Press Story

Mae National Theatre Wales yn cyhoeddi ei gynhyrchiad diweddaraf, Circle of Fifths, profiad theatr ymdrochol wedi’i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm a theatr o Butetown Gavin Porter. Wedi’i ddyfeisio gyda chydweithfa o gerddorion ac artistiaid, gan gynnwys y cerddor chwedlonol o Gaerdydd Anthony ‘Drumtan’ Ward, bydd y cynhyrchiad yn cyfuno ffilm, cerddoriaeth a theatr i greu rhaglen ddogfen fyw. Yn cynnwys straeon bywyd go iawn gan bobl o bob rhan o Gymru, mae’r sioe yn gobeithio archwilio sut y gall cerddoriaeth a straeon ein cysylltu ar adegau o alar a cholled – gan ganiatáu moment o fyfyrio a dathlu ar y cyd i brosesu peth o’r hyn yr ydym i gyd wedi bod drwyddo dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd Circle of Fifths yn agor yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd rhwng 18 a 26 Mehefin.

Ar ôl colli ei ewythr yn ystod pandemig COVID 19, roedd y cyfarwyddwr Gavin Porter, fel llawer o rai eraill, yn teimlo’n aflonydd wrth i bellter cymdeithasol, “gorchmynion aros gartref” a chyfyngiadau ar faint cynulliadau personol newid y ffordd y gallai ffrindiau a theulu ymgynnull a galaru. Teimlai Porter wedi’i orfodi i godi ei gamera a dechrau casglu straeon am y gwahanol ffyrdd y caiff bywydau eu dathlu mewn marwolaeth a phwysigrwydd traddodiadau a defodau. Gan ddefnyddio Twitter gofynnodd i bobl rannu pa ganeuon yr hoffent i gael eu chwarae yn eu hangladd. Roedd yr ymateb enfawr yn cynnwys popeth o Abba i UB40, Streisand i Divine Comedy.

Daeth cerddoriaeth yn llinyn pwerus, nid yn unig yn y ffyrdd y mae’n gwneud i ni deimlo, ond sut mae’n datgloi emosiynau heb eu mynegi ac yn ein cysylltu â’n gilydd. Mae’r cynhyrchiad yn cymryd ei deitl o offeryn o theori cerddoriaeth sy’n trefnu traw yn ddilyniant. Weithiau bydd cerddorion jazz yn amharu ar y dilyniant hwn i greu llwybrau cerddorol newydd. Yn yr amherseinedd a’r anghytgord hwn y mae Porter yn llunio tebygrwydd â’r effaith y mae colled yn ei chael – fel toriad yn rhythm ein bywydau.

Mae Gavin Porter wedi gweithio gyda National Theatre Wales ar nifer o brosiectau gan gynnwys The Agency, sy’n rhoi pobl ifanc wrth galon datblygu prosiectau a busnesau sydd â phwrpas cymdeithasol a The Soul Exchange fel gwneuthurwr ffilmiau yn ystod blwyddyn gyntaf NTW. Yn ddiweddarach daeth yn gysylltiedig â TEAM NTW a gweithiodd ar De Gabay (2013), drama arobryn gan feirdd Somalïaidd o Butetown. Ef oedd Cydymaith Creadigol NTW o 2013 ac, wrth adeiladu ar waith pobl eraill, creodd y prosiect theatr cyfranogol, Y Prosiect Democratiaeth Mawr. Mae Porter wedi treulio blynyddoedd lawer yn dweud straeon heb eu hadrodd trwy ei raglenni dogfen a Circle of Fifths fydd ei waith theatrig mawr cyntaf.

Wrth gyfuno ffilm a rhaglen ddogfen â pherfformiad byw a cherddoriaeth, dywedodd Porter; “Ar ôl dod i fyny trwy TEAM NTW rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn sut y gallai’r sgiliau rydw i wedi’u hogi trwy fy ngwaith dogfennol, a chyfweld â channoedd o bobl, gael eu trosglwyddo i ofod theatrig. Bydd y sioe hon yn brofiad 360 gradd, gyda pherfformwyr, cerddorion, cyfweleion ar dâp a ffilm, i gyd yn dod at ei gilydd i greu wythnos wirioneddol unigryw o berfformiadau.”

Mae’r cerddorion a’r artistiaid y mae Porter wedi dod â hwy ynghyd ar gyfer y prosiect hefyd yn cynnwys y canwr ac aml-offerynnwr Kiddus Murrell, y perfformiwr (a’r trefnydd angladdau) Maureen Blades a’r cerddor a’r gantores Francesca Dimech.

Circle of Fifths fydd trydydd cynhyrchiad National Theatre Wales yn y flwyddyn ddiwethaf sy’n archwilio thema galar. Roedd sioe ddigidol y cyfnod clo Sion Dale Jones, Possible, a’r gwaith dan arweiniad Mathilde López, Petula, hefyd yn mynd i’r afael â cholled a galar yn eu ffordd unigryw eu hunain. Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, Lorne Campbell; “Mae Gavin a’r tîm yn gwneud darn hynod wreiddiol o theatr sy’n dod â pherfformiadau dogfennol a byw ynghyd i gysylltu ein profiadau personol o gerddoriaeth â’n perthynas gyfunol â marwolaeth, galar ac adferiad. Mae cynifer o bobl wedi cael profedigaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac yng nghysgod y profiad hwn a rennir, mae’r sioe hon yn tynnu ar ein traddodiadau a’n straeon niferus i ddod o hyd i ddathliad o bopeth sy’n ein cysylltu yn y ffyrdd yr ydym yn galaru marwolaeth ac yn dathlu bywyd.”

Bydd Circle of Fifths yn agor yn y Tŷ Dawns, Caerdydd, ddydd Sadwrn 18 Mehefin a bydd yn rhedeg tan ddydd Sul 26 Mehefin.

Bydd y cynhyrchiad hwn yn mabwysiadu egwyddorion y Theatre Green Book, menter gan y diwydiant theatr i weithio’n fwy cynaliadwy a gosod safonau ar gyfer gwneud dewisiadau cynaliadwy ym mhob rhan o’r broses greadigol.