Press Story

National Theatre Wales yn cyhoeddi taith Feral Monster, sioe sydd wedi’i hysgrifennu gan Bethan Marlow a’i chyfarwyddo gan Izzy Rabey, gyda cherddoriaeth gan Nicola T. Chang.

Y cast yw Lily Beau, Carys Eleri, Geraint Rhys Edwards, Rebecca Hayes, Nathaniel Leacock a Leila Navabi.

Rhwng 15 Chwefror a 22 Mawrth 2024, bydd Feral Monster yn mynd ar daith i’r Sherman yng Nghaerdydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Pontio ym Mangor, Ffwrnes yn Llanelli (Theatrau Sir Gȃr) a Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu.

Yn Feral Monster, byddwn ni’n dilyn Jax, merch ddigon cyffredin yn ei harddegau, wrth iddi hi/iddyn nhw/beth bynnag ddelio â chariad, rhywioldeb, hunaniaeth, teulu a phrysurdeb di-baid ei hymennydd swnllyd, parod ei farn.

Mae Jax yn byw gyda’i Nain mewn pentref pitw, diflas; mae’n gymeriad digywilydd a hoffus, ac yn un o griw ifanc gwyllt y stryd. Wedi’i gwahardd o’r ysgol, dydy hi ddim yn gallu cael gwaith yn y siop tships, hyd yn oed. Wrth i acsonau a niwronau chwyrlio yn eu pen, bydd ymennydd Jax yn sylwebu’n barhaus am y pethau y byddan nhw’n eu gwneud, y pethau na fyddan nhw’n eu gwneud, a’r pethau na ddylen nhw’u gwneud. Wrth i Jax weld Ffion yn dod o’r siop tships, yn herfeiddiol yn eu gwallt a’u dillad swnllyd, mae’r gwreichion yn tasgu a chwant cwiar yr arddegau yn dod â’r pâr annhebygol hwn ynghyd yn ei holl ogoniant blêr, lletchwith a gwefreiddiol.

Mae Feral Monster yn ddathliad o bawb yn eu harddegau, ond mae’n gwneud hynny drwy hoelio’r sylw ar Jax, sy’n gyffredin o ddi-nod. Bydd unrhyw un sydd wedi mynd drwy’r arddegau yn eu gweld eu hunain yn y stori hon, wrth i sgript yr awdur Bethan Marlow ein dwyn o’r uchelfannau gwychaf i’r gwaelodion dyfnaf ar drên gwib hormonaidd y glasoed. Ochr yn ochr â hunaniaeth, rhywioldeb a theulu, mae Feral Monster yn trin a thrafod cyfeillgarwch, iechyd meddwl, y Gymru wledig, y bydoedd cwiar dosbarth canol a dosbarth gweithiol, rhieni sy’n troi’u cefnau ar eu plant, ac ail gyfle.

Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, bydd trac sain y sioe gerdd yn dod â geiriau a chymeriadau Bethan yn fyw. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Nicola T. Chang ar y cyd â’r cyfarwyddwr Izzy Rabey ac actorion drwy Gymru yn ystod proses ymchwil a datblygu. Mae Nicola yn gyfansoddwraig/dylunydd sain llwyddiannus yn y byd theatr a ffilm, ac mae’i gwaith diweddar yn cynnwys y sioeau nodedig: For Black Boys Who Have Considered Suicide When the Hue Gets Too Heavy (Apollo Theatre West End / Royal Court Jerwood Downstairs / New Diorama) a My Neighbour Totoro (RSC / Barbican).

Mae’r holl dîm creadigol yn arddel hunaniaeth LHDTCRhA+, gan gynnwys:

