News Story

Meddylia yn ôl i hydref 2022. Roedd newyddion am ein partneriaeth ag Unlimited ar goedd. Gwobr wedi’i dylunio i roi cyfle i artistiaid anabl greu gwaith newydd rhyfeddol.

Gwahoddon ni ddatganiadau o ddiddordeb gan artistiaid oedd yn awyddus i gydweithio â ni i ddatblygu gwaith perfformio byw, gyda gwobr o £30,000 i’w helpu i wireddu eu syniadau. Cyrhaeddodd pedwar artist ein rhestr fer pob un ohonyn nhw â syniadau gwych.

Rydyn ni'n falch iawn o rannu bod panel o benderfynwyr allanol a mewnol wedi dewis Krystal S. Lowe i ddatblygu ei sioe ddawns un fenyw: Interwoven gyda ni.

Bydd y syrcas gyfoes hon yn cwrdd â theatr ddawns yn canolbwyntio ar fynediad a mwynhad cynulleidfa niwroamrywiol.

Mae unigolyn yn sefyll, yn pwyso gyda'i ben a'i freichiau'n gwyro'n ôl. Mae props y tu ôl iddynt.
Credyd: Sian Trenberth 2019

Bydd Krystal yn animeiddio cyfres o straeon byrion bywgraffyddol a hunangofiannol a cherddi o bob rhan o Gymru drwy ddawns gyfoes a bale tra’n archwilio’r cyfleoedd adrodd straeon sy’n ymwneud â harddwch Du.

Yn Interwoven, mae diwylliant gwallt du yn cael ei weu i gyfatebiaeth ar gyfer y profiad dynol tra'n dathlu gofal ac agosatrwydd Du.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd Krystal yn gweithio ochr yn ochr â ni, dramaydd ac Unlimited. Hyd yn hyn, mae ein cynlluniau yn cynnwys:

  • Casglu straeon
  • Datblygu'r sgript
  • Edrych ar ddyluniad set
  • Profi sain a symud
  • Archwilio perfformiadau hamddenol gyda chynulleidfaoedd niwroamrywiol mewn golwg

Bydd hyn yn arwain at ddigwyddiad rhannu cyhoeddus y gwanwyn nesaf, felly cadwa dy lygaid ar agor i weld y daith yn datblygu. Yn y cyfamser, chymerwch ran yn ei hymchwil trwy rannu straeon am eich gwallt.

We want to shake things up and bring people together to inspire change. But this won’t happen if we uphold a culture and ways of doing things that exclude disabled people. It matters to us that theatre is for everyone. This new partnership with Unlimited will give Krystal the opportunity to indulge her imagination, be bold and ambitious. We’re excited to share her story.

Lorne, Cyfarwyddwr Artistig NTW


Rydyn ni'n gyffrous iawn i fod yn gweithio gydag Unlimited am y tro cyntaf. Bydd Unlimited yn comisiynu gwaith rhyfeddol gan artistiaid anabl hyd nes y bydd y sector diwylliannol cyfan yn gwneud hynny. Bydd y gwaith hwn yn newid ac yn herio'r byd. Mae eu Gwobrau Partner a gynhelir bob dwy flynedd yn cael eu hariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland a 13 o sefydliadau partner o bob rhan o’r DU, gan gynnwys NTW.

Mae Interwoven yn cyd-fynd yn llwyr â’n cenhadaeth gwneud newid, a gobeithiwn y bydd y syniadau hyn yn parhau i arwain at newid cadarnhaol yn y celfyddydau Cymreig ymhell i’r dyfodol.