Press releases

Os oes gennych ymholiad cyfryngau, cais gan y wasg neu os ydych yn chwilio am luniau i'r wasg, cysylltwch â ni ar press@nationaltheatrewales.org.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Tocynnau i'r wasg

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o docynnau i’r wasg ar gyfer y rhan fwyaf o’n cynyrchiadau, gan roi blaenoriaeth i newyddiadurwyr sy’n ysgrifennu adolygiadau. Nid yw bob amser yn bosibl cynnig tocyn ychwanegol. Weithiau nid yw i fyny i ni pwy all gael tocyn - ar gyfer rhai digwyddiadau, y lleoliad sy'n gwneud y penderfyniad.

Ein testun parod

Cwmni theatr crwydrol yw National Theatre Wales sy’n bodoli i ddarganfod ac adrodd straeon mwyaf grymus Cymru a’i phobl. Mae’n ddrych ac yn chwyddwydr i bawb ohonon ni.

Dydyn ni ddim wedi ein clymu i adeilad. Mae hynny’n rhoi’r rhyddid i ni wneud popeth yn greadigol, gan gysylltu pobl, llefydd a syniadau i ddod â straeon yn fyw.

Fe gawson ni ein sefydlu yn 2011 fel cwmni theatr Saesneg Cymru, a’n gwaith ni yw creu cymuned ledled y wlad o wneuthurwyr theatr a chynulleidfaoedd, gan groesawu pobl o bob cefndir. TEAM; dyma ein ffordd o weithio gyda chymunedau, ac mae’n allweddol yn hyn o beth. Mae’n creu cyfleoedd creadigol i bobl a allai fod wedi meddwl erioed nad yw’r theatr yn rhywbeth iddyn nhw.

Rydyn ni’n elusen gofrestredig (rhif 1127952) ac rydyn ni’n dibynnu ar haelioni rhoddwyr allanol er mwyn ffynnu. Cyngor Celfyddydau Cymru yw ein prif noddwr.

Mae popeth yn dechrau gyda sgwrs yma yn NTW, ac rydyn ni wastad yn awyddus i glywed gan bawb a hoffai gymryd rhan.

nationaltheatrewales.org

Datganiadau diweddar i'r wasg

List of press Articles

  1. National Theatre Wales yn penodi dau Gyd-Gadeirydd i arwain y cwmni

    10 Mai 2023
    Mae National Theatre Wales yn gosod cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a ffocws ar lesiant yn graidd i’w Weledigaeth wrth greu newid. Mae’r cwmni angen…
  2. Cynhyrchiad tair rhan newydd yn y Grand Abertawe yn codi dau fys ar yr argyfwng costau byw

    31 Ionawr 2023
    Rhwng 17-25 Mawrth, bydd cynhyrchiad tair rhan newydd ac uchelgeisiol gan National Theatre Wales, sef The Cost of Living, yn cael ei berfformio yn Theatr…
  3. Datganiad ar TEAM NTW

    12 Rhagfyr 2022
    O dan gyfarwyddyd Devinda De Silva, mae TEAM wedi bod yn fodel ymgysylltu arloesol sy’n arwain y sector. Rydym wedi gosod pobl wrth galon ein ffordd o…
  4. Dyn yn sefyll gyda'i freichiau o amgylch dynes, a'r ddau yn darllen sgriptiau.

    Cynhyrchiad newydd sbon wedi’i greu gan, gyda, ac ar gyfer pobl Wrecsam

    3 Tachwedd 2022
    Mae consuriwyr a gwneuthurwyr mapiau, breuddwydwyr a datblygwyr yn ymgynnull mewn man cyfarfod rhwng y byd real awn a'r rhyfeddol. Wedi’i chreu gan, gyda,…
  5. Grŵp o bump o bobl yn cynrychioli cymysgedd o rywiau ac ethnigrwydd yn sefyll mewn ffurfiant. Mae un yn chwarae trombôn, mae un yn chwarae trwmped. Mae'r fenyw yn y canol yn dal cansen.

    Nod National Theatre Wales yw sbarduno newid yn y modd yr ydym yn mynegi galar a cholled gyda sioe newydd ymdrochol yn cynnwys straeon bywyd go iawn

    20 Mai 2022
    Mae National Theatre Wales yn cyhoeddi ei gynhyrchiad diweddaraf, Circle of Fifths, profiad theatr ymdrochol wedi’i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm a…
  6. Golygfa goedwig gyda swigen enfawr yn cynnwys y gair FRANK wedi'i arosod yn y canol.

    Bardd a gweithiwr mewn ffatri gwrthwenwyn nadroedd o orllewin cymru yn ymddangos am y tro cyntaf ar y sgrin fawr

    28 Chwefror 2022
    Mae Frank Thomas, bardd a gweithiwr mewn ffatri gwrthwenwyn nadroedd, wedi cydweithio gyda National Theatre Wales a’r Jones Collective ar ffilm fer newydd…
  7. Llun manwl o law rhywun yn ysgrifennu ar bapur.

    Am ddrama: galwad agored am sgriptiau gan ddramodwyr yng Nghymru

    1 Chwefror 2022
    Mae Am Ddrama yn gynllun ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a National Theatre Wales i ddod o hyd i sgriptiau a dramâu newydd a…
  8. Dyn ifanc yn gwisgo sbectol yn dal bysellfwrdd. Menyw ifanc sy'n dal meicroffon â'i breichiau o'i gwmpas.

    Mae National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August012 yn ymuno â’I gilydd I gydgynhyrchu Petula – sioe amlieithog ac arallfydol ar gyfer pobl ifanc cymru

    1 Rhagfyr 2021
    Y cysyniad a’r cyfarwyddo gan Mathilde Lopez, yn seiliedig ar ddrama Fabrice MelquiotComedi swreal am gariad, colled a’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc…
  9. Dyn yn gwisgo siwt yn sefyll o flaen y geiriau 'PWYLLWCH' mewn llythrennau mawr ar sgrin.

    National Theatre Wales yn cyhoeddi Possible, sioe newydd amserol a oedd yn mynd I fod yn ymwneud â chariad… ac yna daeth COVID-19

    20 Mai 2021
    Sioe newydd, Possible, wedi’i chyflwyno gan National Theatre Wales i’w ffrydio’n fyw rhwng 29 Mehefin – 2 Gorffennaf ac ar alw rhwng 6 – 13 Gorffennaf…
  10. Ffotograff du a gwyn o orwel dinas.

    Tîm creadigol, dan arweiniad National Theatre Wales, wedi’I ddewis I gynrychioli Cymru yn yr ŵyl creadigrwydd ledled y DU yn 2022

    1 Chwefror 2021
    Yn cynnwys 12 aelod o’r tîm o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM) yng Nghymru, mae Casgliad Cymru, dan arweiniad…