Ni yw National Theatre Wales

Rydym yn cydweithio â phobl a lleoedd i wneud theatr bwerus, ddewr wedi’i hysbrydoli gan brofiadau a straeon ein cenedl. Ers ein sefydlu fel cwmni theatr Saesneg Cymru, rydym wedi bod yn dod â phobl ynghyd i ail-ddychmygu a gwthio ffiniau’r hyn y gall ac y dylai theatr fod.
Mae ein gwaith wedi’i ffurfio o gysylltiadau a wnaed rhwng cymunedau a gwneuthurwyr theatr; ail-lunio canfyddiadau o beth yw theatr, sut mae’n cael ei wneud a ble mae’n digwydd. Yn ystod ein deng mlynedd gyntaf rydym wedi ymgorffori ein hunain yng ngwahanol gymunedau Cymru, gan adeiladu partneriaethau a chysylltiadau i ddarganfod ac adrodd straeon ar amrywiaeth o wahanol lwyfannau: traethau, mynyddoedd, meysydd hyfforddi milwrol, warysau, clybiau nos, neuaddau pentref, theatrau, a siedau awyrennau i enwi ond ychydig; yn ogystal â chyrraedd cynulleidfa fyd-eang trwy ddulliau arloesol ac arbrofol at theatr ddigidol.
Trwy TEAM a Datblygu Creadigol, rydym wedi torri tir newydd gan weithio’n gynhwysol gyda chymunedau a gwneuthurwyr theatr. Trwy gysylltu pobl a chreadigrwydd yn eu hardaloedd a’u tirweddau eu hunain, rydym yn ailfeddwl y ffordd y mae gwaith yn cael ei wneud wrth greu cyfleoedd a phrofiadau trawsnewidiol sy’n dyfnhau effaith a gwerth theatr.
Partneriaid