Cefndir

Y pethau annisgwyl yw hanfod y straeon y byddwn ni’n eu hadrodd.

Rydyn ni’n creu theatr yn ei ystyr ehangaf: siwrnai sy’n ein cysylltu ni â’n gilydd ac yn ein cwestiynu. Mae’n mynnu ein sylw, yn ein pryfocio a’n procio, yn ein rhyfeddu a’n boddhau.

Rydyn ni yma i newid pethau.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy roi profiadau i bobl ac i lefydd. Profiadau yw’r rhain sy’n cyfoethogi ac yn ysbrydoli’r sawl sy’n eu creu a’r cynulleidfaoedd. Yn niwylliannau a chymunedau cyfoethog Cymru, mae corneli nad oes neb wedi’u cyffwrdd. Ac yn y corneli hyn, dyna lle mae ein dychymyg a’n creadigrwydd ni ar waith.

Rydyn ni’n gwmni theatr crwydrol i Gymru gyfan.

Dydyn ni ddim wedi ein clymu i un man penodol. Oherwydd hyn, rydyn ni’n chwilio am leoliadau a chyfleoedd sy’n rhoi dimensiwn cyffrous i’n gwaith. Mae hynny’n golygu bod modd cyrraedd yn bellach.

Felly, fe ddoi di o hyd inni mewn mannau annisgwyl: ar y glannau; ar lethrau mynydd; ar drên; mewn coedwig. Ac o bryd i’w gilydd, pan na fydd rhywun yn disgwyl hynny, mewn theatr, hefyd.

Y nod yw creu crychdonnau mawr sy’n cysylltu pobl ac yn ysbrydoli newid.

Rydyn ni’n caru gwneud hynny.