Hen Wlad Ein Plant / Land of Our Children

Ynglyn y prosiect

Yng Nghymru, byddwn yn cyfeirio’n aml at ‘ein milltir sgwâr’ fel ffordd o siarad am yr ardal rydym yn trigo ynddi yn gorfforol ac yn emosiynol, ein cynefin. Rydym yn genedl a ddiffinnir gan ein cymunedau, pob un ohonynt yn llais yng nghôr ein diwylliant. Wrth i’r byd droi ei olygon tuag at 2050, a’r gobaith o ddychmygu ffordd fwy cynaliadwy o fyw, yn ein cymunedau y mae angen i ni freuddwydio am newid.

Mae ein perthynas unigol â’n milltir sgwâr ein hunain cyn bwysiced â’n gweithredoedd fel cenedl. Mae’r straeon rydym yn eu hadrodd am ein lle ein hunain yn y byd yn siapio’r ffordd rydym yn meddwl a’r ffordd rydym yn gweithredu. Gweithredu lleol sy’n dechrau taith tuag at gymdeithas fwy gofalgar, cyfiawn a hunan-gynhaliol.

Roedd Hen Wlad Ein Plant / Land of Our Children yn gydweithrediad rhwng NTW, Gentle/Radical a Chyfoeth Naturiol Cymru a wnaed yn bosibl gan Gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Dewison ni 8 artist hynod i ymgymryd â chyfres o gyfnodau preswyl ‘hyper-leol’. Treuliodd pob un ohonynt amser yn eu ‘milltir sgwâr’ yn dadorchuddio, yn darganfod ac yn datod. Yn gofyn cwestiynau iddyn nhw eu hunain a’r bobl o’u cwmpas. Yn edrych ar y micro i’n helpu i ddeall y macro

Daeth pob artist â golwg unigryw o’r byd o’u cwmpas. Cawsant eu paru â mentoriaid a buont yn rhyngweithio ag arbenigwyr a gwyddonwyr i’w helpu i archwilio’r lens hon. Gan gwestiynu yr hyn mae’n ei gynnig i’r ffordd rydyn ni’n gweld ac yn siarad am ddyfodol ein cymunedau, a dyfodol ein hamgylchedd naturiol.


Cynhaliwyd Hen Wlad Ein Plant / Land of Our Children rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2021. Cyn y prosiect, gofynnon ni i’n criw cyntaf o artistiaid rannu mwy o fanylion am eu hunain a’u cyfnodau preswyl....


Rebecca Smith Williams: Ffynnon Taf

Actores, awdur a garddwr yw Rebecca. Astudiodd actio yn RADA a Garddwriaeth gyda’r RHS yng Ngerddi Botaneg Bryste. Mae hi’n gyd-sylfaenydd y cwmni theatr Triongl, cymdeithion artistig yn Chapter, a gyda’i gilydd maen nhw’n ysgrifennu a pherfformio gwaith newydd ar gyfer y llwyfan sy’n teithio o amgylch Cymru. Fel garddwr, mae Rebecca yn gofalu am erddi ledled Caerdydd ac yn eu dylunio, ac yn ei gardd ei hun mae hi wrth ei bodd yn tyfu llysiau, blodau a llawer o blanhigion eraill sydd wedi penderfynu gwneud ei gardd yn gartref iddynt. Mae Rebecca yn byw yn Ffynnon Taf lle bydd yn ymgymryd â’i chyfnod preswyl.

Lisa Heledd Jones: Glyndyfrdwy

Yn byw ar ei fferm deuluol yng Ngogledd Cymru, mae’r artist Lisa Heledd Jones yn gweithio gyda sain, stori a thirwedd, gan gynhyrchu gwaith sain, ffilm a pherfformio yn aml. Ar gyfer y cyfnod preswyl hwn bydd Lisa yn canolbwyntio ar y pentref bach lle cafodd ei geni a lle mae’n byw – Glyndyfrdwy. Fel llawer o bentrefi gwledig bach, mae lleoedd a rennir yn diflannu – mae’r siopau, yr ysgol a’r capeli i gyd wedi cau. Mae Lisa yn bwriadu archwilio’r hyn sy’n dal i fodoli a beth allai fod wedi’i anwybyddu a sut y gallai hyn lywio sut rydym yn ail-lunio ac yn ail-drefnu ein cartref.

Justin Teddy Cliffe: Casnewydd

“Fy enw i yw Justin. Rwy’n wneuthurwr theatr ac yn artist o Gasnewydd. Trwy fy ymarfer personol, rwy’n creu gwaith abswrd, comig ac aflafar sy’n archwilio’r profiad dynol, iechyd meddwl ac athroniaeth boblogaidd trwy fath gyfoes o glownio sylfaenol.

