Cysylltu

Os hoffet ti gysylltu â ni, os oes gennyt ti gwestiwn, neu os hoffet ti roi rhywfaint o adborth inni, anfona neges neu rho alwad inni.

Dros y ffôn

029 2035 3070 (Llun - Gwener, 10am - 5pm)

Ein cyfeiriad

National Theatre Wales, 30 Arcêd y Castell, Caerdydd CF10 1BW

Adborth

Rydyn ni’n croesawu pob darn o adborth – yn dda ac yn ddrwg. Os am ganmol neu gwyno, fe fyddwn ni’n gwrando, ac yn trosglwyddo’r neges i’r unigolyn perthnasol, gan ymateb yn y ffordd iawn.

Os byddi di’n anfon e-bost aton ni, fe wnawn ni ein gorau glas i ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae gen i docynnau i un o’ch sioeau. A oes modd eu casglu o’ch swyddfa yn Arcêd y Castell?

Os gweli di’n dda, paid â dod i’n swyddfa yn Arcêd y Castell i gasglu dy docynnau. Dydyn ni ddim yn eu cadw nhw fan hyn, felly fe fydd hi’n siwrnai seithug. Os bydd angen, fe fyddwn ni’n cyfathrebu’n uniongyrchol â’r sawl sydd â thocynnau ynghylch ble a sut y mae modd casglu tocynnau.

Rydw i’n chwilio am fanylion cyswllt aelod penodol o’ch tîm

Os wyt ti’n gwybod gyda phwy yr hoffet ti siarad, mae manylion ein tîm o staff a sut i gysylltu â nhw ar gael fan hyn.

Sut mae cysylltu â NTW TEAM?
A oes modd siarad â rhywun yn Gymraeg?

Oes, fe fydden ni wrth ein boddau yn clywed gennyt ti yn Gymraeg. Mae siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg yn y tîm, felly fe fyddwn ni wastad yn ceisio ymateb yn yr iaith rwyt ti’n dewis ei defnyddio.

Os ydych chi'n dod i gyfarfod lle hoffech chi sgwrsio gyda ni yn Gymraeg, gofynnwch a chwi a gewch.

Rydw i’n awdur. A oes modd anfon fy sgript atoch chi?

Rydyn ni’n gofyn yn garedig i bobl beidio ag anfon sgriptiau aton ni os nad ydyn ni wedi gofyn iddyn nhw wneud hynny. Mae gennyn ni gyfleoedd fel Play On, a byddwn ni’n cyhoeddi galwadau agored am sgriptiau drwy’r cynlluniau hyn. Cadwa olwg ar ein gwefan ac ar ein cyfryngau cymdeithasol, neu cofrestra i gael ein cylchlythyr er mwyn bod ymhlith y cyntaf i glywed am y rhain.

Rydw i’n awyddus i fagu profiad yn gweithio ym maes y theatr. Ydych chi’n cynnig lleoliadau gwaith?

Tîm bach ydyn ni, felly does gennyn ni ddim rhaglen barhaus o leoliadau, ond rydyn ni’n ceisio ymateb yn ffafriol i geisiadau pan allwn ni. Yn benodol, rydyn ni eisiau helpu’r bobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf wrth wirfoddoli. Os hoffet ti drafod ymuno â ni dros dro, cysyllta ar bob cyfrif.