Cam bach

Wrth wraidd A Proper Ordinary Miracle, yw’r gred mai pobl yn dod at ei gilydd dros eu gwahaniaethau a’u profiadau a rennir yw’r ffordd fwyaf pwerus o greu newid.

Weithiau gall fod yn anodd gwybod sut i helpu rhywun mewn angen yn uniongyrchol pan fydd yn teimlo fel problem fwy na ni.

Creodd partneriaeth flaenorol TEAM NTW gyda Counterpoint Arts ar Go Tell the Beesy 7 Gweithred Syml ar gyfer dyfodol gwell. Dyma pam y cawn ein hysbrydoli i gyflwyno’r 7 Cam Bach, er mwyn cael effaith fawr ar ddigartrefedd.

Rydym am i’r cynhyrchiad hwn gael effaith gadarnhaol ar y gymuned, trwy annog gweithredu tosturiol a chreadigol fel y gallwn uniaethu’n well â’n cyd-ddyn. Mae pawb sy’n byw yn Wrecsam, neu’n unrhyw le arall, yn haeddu teimlo’n gartrefol.


Rhowch eich amser

Mae gwirfoddoli gydag elusen neu fenter gymdeithasol yn cynnig cymorth hanfodol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Gallech helpu i drefnu digwyddiad, trefnu rhoddion, rhoi cyflwyniadau i grwpiau cymunedol, rhedeg marathon, neu fynychu cwis codi arian... mae rhoi ychydig o'ch amser yn ffordd ddefnyddiol o fod yno i rywun.

  • Mae gan Helping Our Homeless Wales dîm o wirfoddolwyr sy'n cerdded y strydoedd i gynnig bwyd, dillad ac eitemau hanfodol, yn helpu pobl ar y strydoedd i aros yn ddiogel, yn gynnes ac yn iach.

  • Mae gan The Wallich amryw o lwybrau gwahanol i weddu eich sgiliau, sy'n eich galluogi i helpu eich cymuned leol yn y ffordd orau.

  • Mae Llamau yn cynnal digwyddiadau fel digwyddiadau Cysgu ar y Stryd er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer unigolion mewn angen, gofyn i bobl gynnig eu gwelyau am un noson er mwyn cydnabod - nid dyblygu - digartrefedd.

Darlun o ddau berson yn cario bocsys cardbord a'r geiriau 'rhoi eich amser'.

Gwrandewch

Pan fyddwn yn dod ar draws rhywun mewn angen, ac wir yn stopio ac yn gwrando am funud, rydym yn creu eiliad o heddwch a chysur - mae'n weithred syml o gariad. Mae cymryd yr amser i wrando, hyd yn oed os yw am ychydig funudau'n unig, yn rhoi gwybod i'r unigolyn nad yw ar ei ben ei hun, mae ei fywyd yn werthfawr, ac mae ei lais yn cyfrif.

Dyma rai sefydliadau a fyddai wir yn elwa o'ch amser i gynnig clust...

  • Mae Llamau yn llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc ddigartref. Mae bod ar gael i wrando gyda'r nos neu ar benwythnosau yn ffordd fuddiol iawn o wirfoddoli.

  • Mae'r Samariaid yn cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un sy'n wynebu trallod emosiynol, yn ei chael hi'n anodd ymdopi neu sydd mewn perygl o hunanladdiad ledled y DU

  • Mae Hafal yn elusen wedi'i harwain gan aelodau, sy'n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais ar unigolion sydd â salwch meddwl difrifol – a'u gofalwyr a'u teuluoedd.

Darlun o ddau berson yn gafael dwylo ac yn cael sgwrs, a'r geiriau 'gwrandewch'.

Rhannwch

Mae rhoddion yn ffordd wych o dalu caredigrwydd ymlaen - sanau, padiau misglwyf, neu eli haul, mae darpariaethau yn eich ardal leol sy'n gallu rhannu'r rhain yn uniongyrchol at bobl mewn angen.