  • yr awdur Bethan Marlow, sy’n ddramodydd ac yn wneuthurwr theatr o Gymru, ac yn rhoi pwyslais ar adrodd straeon cwiar a straeon menywod. Mae gwaith theatr Bethan yn y gorffennol wedi cynnwys sioeau i Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Pentabus Theatre, RSC a Theatr y Sherman.
  • y cyfarwyddwr Izzy Rabey, sydd hefyd yn gerddor ac yn hwylusydd. Enillodd Wobr Selar 2022 am gyfraniad at y Gymraeg a’i diwylliant. Mae Izzy wedi gweithio i The Royal Court (lle bu’n Gyfarwyddwr dan Hyfforddiant yn 2020-2021), Theatr Clwyd, Pentabus ac English Touring Company, yn ogystal â gweithio yn Kenya, yr Unol Daleithiau, India a’r Deyrnas Unedig.
  • mae gwaith diweddar Cara Evans, dylunydd y set a’r gwisgoedd, yn cynnwys Sleepova (Bush Theatre) a Body Show (Gŵyl Ymylol Caeredin).
  • y dylunydd goleuo Marty Langthorne, sy’n gweithio ym mydoedd cwiar ac arbrofol theatr, dawns, celfyddyd fyw a gosodiadau. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar Zoetrope gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gyda Lea Anderson, ar ôl cyfrannu’n ddiweddar at iShowmanism! gan Dickie Beau (Theatre Royal Bath) a Remember Me (Hampstead Theatre).
  • y cyfarwyddwr symudiadau Osian Meilir, perfformiwr, artist symudiadau a choreograffydd sydd wedi creu gwaith newydd yn ddiweddar i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel rhan o brosiect 4x10 y cwmni yn ystod yr haf, Mae Mei hefyd wedi bod yn teithio gyda’i greadigaeth goreograffig ei hun, QWERIN, mewn gwyliau a lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
  • y gyfansoddwraig Nicola T. Chang (sy’n cael sylw uchod).
  • y cyfarwyddwr perfformio cerdd Alex Comana, artist sain a pherfformiwr sy’n ddiweddar wedi cyd-ysgrifennu a chreu’r sgôr i SCRAPER, ffilm 6 rhan i’r KW Institute for Contemporary Art yn Berlin, ynghyd â chyfansoddi’r trac sain i gynhyrchiad National Theatre Wales, The Cost of Living.
  • y dramäydd Jennifer Lunn, dramodydd a chynhyrchydd, a welodd ei drama lwyddiannus Es & Flo yn ymddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r Kiln Theatre, Llundain yn ddiweddar, ac a gynhyrchodd Sorter, a enwebwyd am wobrau, i Grand Ambition.

Y cast yw:

  • Lily Beau, actores, cantores a chyfansoddwraig a weithiodd yn ddiweddar ar Y Sŵn, enillydd y Ffilm Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2023.
  • Geraint Rhys Edwards, actor ac actor-gerddor, y mae ei waith nodedig yn cynnwys Hansh/Cymry Feiral, Brassed Off (Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth), Pantomeimiau Theatr Glan yr Afon, a chymeriad ‘Keith’ ar Hollyoaks.
  • Carys Eleri, actores sydd wedi ymddangos yn ddiweddar yn rhannau Delyth Fielding ar Pobol y Cwm i BBC Cymru, Nerys Evans yn ffilm nodwedd Y Sŵn i Cwmni Joio/S4C, a Ceri Jenkins yn Save The Cinema i Sky Arts.
  • Rebecca Hayes, actor sydd wedi gorffen cyfnod fel Mayella yng nghynhyrchiad hynod lwyddiannus Bartlett Shers, To Kill A Mockingbird (West End), ynghyd â chwarae rhan Trixie ym mherfformiad cyntaf erioed y byd o The Invincibles.
  • Nathaniel Leacock, canwr a chyfansoddwr sy’n fwyaf enwog am gefnogi Roots Manuva ar ei daith ddiweddaraf yn y Deyrnas Unedig.
  • Leila Navabi, comedïwr, actores, cyflwynydd ac awdur o’r de, sy’n fwyaf diweddar wedi cael clod gan y beirniaid am ei sioe gomedi hynod boblogaidd, Composition, yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu i sioeau amlwg fel Bad Education a Never Mind The Buzzcocks.

Mae cyd-greu â chymunedau yn rhan hollbwysig o ddull Bethan ac NTW o weithio. Mae Bethan wedi datblygu Feral Monster drwy gydweithio’n agos â phobl yn eu harddegau o sawl rhan o Gymru – o fyfyrwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion yn Sir Benfro i glwb ieuenctid LHDTCRhA+ GISDA, elusen yng Ngwynedd sy’n cynorthwyo pobl ifanc. Mae hi hefyd wedi cydweithio â pherfformwyr yn ystod y broses ymchwil a datblygu.

