TEAM Sir Benfro

Mae TEAM wedi bod yn gweithio ym mherfeddion Sir Benfro ers 2018, fel rhan o’i brosiect mwyaf hyd yma.

Rydyn ni wedi bod yn creu cyfleoedd i rymuso pobl, yn eu helpu i arwain, yn sbarduno ymgyrchu creadigol, ac yn creu cysylltiadau. Mae hyn wedi arwain at gynhyrchiad maint llawn, a hwnnw wedi’i gyd-greu â’r bobl leol ar gyfer y bobl leol. Newid hinsawdd a’r amgylchedd oedd y thema y dewison nhw roi sylw iddi.

Mae cyd-greu yn ganolog i waith TEAM. Mae’n ein galluogi i ddod â phobl ynghyd i fyfyrio, i drin a thrafod pethau, ac i ofyn cwestiynau. Mae’n ein helpu i ddatgelu straeon a chyrraedd mannau annisgwyl.

Mae’n deg dweud bod ein gwaith yn Sir Benfro wedi ein harwain i lawr sawl llwybr na wnaeth neb ei ragweld – diolch yn rhannol i orfod dygymod â phandemig byd-eang – ond mae pobl Sir Benfro yn griw penderfynol a dygn dros ben. Roedd y cynhyrchiad terfynol a gafodd ei gyd-greu, Go Tell the Bees, yn dyst i hynny – cer i gael golwg isod.

Tra roedden ni yn gweithio ar Go Tell the Bees, gofynnon ni i rai o’r bobl oedd yn rhan o’r prosiect beth ddysgon nhw am greadigrwydd a chysylltiadau. Gwyliwch beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud.

Tyrd i sgwrsio â ni

Os oes gen ti unrhyw syniadau creadigol yr hoffet ti’u rhannu, neu os hoffet ti fod yn rhan o TEAM Sir Benfro, fe fydden ni wrth ein boddau’n clywed gennyt ti.