About A Proper Ordinary Miracle

Wrecsam. Dinas sy’n dref yn ei chalon.

Mae consurwyr a gwneuthurwyr mapiau, breuddwydwyr a datblygwyr yn ymgynnull mewn man cyfarfod rhwng yr hynod real a’r rhyfeddol. Fe’ch gwahoddir i ymuno â nhw.

Pan fydd datblygwr eiddo yn cyrraedd y dref gyda chynlluniau i adeiladu Canolfan Fawr newydd, mae rhai yn cael eu hudo ac eraill yn amheus. Wrth i’r peiriannau symud i mewn, mae gwrthryfel yn codi ac mae llinellau rhwng protest a phŵer yn cael eu tynnu.

Dilynwch y cymeriadau hyn wrth iddynt eich arwain ar daith theatrig o amgylch Wrecsam, gan daflu goleuni ar wleidyddiaeth lle, gofod a’r systemau yr ydym i gyd yn chwarae rhan ynddynt.

Pwy all alw Wrecsam yn gartref? Mae tynged y ddinas, ei phobl a’i dyfodol yn eich dwylo chi.


Cast

Laura Dalgleish
Martin Daws
Chris Ingram
Paul Kaiba
Chanelle Leung
Faye Wiggan

Y tîm creadigol

Cyfarwyddwr
Catherine Paskell
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Natasha Borton
Dramatwrg Cynorthwyol
Anastacia Ackers
Cyd-gynllunydd
Jacob Hughes
Cyd-gynllunydd
Ruby Pugh
Cyd-gynllunydd
Sophia Leadill
Dylunydd Goleuadau
Ceri James
Dramatwrg Sain
Yasmine Latkowski
Dramatwrg Sain
Andy Hickie