Far Apart but Close at Heart

Mae TEAM Wrecsam wedi cyfrannu at brosiect ymchwil newydd, dan arweiniad Prifysgol y Frenhines Mary, yn archwilio sut y defnyddiodd sefydliadau celfyddydol ledled y DU lwyfannau digidol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn ystod y pandemig.

Mae Far Apart but Close at Heart yn edrych ar sut yr addasodd sefydliadau eu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn ystod y cyfnod clo a chyfyngiadau cymdeithasol.

Mae'r astudiaeth yn defnyddio cymysgedd o ddulliau ar gyfer ei hymchwil, gan gynnwys cyfweliadau, arolygon a gweithdai artistig.

Cyflwynodd aelod o’r panel TEAM Natasha Borton rai o’r gweithdai hyn gyda grŵp o bobl ifanc 16 - 24 oed yn Nhŷ Pawb.

Looking Beyond Lockdown - Darllena’r adroddiad llawn.