Cefnoga ni

A ninnau’n elusen, rydyn ni’n dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr. Bydd dy help di’n hollbwysig wrth ddefnyddio creadigrwydd pobl ym mhob cwr o Gymru i fynd ati ar y cyd i ddychmygu a chreu byd mwy cyfartal a chynaliadwy.

Rydyn ni’n creu theatr gwych – ac yn sbarduno newid sy’n para yn y mannau lle byddwn ni’n gweithio. Ers 2010, rydyn ni wedi cysylltu â dros 331,000 o aelodau cynulleidfaoedd byw a 8.2 miliwn o rai digidol, ac wedi ymwneud â 104,000 o gyfranogwyr cymunedol.

Ond mae peth wmbreth o waith o hyd i’w wneud a ninnau’n byw mewn oes llawn ansicrwydd cymdeithasol ac economaidd aruthrol.

Bydd dy gymorth di’n ein helpu i wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol a chyrraedd pawb a hoffai fod yn rhan o’n gwaith – ac yn enwedig y bobl hynny sy’n credu nad yw’r theatr ar eu cyfer nhw.

Mae’n bryd i ni greu cenedl egnïol, greadigol, hyderus. Gyda’n gilydd, fe allwn ni newid pethau.

Cyfrannu rhodd

Byddi di’n helpu gwaith gyda gwneuthurwyr, gwrandawyr, gwylwyr, gweithwyr, rhanwyr a breuddwydwyr Cymru.

Byddi di’n hyrwyddo’r theatr yn ei ystyr ehangaf, sef siwrnai sy’n cysylltu, cwestiynu, synnu a gwefreiddio pobl.

Byddi di’n rhan o’r crychdonnau mawr sy’n ysbrydoli newid, a hynny ym mhob cwr o’n cenedl.

Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth.

Cadw mewn cysylltiad

Rydyn ni’n gwybod nad oes modd i bawb wneud cyfraniad ariannol. Mae cefnogi NTW yn golygu mwy o lawer na hynny – mae sgwrsio â ni ac amdanon ni hefyd yn werthfawr tu hwnt.

Felly, cofrestra i fod ar ein rhestr bostio, rhanna bethau sy’n ymddangos ar ein platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol (Instagram, Facebook a Twitter), neu’n syml, rho wybod i dy ffrindiau amdanon ni. Rydyn ni eisiau dod i dy ’nabod di.