwyr.
Aelodau’r panel oedd:
Helen Perry – Cynhyrchydd Datblygu | BBC Writersroom
Sarah Leigh – Rheolwr Cyffredinol: Celfyddydau a Chreadigol, Canolfan Mileniwm Cymru
Dan De’ath – Arglwydd Faer Caerdydd
Ade Adedeji – Cyfranogwr blaenorol The Agency
Raidene Carter – Cyfarwyddwr Gweithredol y Theatr Centre
Dyma’r tri syniad gafodd eu dewis gan y Panel:
Worlds on Water
Sadia Yasmin
Dyma brofiad diwylliannol unigryw lle mae cynulleidfa yn mynd ar daith cwch i lawr afon Taf. Ceir them ar gyfer pob taith cwch gyda dylanwadau o gymuned ddiwylliannol benodol sydd wedi gwneud Caerdydd yn gartref iddynt, o Fangladeshaidd i Indiaidd i Somali.
Soldering Sisters
Nabilah Ilyas & Ibado Hussein
Prosiect i annog menywod ifanc i ddilyn gyrfa ym maes peirianneg. Caiff hyn ei wneud drwy gyfres o weithdai mewn ysgolion, mentoriaeth, cysylltu sefydliadau perthnasol â menywod ifanc a bydd digwyddiad yn cysylltu busnesau, mudiadau STEM a menywod ifanc.
Baked Words
Tamanna Ali & Edil Hassan
Gan gyfuno adrodd straeon a bwyd, bydd Baked Words yn gwneud cacennau wedi’u hysbrydoli gan Somalia sydd wedi’u lapio mewn straeon byrion. Y cynllun yw eu gwerthu mewn gwahanol leoliadau ar draws Caerdydd.
Bydd yr Asiantau yn derbyn cefnogaeth penodol am 16 wythnos yn 2020 i helpu i wireddu eu syniadau. Byddant yn ennill sgiliau rheoli prosiect a chyllidebu, ac yn dysgu am bwysigrwydd allgymorth a marchnata.