FRANK
Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi’i archifoAbout FRANK
Ynglŷn FRANK
‘Rydym i gyd wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i wylio mynydd yn araf droi’n llwch. Fy nhad oedd fy un i.’
Wedi’i gynnwys yn amgylchedd di-haint ffatri gwrth-wenwyn nadroedd yng Ngorllewin Cymru, mae Frank yn brwydro i ddod i delerau â marwolaeth ddiweddar ei dad. Yn anfodlon ar ei swydd, mae’n ailymweld ag atgofion â’r gobaith o newid ei ddyfodol a thawelu perthynas tad-mab gymhleth.
FRANK yn ffilm fer iasol o hardd ac ingol sy’n cynnwys barddoniaeth wreiddiol gan Frank a cherddoriaeth gan Sam Jones.
Wedi’u lleoli yng Nghymru, mae’r Jones Collective yn cael eu hysbrydoli gan y bobl a’r cymunedau y maent yn cwrdd â nhw. Mae FRANK wedi’i ysbrydoli gan, a’i greu gyda’r bardd a’r gweithiwr ffatri gwrth-wenwyn nadroedd go iawn, Frank.
Eleven minutes of depth and nuance… honestly moving, visually strong, and like all good short films, lingers like a flash in the darkness.
Wales Arts Review
Dangoswyd FRANK am y tro cyntaf yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar 22 Chwefror 2022 ac roedd ar gael i’w gwylio ar-lein tan 21 Mawrth 2022. Jones Collective, National Theatre Wales a Frank Thomas mewn cydweithrediad â Plastique Fantastique.
Image gallery
Oriel luniau
You might also be interested in
Podlediad Bubble o’r Jones Collective a Plastique Fantastique
19 Tachwedd 2020Bwriad y Jones Collective a Plastique Fantastique oedd treulio eleni yn fforestydd a choedwigoedd Cymru, gan rannu eu cydweithrediad artistig FRANK, sioe…Gwneud FRANK: o’r goedwig i’r sgrin
21 Ionawr 2022Wedi’i greu gan The Jones Collective a National Theatre Wales, Frank yw stori taith un dyn trwy natur a galar, yn seiliedig ar brofiadau’r bardd go iawn…FRANK yn blwmp ac yn blaen
21 Ionawr 2022Cyn dangosiad cyntaf FRANK ar-lein, cafwyd sgwrs â'r awduron Buddug James Jones, Jesse Briton a Frank Thomas i ddysgu mwy ynghylch ei daith o'r papur i'r…
Y tîm creadigol
- Cyfarwyddwr / Awdur
- Jesse Briton
- Cyfarwyddwr / Dylunydd
- Buddug James Jones
- Perfformiwr / Awdur
- Frank Thomas
- Cyfansoddwr
- Sam Jones
- Cyfarwyddwr ffotograffiaeth
- George Morris
- Cynhyrchydd
- Gavin Porter