Meddai’r awdur Bethan Marlow (hi/nhw):

“Dydy stori’r ddrama hon ddim yn hunangofiannol, ond mae’r holl deimladau, yr ofnau, y meddyliau a’r ysfeydd yn sicr yn darlunio’r pethau oedd yn troi a throelli yn fy mhen pan oeddwn i yn fy arddegau. Rydw i ymhell o fod yn fy arddegau erbyn hyn, ond fe gymerodd hi gymaint â hyn o amser i mi ddod o hyd i’r geiriau iawn.”

Meddai’r cyfarwyddwr Izzy Rabey (hi/nhw):

“Mae straeon cwiar gwledig am bobl yn eu harddegau yn hynod o brin ar lwyfannau’r Deyrnas Unedig, heb sôn am rai Cymru. Mae hi wedi bod yn fraint a hanner cael gweithio ar y darn hwn gyda Bethan, Nicola a’r tîm i greu rhywbeth sy’n mynd i roi gwefr i’r gynulleidfa, yn gerddorol ac yn weledol. Mae cael cyfarwyddo sioe fel hon i’n cwmni theatr cenedlaethol yn golygu cymaint i mi, yn enwedig fel plentyn cwiar, gwledig, od yn y gorffennol. Rydw i ar bigau’r drain i rannu’r ffrwydrad hwn o liwiau, doniolwch, digalonni, ing ieuenctid ac annibendod hyfryd â chynulleidfaoedd.”

Meddai Lorne Campbell (ef), Cyfarwyddwr Artistig, National Theatre Wales:

“Mae cymaint o egni yn sgript Bethan ac yn nhrac sain Nicola – rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld y cyfan ffrwydro ar lwyfannau ledled Cymru y gwanwyn hwn. Mae tîm creadigol Feral Monster mor frwd am roi platfform i leisiau’r bobl sydd wedi’u gwthio i’r cyrion. Maen nhw’n creu darn o theatr sy’n orfoleddus ac yn codi’r galon, gan ddathlu’r pethau eithriadol ym mhawb sy’n eu harddegau, ond hefyd y llanast, y camgymeriadau a’r byrbwylltra sy’n rhan o’r profiad o fod yn ifanc.”

Cyfleoedd i bobl ifanc a grwpiau LHDTCRhA+ ledled Cymru

I gyd-fynd â’r cynhyrchiad, mae gan Feral Monster raglen allgymorth i ysgolion a cholegau, sy’n cynnwys sgyrsiau gan y prif gyfranwyr creadigol a chynlluniau gwersi digidol i Gyfnod Allweddol 4.

Bydd cyfle i gerddorion ifanc drwy Gymru ddysgu am greu cerddoriaeth i’r theatr, yn ogystal â pherfformio mewn gigiau cyn neu ar ôl y sioeau fel rhan o Feral Fest.

Fel rhan o’n dull o ofalu am ein cynulleidfaoedd, ym mhob lleoliad byddwn ni’n gweithio gyda grwpiau LHDTCRhA+ lleol i greu “ystafelloedd byw cyhoeddus”, cysyniad sydd wedi’i greu gan elusen o’r enw Camerados, lle bydd croeso i gynulleidfaoedd ymgynnull cyn ac ar ôl y perfformiadau.

Cynaliadwyedd

Mae National Theatre Wales, ynghyd â National Theatre, National Theatre of Scotland a nifer o theatrau eraill yn y Deyrnas Unedig a thrwy Ewrop wedi ymrwymo i greu ein sioeau yn unol â safonau newydd Theatre Green Book ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd cynhyrchiad Feral Monster yn cydymffurfio â safon ganolradd Llyfr Gwyrdd y Theatr, sy’n golygu y bydd 75% o bopeth a ddefnyddir wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen, ac 80% yn cael ei ddefnyddio eto ar ôl y sioe.

Mae NTW yn falch o fod ymhlith y chwe sefydliad sy’n cydlynu Llyfr Gwyrdd y Theatr, law yn llaw â National Theatre, National Theatre of Scotland, y Theatres Trust, SOLT/UK Theatre a Chymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (ABTT).

Bydd NTW yn cydweithio â Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a Pontio ym Mangor i drefnu tair cynhadledd sy’n rhoi sylw i “Theatr Cymru a’r Argyfwng Hinsawdd” drwy gydol 2023.

Noddir Feral Monster gan y Cymdeithas Adeiladu Principality a’i cefnogi gan The Open Fund PRS Foundation, John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen Dramayddion NTW, Jack Arts a gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.