Press Story

National Theatre Wales yn cyhoeddi ei thaith o Circle of Fifths, cynhyrchiad ymdrochol sy'n cyfuno ffilm, cerddoriaeth a theatr, wedi'i gyfarwyddo gan y gwneuthurwr ffilm a theatr Gavin Porter.

“Life in all its diversity; death in all its universality.” Sefydliad Materion Cymreig

★ ★ ★ ★“You feel you are part of something real and stark and spiritual.” Cylchgrawn Buzz

Perfformiwyd Circle of Fifths am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2022 yng Nghaerdydd, gan agor i glod gan feirniaid. Mae’n bleser gan National Theatre Wales ail-gynnal y sioe, a’i haddasu i’w rhannu mewn lleoliadau cymunedol, o neuaddau tref i gapeli i theatrau lleol yng Nghasnewydd, Glyn Ebwy, Y Waun, Aberteifi, Cas-gwent, Pontypridd, Butetown yng Nghaerdydd a Brixton yn ne Llundain.

Wedi'i chreu gyda chydweithfa o gerddorion ac artistiaid o gymuned amlddiwylliannol hynaf Cymru, Butetown, ac yn cynnwys straeon go iawn gan bobl ledled Cymru, mae Circle of Fifths yn archwilio sut y gall cerddoriaeth a straeon ein cysylltu mewn cyfnod o alar a cholled - gan ganiatáu gofod i fyfyrio a dathlu ar y cyd.

Mae cyd-greu yn ganolog i Circle of Fifths, yn yr un modd â phob un o brosiectau NTW. Ar ôl colli ei ewythr i COVID-19, cododd y cyfarwyddwr Gavin Porter ei gamera a dechrau casglu straeon pobl am sut mae bywydau'n cael eu dathlu mewn marwolaeth a phwysigrwydd traddodiadau a defodau. Gan ddefnyddio Twitter gofynnodd i bobl rannu pa ganeuon yr hoffent i gael eu chwarae yn eu hangladd. Roedd yr ymateb llethol yn cynnwys popeth o Abba i The Abyssinians, Gil Scott Heron i Nat King Cole. Wedi hynny cafodd Circle of Fifths ei dyfeisio a’i pherfformio gan gerddorion ac artistiaid o gymuned Butetown gan gynnwys y cerddor Ska a Reggae Drumtan Ward, yr aml-offerynnwr Kiddus Murrell, a’r berfformwraig (a threfnydd angladdau) Maureen Blades.

Cerddoriaeth yw'r llinyn pwerus sy'n rhedeg drwy Circle of Fifths, gan ddatgloi emosiynau heb eu mynegi a'n cysylltu â'n gilydd. Mae'r cynhyrchiad yn cymryd ei deitl o offeryn o theori cerddoriaeth sy'n trefnu traw yn ddilyniant. Weithiau bydd cerddorion jazz yn amharu ar y dilyniant hwn i greu llwybrau cerddorol newydd. Yn yr amherseinedd hwn mae Porter yn llunio tebygrwydd â'r effaith y mae colled yn ei chael - fel toriad yn rhythm ein bywydau.

Mae Gavin Porter wedi gweithio gyda National Theatre Wales ar nifer o brosiectau gan gynnwys The Agency, sy’n rhoi pobl ifanc wrth galon datblygu prosiectau a busnesau sydd â phwrpas cymdeithasol a The Soul Exchange fel gwneuthurwr ffilmiau yn ystod blwyddyn gyntaf NTW. Yn ddiweddarach daeth yn gysylltiedig â TEAM NTW a gweithiodd ar De Gabay (2013), drama arobryn gan feirdd Somalïaidd o Butetown. Ef oedd Cydymaith Creadigol NTW o 2013 ac, wrth adeiladu ar waith pobl eraill, creodd y prosiect theatr cyfranogol, Y Prosiect Democratiaeth Mawr. Mae Porter wedi treulio blynyddoedd lawer yn dweud straeon heb eu hadrodd trwy ei raglenni dogfen a Circle of Fifths oedd ei waith theatrig mawr cyntaf:

