Gweithio gyda ni

Bydd gwreichion creadigol yn tasgu pan fydd gwahanol bobl yn dod ynghyd.

Mae ein drws ni wastad yn agored, a’r croeso’n gynnes i bobl frwd sy’n awyddus i ymuno â ni ar ein siwrnai i rannu straeon, creu cysylltiadau a sbarduno newid cadarnhaol.

Mae hyn mor bwysig i ni, mae’n rhan o’n maniffesto.

Rydyn ni yma i bawb. Felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb hefyd. Rydyn ni’n theatr i holl bobl a chymunedau Cymru, waeth beth fo cefndir, hunaniaeth, profiad bywyd neu gredoau rhywun.

Rydyn ni’n gwybod bod rhai pobl yn wynebu mwy o rwystrau na phobl eraill, ac rydyn ni’n gweithio’n galed i gael gwared ar y rhain. Mae mwy o wybodaeth fan hyn.

Os wyt ti’n dal i bendilio ynghylch gwneud cais, cysyllta â ni am sgwrs – fe wnawn ni egluro popeth i dy helpu i benderfynu.