Datblygu creadigol

Does dim theatr heb y bobl sy’n ei greu.

Mae Datblygu Creadigol yn NTW yn digwydd mewn sawl ffurf – ond mae’r syniad sylfaenol yn go syml. Rydyn ni yma i gefnogi artistiaid, gweithwyr creadigol, gwneuthurwyr theatr, cydweithfeydd – pwy bynnag wyt ti neu ydych chi. Ein nod ni yw rhoi cyfleoedd i bobl ddatblygu eu hymarfer a mynd ati i greu eu gwaith. Gwaith sy’n gwthio’r ffiniau, ac yn newid gwedd y theatr yng Nghymru.

Cefnogwyd gan Sefydliad John Ellerman a Sefydliad Esmée Fairbairn.

Tyrd i sgwrsio gyda ni

Rydyn ni’n gwybod bod angen i’r artistiaid sy’n rhan o’r diwydiant hwn fod yn fwy cynrychioladol o’r Gymru maen nhw’n creu ar ei chyfer. Mae hyn yn golygu bod yn fwy agored, a gofyn cwestiynau mawr am natur theatr, am bwy sy’n gallu ei greu, ac am ei gyfraniad at y byd.

Mae angen ffyrdd newydd o greu sy’n cynnwys mwy o bobl ac sy’n adrodd cyfres ehangach o straeon. Haelioni, codi sgwarnogod, ymwneud â’n gilydd, cymryd risg – maen nhw i gyd yn berthnasol yn hyn o beth...

Sefydliad yw NTW, ac fe all pob sefydliad godi ofn, gan ymddangos yn bell o gyrraedd rhywun. Nid dyna pwy ydyn ni, go iawn. Os wyt ti’n berfformiwr o Gymru, neu’n byw yng Nghymru, fe hoffen ni glywed gennyt ti. Fe hoffen ni ddod i dy ’nabod, a rhoi cyfle i tithau ddod i’n ’nabod ni.

Tyrd i weld ein gwaith diweddar