Treantur (Kidstown)
26 Gorffennaf - 21 AwstAbout Treantur (Kidstown)
Mae’n amser chwarae.
Gwahoddir plant 6-11 oed i Dreantur gan yr artistiaid Nigel a Louise gyda’r dylunydd Amy Pitt.
Gêm fawr ydy Treantur, a’r plant eu hunain sy’n ei dyfeisio hi.
Ar ôl cael pasbort, bydd y plant yn cael mynediad i ardal chwarae fawr yn yr awyr agored. Bydd pethau yno i chwarae â nhw, i’w hadeiladu ac i’w gwisgo. Bydd cynorthwywyr wrth law i helpu'r plant i wireddu'u dychymyg.
Gwahoddir oedolion i gael hoe, i ymlacio ac i wrando ar y newyddion am yr hyn sy’n digwydd y tu mewn.
Ymunwch â ni yn Treantur:
26-29 Gorffennaf, Y Drenewydd
Y tu allan i Oriel Davies, Y Parc, Y Drenewydd, Powys SY16 2NZ
5-12 Awst, Eisteddfod Genedlaethol Cymru,
Ar y maes, Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd LL53 6DW
Yn yr Eisteddfod, cyflwynir Treantur yn Gymraeg.
18-21 Awst, Glyn Ebwy
Clwb Pêl-droed Beaufort Colts, Teras Brynteg, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent NP23 6NE
Hygyrchedd
Rydyn ni'n cynnig Saesneg gyda chymorth arwyddion, darlunwyr byw, cymorth cymorthyddion radio, sesiynau hamddenol, a theithiau cyffwrdd. Mae gan bob safle fynediad heb risiau ac mae'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Darganfyddwch fwy am bob lleoliad isod.
Yr hyn y mae angen i oedolion fod yn ymwybodol ohono
Mae diogelwch plant yn flaenoriaeth i ni.
Mae angen i oedolion aros ar y safle tra bod y plentyn/plant y maen nhw'n gyfrifol amdano yn Treantur. Pan fyddi di'n dod â dy blentyn/plant i Treantur, byddi di'n cael swnyn tebyg i'r hyn a geir mewn bwyty i ddal gafael ynddo fydd yn gwneud sŵn pan fydd angen i ti gasglu dy blentyn. Mae seddau i oedolion lle y gelli di aros a gwrando ar y darllediad byw o'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i Treantur, ynghyd â thoiledau a lluniaeth yn y cyffiniau (gweler y Cwestiynau Cyffredin am fanylion).
Mae plant yn rhydd i fynd a dod, ac nid yw National Theatre Wales yn gyfrifol am blant ar ôl iddyn nhw adael y safle.
Rydyn ni wedi cydweithio ag arbenigwr diogelu a fydd yn bresennol ym mhob lleoliad. Rydyn ni wedi datblygu Polisi Diogelu ac Asesiad Risg pwrpasol ar gyfer Treantur.
Mae’r holl staff, artistiaid a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn Treantur wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac wedi derbyn hyfforddiant diogelu gan ein Harweinydd Diogelu Dynodedig.
Image gallery
Taith Treantur
Cwrdd â'r creaduriaid
Prosiect yw Treantur rydyn ni wedi’i greu gyda Nigel Barrett a Louise Mari gyda’r dylunydd Amy Pitt.
I’r rheini sydd heb glywed am Nigel a Louise, maen nhw’n creu “perfformiadau gwyllt, beiddgar, gweledol i bobl nad ydyn nhw’n rhy hoff o’r theatr, a phrofiadau theatrig anarferol i’r bobl sydd”.
Ymhlith eu gwaith diweddar mae Dog Ballet (cŵn yn gynwysedig) a Party Skills for the End of the World.
Mynediad
Gwybodaeth gyffredinol
Rydyn ni'n gweithio'n galed i wneud Treantur yn hygyrch i bob plentyn trwy gyfrwng Saesneg â chymorth arwyddion, darlunwyr byw, cymorth cymorthyddion radio, sesiynau hamddenol a theithiau cyffwrdd. Defnyddia'r toglau isod i weld beth sydd ar gael ym mhob lleoliad.
Os hoffet gadw lle yn unrhyw un o'r sesiynau hyn, rho wybod i ni yn kidstown@nationaltheatrewales.org. Er nad oes angen archebu lle, bydd hyn yn ein galluogi i arbed lle i dy blentyn. Byddwn yn dilyn i fyny gyda ffurflen fer i ti ei llenwi i rannu manylion ychwanegol. Bydd unrhyw wybodaeth y byddi di'n ei rhannu yn ein helpu i wella dy brofiad.
Y Drenewydd
28 Gorffennaf
Saesneg â chymorth arwyddion rhwng gan Hafwen Parry a Charlotte Coley 13:00 - 16:00
Darlunydd byw rhwng 13:00 - 16:00
Trosglwyddyddion cymorth radio rhwng 13:00 - 16:00
29 Gorffennaf
Sesiwn hamddenol rhwng 09:30 - 11:00
Taith gyffwrdd gan dywyswyr sy'n gweld am 13:00
Tywyswyr sy'n gweld ar y safle rhwng 13:00 - 16:00
Eisteddfod
7 Awst
Darlunydd byw rhwng 13:00 - 16:00
Trosglwyddyddion cymorth radio rhwng 13:00 - 16:00
8 Awst
Taith gyffwrdd gan dywyswyr sy'n gweld am 13:00
Tywyswyr sy'n gweld ar y safle rhwng 13:00 - 16:00
9 Awst
Sesiwn hamddenol rhwng 09:30 - 11:00
Ebbw Vale
20 Awst
Saesneg â chymorth arwyddion rhwng gan Nez Parr, Dawn Baker ac Angela Shipp 13:00 - 16:00
Darlunydd byw rhwng 13:00 - 16:00
Trosglwyddyddion cymorth radio rhwng 13:00 - 16:00
21 Awst
Sesiwn hamddenol rhwng 09:30 - 11:00
Taith gyffwrdd gan dywyswyr sy'n gweld am 13:00
Tywyswyr sy'n gweld ar y safle rhwng 13:00 - 16:00
Cafodd sylfeini Treantur eu gosod yn y Drenewydd ym mis Awst 2022. Dros bythefnos, bu artistiaid lleol a’r gymuned yn ein helpu i greu prototeip o’r syniad.
