Ein hymrwymiadau

Rydyn ni’n cyd-greu

Bydd gwreichion creadigol yn tasgu pan fydd cyfle i wahanol bobl ddod at ei gilydd. Rydyn
ni’n cefnogi ein gilydd a’r bobl sy’n gweithio gyda ni, er mwyn cyrraedd lle annisgwyl.

Rydyn ni’n hyblyg

Mae bod heb adeilad yn fendith. Rydyn ni’n achub ar bob cyfle a ddaw yn sgil hyn i gyrraedd
llefydd newydd, yn gorfforol ac yn feddyliol. Rydyn ni’n hyblyg ac yn rhydd.

Rydyn ni’n codi sgwarnogod

Rydyn ni’n bodoli i greu cynnwrf, i ofyn cwestiynau, i dynnu’n groes ac i ddefnyddio ein
dychymyg. Wrth roi’r pethau hyn ynghyd, rydyn ni’n sbarduno newid cadarnhaol.

Rydyn ni’n gwmni i bawb

Mae ein drws ar agor a’n croeso’n gynnes. Fydd traddodiad ddim yn rhwystr inni. Ac wrth
wahodd pobl i ymuno a ni, nhw fydd y bobl sy’n disgwyl hynny leiaf.

Ni yw National Theatre Wales