Mae fy nghyfnod preswyl yn digwydd mewn parcdir bach yn agos at fy nghartref. Roeddwn i eisiau archwilio’r lle hwn oherwydd ei fod yn teimlo fel ei fod yn perthyn i mi ac fy mod i’n ei rannu gyda llwyth o bobl eraill. Mae’r cymundeb hwnnw’n fy niddori’n fawr a thrwy ei gydnabod rwyf am archwilio pŵer, gwerth, perchnogaeth ac ymddiriedaeth.”

Lal Davies: Gellifor

Gwneuthurwr ffilm, ffotograffydd a bardd yw Lal Davies. Ei genres ffilm yw naratif person cyntaf a rhaglenni dogfen byr, mewn cyd-destunau cyfiawnder cymdeithasol, addysg, y celfyddydau a threftadaeth. Mae hi wedi gweithio gydag unigolion a chymunedau, yng Nghymru a thu hwnt er 2001 gyda phobl y gallai eu straeon fod wedi’u tangynrychioli, eu camglywed neu eu hymyleiddio mewn rhyw ffordd. Yn ei hymarfer ei hun, mae Lal yn defnyddio ffilm, ffotograffiaeth a barddoniaeth, fel disgyblaethau gwahanol ac ar y cyrion aneglur lle maen nhw’n cwrdd. Mae’r gwaith hwn yn archwilio ei pherthynas â natur a naratifau ôl-drefedigaethol. Bydd cyfnod preswyl hyper-leol Lal ar gyfer Hen Wlad Ein Plant yng Ngellifor.

Catriona James: Rhandiroedd Parhaol Pengam, Caerdydd

“Rwy’n wneuthurwr theatr amlddisgyblaethol ac yn byw yn Adamsdown, Caerdydd. Rwy’n ysgrifennu, rwy’n actio, rwy’n dawnsio ac rwy’n cyfarwyddo. Rwy’n hoffi symud pobl. Weithiau trwy symud corfforol go iawn, ond hefyd trwy eu symud i chwerthin, i deimlo a meddwl – efallai tuag at ddealltwriaeth ddyfnach ohonynt eu hunain a phrofiadau eraill. Rydw i’n mynd i dreulio fy nghyfnod preswyl yn Rhandiroedd Parhaol Pengam, lle mae gen i randir gyda dau ffrind ers mis Mai 2021. Rwy’n gobeithio dod i adnabod y gymuned yno yn well. Mae croeso i ymwelwyr â’n plot os ydych chi awydd ychydig o chwynnu neu baned?”

Manon Steffan Ros: Tywyn

Mae Manon Steffan Ros yn awdur, colofnydd a sgriptiwr sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Cafodd ei geni a’i magu yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, ond mae bellach yn byw yn Nhywyn, Meirionnydd. Bydd yn archwilio’r dyfrffyrdd o fewn pellter cerdded i’w chartref yn greadigol – y môr, ac afon Dysynni.

Georgina Biggs: Bae Caerdydd

Mae SheWolf yn gwmni perfformio dan arweiniad pobl anabl sy’n dod â thirwedd yn fyw trwy berfformiad. Ar gyfer y cyfnod preswyl hwn mae ei Gyfarwyddwr Artistig, Gina Biggs, yn archwilio’r olygfa o’i ffenestr; ar draws Bae Caerdydd tuag at ynys Flat Holm. Gan gydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru a’r prosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol bydd Gina yn cyfweld â stiwardiaid tir a môr, gan ymgysylltu â bioamrywiaeth ecosystemau morol a gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd i ofyn: Sut gall profiad anabl byw helpu i fodelu cymdeithas flaengar? Beth sydd ganddo yn gyffredin â chyd-destunau amgylcheddol ansefydlog? A sut y gall yr edafedd cyffredin hyn helpu i ddod o hyd i bŵer a newid sut mae pŵer yn gweithio?

Cerian Wilshere-Davies: Abertawe

Mae Cerian Wilshere-Davies yn ddigrifwr, gwneuthurwr theatr a hwylusydd sy’n byw yn Abertawe. Mae gwaith Cerian yn canolbwyntio ar hanes queer Cymru a meithrin cysylltiadau rhwng pobl LHDTQ+ sy’n byw yng Nghymru a thirwedd, treftadaeth a chymuned Cymru. Cerian yw sylfaenydd Queer Clown Cabaret ac mae’n angerddol am lwyfannu a dathlu lleisiau queer. Bydd y cyfnod preswyl yn ymchwiliad i ecoleg queer ac edrych ar sut y gall y profiad queer lunio ein dealltwriaeth o’r amgylchedd a’r gymuned o’n cwmpas. Y lleoliad a ddewiswyd ar gyfer y cyfnod preswyl yw Abertawe a llwybrau arfordirol Gŵyr.