Play On / Am Ddrama

Rydym yn cydweithio â’n cyfeillion yn Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd er mwyn canfod dramâu newydd a chyffrous gan awduron yng Nghymru.

Mae Play On / Am Ddrama yn rhoi cyfle i awduron anfon eu gwaith sydd heb ei gyhoeddi i banel brwdfrydig o ddarllenwyr a fydd yn cynnig adborth gwerthfawr wedyn.

Gall fod cyfle i’r sgriptiau mwyaf addawol gael eu datblygu. Byddwn ni’n gwneud hynny drwy baru drama ag un o’n tri sefydliad - pa bynnag un fyddai fwyaf addas i’w datblygu, ei chomisiynu a’i chynhyrchu.

Hyd yn hyn, rydym wedi cael dwy rownd o gynigion gyda’r darllenwyr a’r dramodyddion yn cynnwys Charles O’Rourke, Lowri Izzard, Mary Davies, Melangell Dolma, Yasmin Begum, Ffion Emlyn ac Elizabeth Freestone.


Nid ydym yn derbyn unrhyw ddatganiadau diddordeb neu gynigion newydd ar hyn o bryd. Ond bydd manylion cyfleoedd yn y dyfodol yn cael eu rhoi yma - a byddwn yn tynnu sylw pawb drwy ein sianeli cymdeithasol. Felly, sicrhewch eich bod yn ein dilyn.


Oes gennych gwestiynau am y prosiect hwn?

E-bostiwch ni yn post@amddrama-playon.cymru, neu cysylltwch â ni drwy leisbost neu neges destun ar 07908 439417.