Fly the Flag
Fly the Flag
Mae Fly the Flag yn gydweithrediad rhwng sefydliadau celfyddydol ac elusennau hawliau dynol sy’n dathlu ac yn ein hatgoffa o’r hawliau dynol yr ydym i gyd yn eu rhannu.
Mae’n codi ymwybyddiaeth o’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ymhlith pobl ifanc ac yn taflu goleuni lle nad yw hawliau dynol yn cael eu parchu.
Eleni, mae Fly the Flag yn tynnu sylw at Erthygl 20 y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol – yr hawl i brotestio.
Ynghyd â’n partneriaid prosiect, rydym yn gwahodd pobl ifanc ar draws holl genhedloedd y DU i gyd-greu gwaith gydag artistiaid theatr blaenllaw a chymdeithion o amgylch y thema hon.
Yma yng Nghymru, byddwn yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i archwilio pŵer protest trwy berfformio, symud a cherddoriaeth.
Bydd yr holl waith hwn yn cael ei ffilmio a’i ddangos mewn dathliad ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, 10 Rhagfyr.
Gwylio'r hysbyseb
Mae Fly the Flag yn cael ei gyd-gynhyrchu gan Fuel, y National Theatre, National Theatre of Scotland, National Theatre Wales a The Mac, Belfast. Yr artist arweiniol ar gyfer y prosiect DU gyfan yw Jenny Sealey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Graeae a hyrwyddwr cynhwysiant anabledd.