Os oes gennych chi arian, beth am ystyried rhoi rhodd reolaidd i elusen ddigartrefedd? Gallech hefyd roi arian yn uniongyrchol, heb feirniadaeth, gan roi cyfle i bobl ei wario fel y dymunant.

  • Benthyg Cymru yw Llyfrgell Pethau Cymru, lle gallwch rannu gwybodaeth, sgiliau a phethau fel offer garddio a gwersylla mewn amryw o hybiau ledled y wlad

  • Ar gyfer pob copi o Big Issue rydych chi'n ei brynu, mae £2 yn mynd i'r gwerthwr. Ac yn gyfnewid, rydych chi'n cael cyhoeddiad sy'n rhannu erthyglau, straeon personol, gwaith celf a mwy er mwyn eich helpu i ddysgu am brofiadau pobl ddigartref.

  • Os ydych yn gallu, gallwch hyd yn oed rannu eich cartref, er enghraifft i berson ifanc sy'n paratoi i fyw'n annibynnol mewn llety â chymorth.

Darlun o arian, sanau, sarn cathod, plastrau a'r gair 'rhannwch'.

Dysgwch

Mae dysgu yn brofiad gydol oes. Mae'n ein galluogi i dyfu o brofiadau a rennir a meithrin yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnom i ffynnu. Mae dysgu parhaus yn agor ein meddyliau ac yn newid ein hymddygiad drwy adeiladu ar yr hyn rydym eisoes yn ei wybod. Wrth i ni ddysgu mwy, rydym yn gwella ein gallu i weld gwahanol safbwyntiau o'r un sefyllfa, sy'n ein helpu i ddeall yn well.

Dyma rai o'n hawgrymiadau...

Gwylio
  • Dark Days, rhaglen ddogfen ryfeddol gan y cyfarwyddwr Prydeinig, Marc Singer, am y boblogaeth ddigartref sy'n byw dan Efrog Newydd.

  • The Homeless Problem, cyfres o fideos sy'n archwilio'r gwahanol resymau sy'n arwain pobl at ddod yn ddigartref a'r anawsterau wrth eu cefnogi.

Gwrando
  • Baby, It’s Cold Outside, podlediad sy'n ceisio dod o hyd i'r digrifwch yn y difrifwch wrth bwysleisio effaith digartrefedd yn y DU.

  • Point Made, podlediad wedi'i greu gan bobl ifanc er mwyn pawb, sy'n mynd i'r afael â'r pynciau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw, o iechyd meddwl i'r system fudd-daliadau.

Darllen
  • Down and Out, archwiliad o ddigartrefedd heddiw, sy'n gofyn sut allwn ni, fel cymdeithas, newid ein harferion a'n hymddygiad er mwyn gwaredu ar ddigartrefedd rhyw ddydd.

  • Mae Kicked Out gan Sassafras Lowrey yn uno lleisiau pobl ifanc LHDTC+ America sy'n ddigartref nawr, neu sydd wedi profi digartrefedd yn y gorffennol, a'n adrodd straeon angof rhai o ddinasyddion mwyaf bregus y wlad.

Profiad
  • Mae Côr One Love Wrecsam ar gyfer pobl sydd wedi profi digartrefedd, dibyniaeth, materion iechyd meddwl, neu sy'n fregus neu ar y cyrion.

  • Mae Cardboard Citizens yn creu gwaith gyda phobl sydd wedi profi digartrefedd, annhegwch neu dlodi, ac ar eu cyfer. Maent yn cynnig hyfforddiant theatr/celfyddydau sy'n archwilio, cwestiynu ac yn herio anghyfiawnder.

Darlun o ddyn yn gwisgo clustffonau, llyfr, papurau, clepiwr a'r gair 'dysgu'.

