TEAM Wrecsam

Mae cyd-greu yn ganolog i’n gwaith yn Wrecsam. Mae’n ein galluogi i ddod â phobl ynghyd i fyfyrio, i drin a thrafod pethau, ac i ofyn cwestiynau. Mae’n ein helpu i ddatgelu straeon a chyrraedd mannau annisgwyl.

Fe wnaethon ni dreulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn dod i ’nabod y gymuned leol, y bobl a’r lle, gan ofyn pa bynciau sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw. Fe wnaethon nhw ddewis themâu’r cartref a digartrefedd yn ysbrydoliaeth i’r prosiect hwn.

Fe all cartref olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. I rai, mae’n lle diogel ac yn lloches. I eraill, mae’r holl syniad o gartref yn golygu ansefydlogrwydd a phryder. Mae’n amhosibl deall y materion cymhleth sy’n gysylltiedig â digartrefedd heb fynd i lygad y ffynnon a sgwrsio gyda phobl sydd wedi’i brofi. Mae gwrando ar eu straeon nhw wedi llywio ein llwybr creadigol ni.

Mae ein holl waith yn Wrecsam wedi arwain at berfformiad sydd wedi’i gyd-greu â’r gymuned leol ar gyfer y gymuned leol. Mae mwy o wybodaeth isod...

Tyrd i sgwrsio â ni

Os oes gen ti unrhyw syniadau creadigol yr hoffet ti’u rhannu, neu os hoffet ti fod yn rhan o TEAM Wrecsam, fe fydden ni wrth ein boddau’n clywed gennyt ti.