Press Story

Mae Frank Thomas, bardd a gweithiwr mewn ffatri gwrthwenwyn nadroedd, wedi cydweithio gyda National Theatre Wales a’r Jones Collective ar ffilm fer newydd a fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf mewn achlysur sgrinio arbennig yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, nos Fawrth 22 Chwefror. Ar ôl y sgrinio, bydd y ffilm yn ymddangos ar-lein a bydd modd i gynulleidfaoedd ledled Cymru ei gwylio ar wefan National Theatre Wales tan 21 Mawrth.

Ffilmiwyd FRANK mewn swigen blastig enfawr yng nghanol Coedwig Cas-gwent yn Sir Fynwy. Mae’n ffilm hardd a theimladwy sy’n dilyn ymdrech Frank i ddygymod â marwolaeth ddiweddar ei dad.

Y bwriad gwreiddiol ar gyfer y ffilm amserol hon sy’n sôn am alar a cholled oedd ei pherfformio ar ffurf profiad theatrig yng nghrombil coedwigoedd Cymru. Ond ar ôl i’r pandemig daro, buan iawn y gwelwyd y byddai’n amhosibl dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd mewn swigen blastig enfawr dan gyfyngiadau Covid. Bu FRANK yn llafur cariad i’w chyd-greawdwyr Buddug James Jones a Jesse Briton, a bellach mae’r gwaith wedi cael ei ailddehongli ar ffurf ffilm fer, ac mae’n cynnwys barddoniaeth wreiddiol gan Frank Thomas a cherddoriaeth gan Sam Jones.

Mae’r Jones Collective wedi’i leoli yng Nghymru, a chaiff ei ysbrydoli gan y bobl a’r cymunedau y daw ar eu traws. Mae gwaith blaenorol y cwmni yn cynnwys Hiraeth, a enillodd Wobr Theatr Cymru ar gyfer ‘Y Cynhyrchiad Gorau yn y Saesneg’ (2015). Cafodd FRANK ei hysbrydoli gan, a’i chreu gyda, Frank Thomas. Ac yntau’n anfodlon gyda’i swydd mewn ffatri wrthwenwyn oeraidd, mae’r ffilm yn ailymweld ag atgofion Frank yn y gobaith y bydd modd rhoi trefn ar berthynas gymhleth rhwng tad a mab. Daw’r ffilm i’w hanterth gyda cherdd a ysgrifennodd Frank ar gyfer araith angladdol ei dad. Wrth edrych yn ôl ar y prosiect, dyma a ddywedodd Frank:

“Dw i’n cofio cael sgwrs gyda’r Jones Collective, ac fe ddywedon nhw eu bod eisiau creu sioeau am fywydau pobl go iawn. Allwn i ddim credu eu bod eisiau gwneud sioe amdana i. Roedd gen i swydd ddiddorol yn gwneud gwrthwenwyn, a hefyd roeddwn i’n perfformio ar lafar, ond dim ond pan ddechreuon ni ymchwilio i syniadau y daethon nhw i f’adnabod i mewn gwirionedd. Pan fu farw fy nhad, daeth y prosiect yn fwy personol fyth. Fe wnaethon ni siarad am fy nhad a’n perthynas, ac fe fwydodd hynny i gyd i’r stori.”

Mae’r ffilm yn cyfosod amgylchedd oeraidd y swigen blastig enfawr, a grëwyd gan yr artistiaid Plastique Fantastique o’r Almaen, â lleoliad hardd y goedwig. Bu modd ffilmio yng Nghoedwig Cas-gwent trwy gefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. I Jesse Briton a Buddug James Jones o’r Jones Collective, mae siwrnai annhebygol y sioe wedi bod yn daith a hanner. Yn ôl Jesse Briton:

“Teg yw dweud nad oedd yr un ohonon ni’n disgwyl i’r broses o greu ffilm fod yn waith hawdd. Ond erbyn gweld, roedd yr heriau logistaidd a chreadigol ymhell y tu hwnt i’r hyn roedden ni wedi’i ragweld. Cafodd dull hamddenol y theatr o weithio, lle mae pawb yn arfer rhannu’r gwaith ymhlith ei gilydd, ei ddisodli gan amserlen ffilmio gaeth. Heb sôn am y drafferth o ran recriwtio criw yn ystod un o’r cyfnodau prysuraf erioed, o bosibl, yn hanes cynyrchiadau teledu a ffilm yn Ne Cymru.”

Er gwaethaf yr heriau, mae Buddug James Jones yn edrych ymlaen at gael rhannu’r prosiect gyda chynulleidfaoedd o’r diwedd. Ochr yn ochr â sgrinio’r ffilm yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, fe fydd yna berfformiad byw gan Frank a sesiwn holi ac ateb gyda Buddug, Jesse a’r tîm creadigol. Meddai Buddug James Jones:

“Fydden ni ddim wedi gallu creu’r ffilm heb gefnogaeth ac amynedd y tîm anhygoel sydd gennym. Mae pob un ohonon ni wedi dysgu cymaint wrth symud o berfformiadau byw i ffilm. Rydym yn llawn cyffro ynglŷn â dangos yr hyn a grëwyd gennym – cyfle i gynulleidfaoedd weld y tu mewn i’r adeiledd hynod hwn a chlywed geiriau bendigedig Frank a thrac sain trawiadol Sam.”

Bydd FRANK yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd am 7pm ar 22 Chwefror. Mae’r tocynnau’n costio £6 a gallwch eu prynu ar-lein ar chapter.org.

Bydd y ffilm yn cael ei dangos ar-lein am 8pm ar 22 Chwefror a bydd modd ichi ei gwylio ar gais yn rhad ac am ddim ar nationaltheatrewales.org/frank tan hanner nos ar 21 Mawrth.