Artistiaid preswyl: Cyd-greu

Mae caniatáu amser a gofod i artistiaid archwilio yn hanfodol. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda grŵp o artistiaid i archwilio beth mae cyd-greu dan arweiniad y gymuned yn ei olygu iddyn nhw, gan fod hyn wrth galon ein dull o wneud theatr.

Trwy’r rhaglen hon, rydym wedi cefnogi 14 o artistiaid Cymreig a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn i feddwl am wahanol ffyrdd o wneud gwaith a’r gwahanol ffyrdd y gallant gysylltu â’u cymunedau. Recriwtiwyd yr artistiaid trwy broses galwad agored.

Maent wedi treulio amser i ffwrdd mewn cyfnodau preswyl penwythnos, wedi cael gweithdai gydag artistiaid sy'n hyddysg mewn archwilio cymunedol, ac wedi cael bwrsariaeth i roi amser iddynt feddwl yn ddwys am yr hyn y mae cyd-greu yn ei olygu iddynt.

Roedd y cyfnod preswyl hwn yn bosibl diolch i gyllid gan Sefydliad Esmée Fairbairn.

Cwrdd â'r artistiaid


Abertawe - Mawrth 2023

Treuliodd ein carfan dridiau yn dod i adnabod ei gilydd yn ystod y cyfnod The Cost of Living gyda gweithdy rhagarweiniol wedi'i hwyluso gan Slung Low.

Wrecsam - Chwefror 2024

Fe wnaeth ein carfan ailgysylltu yn Wrecsam am benwythnos i archwilio ymhellach beth mae cyd-greu yn ei olygu iddyn nhw. Arweinodd y rhai wnaeth greu A Proper Ordinary Miracle, sef Natasha Borton, Anastacia Ackers a Catherine Paskell weithdy a threuliodd y grŵp amser yn gofyn cwestiynau, yn rhannu syniadau ac yn rhoi cyngor.

Beth nesaf?

Mae pob artist wedi cael bwrsari o £1,000 y gallant ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant, i roi amser â thâl i’w hunain i ddatblygu syniad am brosiect, i’w ddefnyddio fel arian cyfatebol neu beth bynnag sydd fwyaf defnyddiol iddynt.