Ein gwaith gyda dramayddion

Trwy gefnogaeth Sefydliad John Ellerman, rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl wych i ddatblygu dramayddiaeth ledled Cymru.

O ddramayddion prosiect-benodol i dalent sy’n dod i’r amlwg, rydym wedi bod yn gofyn beth yw dramayddiaeth, sut mae’n effeithio ar brosiectau a chwmnïau theatr, a sut y gallwn wreiddio meddwl dramayddol wrth galon sut rydym yn gweithio.

Beth yw dramaydd?

Wel, mae llawer o atebion i hynny yn dibynnu ar bwy rydych chi'n eu holi. Gall dramayddiaeth a dramayddion fod yn bethau gwahanol iawn yn dibynnu ar y prosiect, y broses ac anghenion penodol. Yn gyffredinol, mae dramaydd yn rhan allweddol o dîm creadigol sy'n canolbwyntio ar ddarparu persbectif, cyd-destun a gwybodaeth arbenigol i gefnogi cynhyrchiad a phobl greadigol eraill. Rydyn ni'n barod i archwilio pob maes dramayddiaeth, a phob math o bobl a allai fod yn ddramayddion.

Gyda diolch i gefnogaeth gan Sefydliad John Ellerman.

Cwrdd â'r dramayddion