Yn ystod haf 2023 yn y Drenewydd, yr Eisteddfod a Glyn Ebwy, rydyn ni'n casglu cyfweliadau a straeon gan gyfranogwyr ifanc Treantur er mwyn creu sioe epig yn 2024.
Cwestiynau Cyffredin
A allaf i adael fy mhlentyn yma?
Na. Mae angen i oedolion aros ar y safle tra bod y plant y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw yn Treantur. Byddi di'n cael swnyn tebyg i'r hyn a geir mewn bwyty fydd yn gwneud sŵn pan fydd angen i ti gasglu dy blentyn. Bydd ein tîm yn rhannu mwy o fanylion wrth fynedfa Treantur ar yr hyn y dylai oedolion ei wneud a lle y galli di ymlacio ac aros tra bod dy blentyn yn cymryd rhan.
Mae fy mhlentyn yn 8. Gall gerdded adref o'r ysgol ar ei ben ei hun, pam fod angen i mi aros?
Mae angen i oedolion aros am resymau diogelu.
Mae fy mhlentyn yn eithaf pryderus, a fydd yn iawn ar ei ben ei hun?
Mae ein tîm o fewn Treantur yn cynnwys pobl sydd â phrofiad o weithio gyda phlant 6-11 oed. Maen nhw wrth law i gefnogi unrhyw blentyn a allai fod angen cymorth.
Mae gennym ni hefyd sesiynau hamddenol os byddai'n well ganddyn nhw chwarae pan fydd ychydig yn dawelach:
Y Drenewydd - 29 Gorffennaf o 09:30 - 11:00
Eisteddfod - 9 Awst o 09:30 - 11:00
Glyn Ebwy - 21 Awst o 09:30 - 11:00
A fydd bwyd a diod ar gael?
Yn y Drenewydd a Glyn Ebwy, rydyn ni'n darparu cinio ar gyfer 100 o blant a byddwn yn ei weini i'r rhai sydd y tu mewn i Treantur o 12pm. Bydd bagiau cinio gyda brechdanau caws, ac opsiynau fegan a heb glwten ar gael, ynghyd â diod, darn o ffrwyth a phecyn o greision. Ni allwn ni gymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw alergeddau.
Bydd dŵr ar gael i blant yn Treantur.
Pa mor hir y gall fy mhlentyn aros?
Cyhyd ag y mae'n dymuno. Gallan nhw fynd a dod fel y mynnan nhw os oes angen iddyn nhw dy weld di neu ddefnyddio'r toiledau. Bydd dy swnyn yn gwneud sŵn pan fydd angen i ti gasglu dy blentyn.
Ble mae'r arian yn mynd?
Rydyn ni'n elusen felly bydd dy gefnogaeth yn ein helpu i wneud mwy o brosiectau theatr fel hyn ledled Cymru. Cofrestra ar gyfer ein cylchlythyr i ddarganfod mwy mewn ychydig o gliciau.
Mae fy mhlentyn bron yn 6 oed / dim ond newydd droi'n 12 oed, a all ddod i mewn?
Yn anffodus, na. Mae Treantur wedi ei greu yn arbennig ar gyfer plant 6-11 oed. Os bydd oedolion yn dod â phlant hŷn neu iau, bydd rhai gemau y tu allan ger y seddi iddyn nhw eu mwynhau tra byddan nhw'n aros.
Sut mae dod o hyd i Treantur yn yr Eisteddfod?
Rydyn ni ym Pentref Plant. Dyma fap o'r safle. Mae Treantur ar agor rhwng 11am a 4pm bob dydd.
Sut ydw i'n dod o hyd i Treantur yng Nglyn Ebwy?
Cyrraedd ar droed - mae Treantur yn cael ei gynnal ar gaeau pêl-droed Clwb Pêl-droed Beaufort Colts, yn 69 Teras Brynteg.
Cyrraedd mewn car - Mae parcio am ddim ar gael drws nesaf i Glwb Pêl-droed Glynebwy RTB, sydd ar ôl Clwb Pêl-droed Beaufort Colts ar Deras Brynteg. Mae un lle parcio anabl y tu allan i Glwb Pêl-droed Beaufort Colts.
Cyrraedd ar feic - Mae ffens o amgylch y clwb pêl-droed y gellir gosod beiciau'n sownd iddi.
Cyrraedd ar fws/trên - Mae gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn Traveline Cymru.
Mae gorsaf drenau Tref Glynebwy tua 23 munud ar droed o Deras Brynteg. Mae’r bws E1 yn rhedeg o Swyddfeydd Cyffredinol Corus, taith gerdded 3 munud o orsaf drenau Tref Glynebwy, i Ganolfan Siopa Hilltop, sydd 5 munud ar droed o Glwb Pêl-droed Beaufort Colts.
What3words - husky.imagined.fame
Cast
- Y Wasg
- Nigel Barett
- Y Wasg
- Louise Mari
- Y Wasg
- Mirain Fflur
- Y Wasg (Eisteddfod)
- Aaron William-Davies
- Y Wasg (Eisteddfod)
- Ceri Ashe
Y tîm creadigol
- Dylunydd
- Amy Pitt