Cydweithio

Creu cysylltiadau – dyna waith y theatr

A dyna pam ein bod ni yma: i wahodd pobl i ddod ynghyd, i ddefnyddio’r theatr fel ffordd o gysylltu â’i gilydd, a hynny ym mhob cwr o Gymru.

Ei phobl a’i llefydd – dyna pwy yw Cymru. Mae ein cymunedau ni’n llawn dop o bobl sy’n creu, sy’n gwylio, sy’n breuddwydio ac sy’n adrodd straeon. Rydyn ni’n gwmni theatr cenedlaethol i holl bobl amrywiol ein gwlad; i’w hynt a’u helynt a’u hieithoedd nhw i gyd.

Ac i bawb sydd, tan nawr, wedi teimlo nad yw’r theatr yn rhywbeth iddyn nhw. I’r perfformwyr a’r gwneuthurwyr theatr sydd heb gael cyfle i greu eu gwaith ac i adrodd eu straeon o’r blaen. I’r cymunedau a’r diwylliannau sy’n edrych ar lwyfannau heb weld eu hadlewyrchiad nhw’u hunain yno.

Mae Cymru yn gwiar, yn draws, yn Fyddar, yn anabl, yn fioamrywiol, yn ddosbarth gweithiol, yn Fwyafrif Byd-eang, yn wledig, yn drefol, ac yn bopeth yn y canol – Cymru yw pawb ohonon ni.

Felly, rydyn ni’n cysylltu ac yn cydweithio. Rydyn ni’n dwyn pobl ynghyd i ddychmygu.

Wedi'i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.