Ymddiriedolaethau a sefydliadau

Ers ei ffurfio, mae NTW wedi gweithio gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau a chyrff eraill sy’n rhoi grantiau, gyda’r nod o greu theatr arloesol a dilyn ein model cydweithio unigryw o’r enw TEAM. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am eu cefnogaeth amhrisiadwy.

Dyma gipolwg ar rai o’r pethau maen nhw’n ein helpu i’w cyflawni.

  • Esmée Fairbairn Foundation. Rydyn ni eisiau ehangu gweithlu creadigol Cymru drwy helpu artistiaid a chydweithfeydd rhyfeddol i greu gwaith sy’n chwalu disgwyliadau. Rydyn ni’n helpu gwneuthurwyr theatr yng Nghymru i wneud pethau nad ydyn nhw wedi’u gwneud o’r blaen, er mwyn newid ein dealltwriaeth o beth yw theatr yng Nghymru a beth y gall hwnnw fod. Mae’r Esmée Fairbairn Foundation yn ein helpu ni i wneud yr union beth hwnnw. Dyma rydyn ni'n ei wneud - a pham.

  • Paul Hamlyn Foundation. Creu cysylltiadau sy’n tanio gwreichion creadigol ym mhob cwr o Gymru – dyna ein holl bwrpas ni. Mae TEAM yn ganolog i hyn ac mae’r gwaith anhygoel hwn yn bosibl drwy gefnogaeth hael y Paul Hamlyn Foundation. Dyma fwy o wybodaeth am TEAM.

  • John Ellerman Foundation. Rydyn ni’n gweithio gyda gwneuthurwyr theatr yng Nghymru i ddatblygu gwaith a gyrfaoedd. Mae pawb yng Nghymru – a’r tu hwnt – yn elwa wrth eu helpu nhw i ragori. Mae’r John Ellerman Foundation yn helpu i ddatblygu gweithwyr ym myd y ddrama er mwyn iddyn nhw archwilio a datblygu ffyrdd newydd o weithio, cwestiynu sut byddwn ni’n creu theatr, a holi beth yn rhagor y gallwn ni’i wneud i ysbrydoli rhagoriaeth. Dyma fwy o wybodaeth am ein gwaith datblygu creadigol.

  • Mae’r PRS Foundation, prif ariannwr elusennol y DU ar gyfer cerddoriaeth newydd a datblygiad talent, yn cefnogi Feral Monster, drama newydd gerddorol pyrotechnic, anhrefnus gan Bethan Marlow a gyfarwyddwyd gan Izzy Rabey, gyda Nicola T. Chang fel y cyfarwyddwr cerddorol, am y llanast, dryswch, perygl a’r posibilrwydd o fod yn ferch ifanc queer yn ei harddegau mewn man sy’n cael ei hanwybyddu mewn cenhedlaeth sy’n cael ei hanwybyddu.


Diolch i’n cefnogwyr blaenorol

  • Andrew Lloyd Webber Foundation
  • Ashley Family Foundation
  • Baring Foundation
  • Big Lottery Fund
  • Boris Karloff Charitable Trust
  • Calouste Gulbenkian Foundation
  • Carne Trust
  • Colwinston Charitable Trust
  • Goethe Institute
  • Great Britain Sasakawa Foundation
  • Gwendoline and Margaret Davies Charity
  • Japan Foundation
  • Jerwood Charitable Foundation
  • Laura Ashley Foundation
  • Mackintosh Foundation
  • Rayne Foundation
  • Tolkien Trust