Gweithredwch

Mae geiriau'n dal dŵr, ac ni ddylem fyth fychanu pa mor effeithiol gall llythyr, llofnod ar ddeiseb neu e-bost fod. Efallai bod anfon llythyr neu e-bost yn teimlo fel gweithred fechan, ond pan gaiff ei anfon ar yr adeg gywir, neu pan gaiff nifer fawr ohonynt eu hanfon, gallant gael effaith sylweddol.

  • Llofnodwch Ymgyrch Big Futures y Big Issue, sy'n galw ar y Llywodraeth i dorri'r gylchred o dlodi a diogelu cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n cynnwys tri gorchymyn:
    • Cartrefi priodol a fforddiadwy i bawb
    • Rhoi diwedd ar gyflogau isel a buddsoddi mewn pobl ifanc
    • Miliynau o swyddi gwyrdd, sy'n talu'n dda
  • Gweithredwch i amddiffyn hawliau dynol a helpu unigolion sydd mewn risg gydag Amnesty International UK. Maent yn gweithio gyda phobl pan mae cyfiawnder, rhyddid, y gwirionedd ac urddas yn cael eu gwrthod. Fel mudiad byd-eang o dros ddeng miliwn o bobl, dyma sefydliad hawliau dynol llawr gwlad mwyaf y byd.

Darlun o ddeiseb yn cael ei harwyddo a'r gair 'gweithredwch'.

Deallwch

Daw digartrefedd ar sawl ffurf - efallai eich bod yn syrffio soffas, efallai bod rhaid ichi adael y cartref oherwydd perthnasau anodd neu bryderon diogelwch, neu efallai eich bod yn gadael y system ofal, ac mae'r system wedi eich gadael i lawr. Gall fod oherwydd pwysau ariannol oherwydd eich bod wedi colli eich swydd, dyled, neu'r costau byw cynyddol. Yn ôl arolygon, dim ond un slip cyflog sydd rhwng dros draean yr aelwydydd yn y DU a digartrefedd.

Mae'n bwysig deall bod modd i unrhyw un ddisgyn i'r fagl, a deall sut i dorri'n rhydd os nad oes gennych chi'r cymorth cywir o'ch cwmpas. Nid yn unig hynny, ond mae gwybod eich hawliau o ran rhentu, landlordiaid a throi allan yn ffordd allweddol o gynllunio ar gyfer eich hun neu ar gyfer helpu rhywun arall.

  • Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru yn gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru er mwyn helpu i lywio gwasanaethau tai.

  • Bydd materion tai bob amser yn codi, felly mae angen i chi wybod eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor ar bopeth sy'n ymwneud â rhentu neu brynu cartref, neu ddod o hyd i rywle i fyw.

  • Mae Shelter Cymru yn helpu miloedd o bobl ledled Cymru bob blwyddyn sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng tai drwy gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol, am ddim.

Darlun o fwlb golau a'r gair 'deallwch'.

Maethwch

Mae'r berthynas rhwng eich ymennydd a'ch stumog yn hanfodol er mwyn gofalu am eich hwyliau, cof, iaith a chwsg. Mae pryd o fwyd cartref gyda llysiau a grawn llawn maeth yn ddewis amgen gwych i fwyd cyflym, sy'n hynod bwysig i'r system imiwnedd, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.

  • Mae banciau bwyd yn ffordd wych o gyfrannu, ac os oes angen banc bwyd arnoch chi’n bersonol, mae llawer o gymorth a chyngor ar gael...
  • Mae'r Trussell Trust yn gweithio i roi diwedd ar dlodi a newyn yn y DU, ac yn ffynhonnell wych o wybodaeth a chymorth.
  • FareShare yw rhwydwaith cenedlaethol y DU o ailddosbarthwyr bwyd elusennol. Maent yn cymryd bwyd dros ben, o ansawdd dda, o ledled y diwydiant bwyd, ac yn ei roi i grwpiau cymunedol ac elusennau rheng flaen.
Darlun o botyn o gawl, moron, wyau, llwy a'r gair 'porthwch'