Gweithio gyda ni

Bydd gwreichion creadigol yn tasgu pan fydd gwahanol bobl yn dod ynghyd.

Mae ein drws ni wastad yn agored, a’r croeso’n gynnes i bobl frwd sy’n awyddus i ymuno â ni ar ein siwrnai i rannu straeon, creu cysylltiadau a sbarduno newid cadarnhaol.

Mae hyn mor bwysig i ni, mae’n rhan o’n maniffesto.

Rydyn ni yma i bawb. Felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb hefyd. Rydyn ni’n theatr i holl bobl a chymunedau Cymru, waeth beth fo cefndir, hunaniaeth, profiad bywyd neu gredoau rhywun.

Rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl yn wynebu mwy o rwystrau na phobl eraill, ac rydyn ni’n gweithio’n galed i gael gwared ar y rhain. Mae mwy o wybodaeth fan hyn.

Os wyt ti’n dal i bendilio ynghylch gwneud cais, cysyllta â ni am sgwrs – fe wnawn ni egluro popeth i dy helpu i benderfynu.

Wyt ti’n weithiwr llawrydd?

Dydyn ni ddim yn un o’r cwmnïau sy’n gwneud popeth yn unffurf. Mae theatr yn golygu dod â straeon neu syniadau’n fyw o ddim byd, ac mae pob math o sgiliau a phrofiadau sy’n hollbwysig wrth wneud i hynny ddigwydd. Rydyn ni wastad yn chwilio am bobl nad ydyn ni wedi cael cyfle i weithio gyda nhw eto.

Cyfleoedd yn y tîm cynhyrchu

O ddylunio’r goleuo i reoli llwyfan, o oruchwylio’r gwisgoedd i drefnu sioeau, fe fydden ni wrth ein boddau’n clywed gennyt ti. Anfona nodyn aton ni: production@nationaltheatrewales.org.

Cyfleoedd yn y tîm cynulleidfaoedd

Ni sy’n adrodd straeon NTW, gan roi gwybod i bobl am y gwaith rydyn ni’n ei wneud a’r sioeau rydyn ni’n eu creu, a hynny mewn ffyrdd creadigol, newydd, trawiadol. Os wyt ti’n ysgrifennu copi, yn awdur, yn wneuthurwr ffilmiau, yn olygydd, yn flogiwr neu’n animeiddiwr, neu os oes gen ti ffyrdd gwych o gyfuno’r rhain i gyd i greu rhywbeth arbennig, fe fydden ni wrth ein boddau’n gweld beth rwyt ti’n gallu’i wneud. Rho floedd i ni: content@nationaltheatrewales.org.

Os oes gen ti rywbeth i’w gyfrannu, a ninnau heb sôn am hynny, cysyllta ar bob cyfrif: work@nationaltheatrewales.org.