“Ar ôl dod i fyny trwy TEAM NTW, rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn sut y gallai'r sgiliau rydw i wedi'u hogi trwy fy ngwaith dogfennol, a chyfweld â channoedd o bobl, gael eu trosglwyddo i ofod theatrig. Mae’r sioe hon yn brofiad 360 gradd, gyda pherfformwyr, cerddorion, cyfweleion ar dâp a ffilm, i gyd yn dod at ei gilydd i greu wythnos wirioneddol unigryw o berfformiadau.”

Dywed Lorne Campbell Cyfarwyddwr Artistig, National Theatre Wales:
“Trwy fynd ar daith gyda Circle of Fifths ledled Cymru ac i Lundain, rydym yn agor deialog am alar – pwnc sy’n cael ei ystyried yn aml yn dabŵ – ac yn rhannu straeon cyfoethog, twymgalon a chymhleth sy’n tarddu o Butetown yng Nghaerdydd gyda chynulleidfaoedd ledled y wlad. Mae darn theatr hynod wreiddiol Gavin a’r tîm yn tynnu ar ein traddodiadau a’n straeon niferus i ddathlu popeth sy’n gysylltiedig â’r ffyrdd yr ydym yn galaru marwolaeth ac yn coffáu bywyd.”

Cyfleoedd i bobl greadigol ledled Cymru

Fel rhan o'r daith, mae TEAM NTW yn arddangos artistiaid lleol mewn digwyddiadau cymdeithasol TEAM yn Theatr Byd Bach yn Aberteifi ar 29 Medi ac yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd ar 19 Hydref.

Rydyn ni hefyd yn rhoi cyfleoedd i 20 o storïwyr ifanc 16-25 oed sy'n byw yn lleol i'r lleoliadau greu 'portread sain' - portread ffotograffig ynghyd â chyfweliad sain myfyriol - o rywun yn eu cymuned. Bydd y storïwyr ifanc yn creu banc o straeon gan bobl ledled Cymru o amgylch thema ganolog y sioe, sef galar, a fydd yn cael eu rhannu yng nghynteddau’r lleoliadau ac ar-lein.

Cynaliadwyedd

Mae National Theatre Wales, ynghyd â’r National Theatre, National Theatre of Scotland a llawer o theatrau eraill yn y DU a ledled Ewrop wedi ymrwymo i wneud ein sioeau i safonau newydd Theatre Green Book ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd Circle of Fifths yn cael ei wneud i safon Ganolradd Llyfr Gwyrdd y Theatr lle bydd 75% o bopeth a ddefnyddir wedi cael bywyd blaenorol a 80% yn mynd ymlaen i gael bywyd yn y dyfodol ar ôl y sioe.

Mae NTW yn falch o fod yn un o’r chwe sefydliad sy'n cydlynu Llyfr Gwyrdd y Theatr ochr yn ochr â’r National Theatre, National Theatre of Scotland, The Theatres Trust, SOLT/UK Theatre a’r Association of British Theatre Technicians (ABTT). Gan weithio gyda’r National Theatre a National Theatre Scotland, bydd NTW yn cynnal digwyddiad i fyfyrio ar gynaliadwyedd ac effaith yr argyfwng hinsawdd ar y sector theatr ym mis Medi 2023.

Mae NTW hefyd yn partneru â Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Pontio ym Mangor i gyflwyno tair cynhadledd fydd yn trafod “Theatr Cymru a’r Argyfwng Hinsawdd”.

Cynyrchiadau NTW sydd ar ddod

Feral Monsters - yn teithio yng Nghymru yn ystod gwanwyn 2024.

Sioe gerdd newydd gan Bethan Marlow yw Feral Monsters, wedi'i chyfarwyddo gan Izzy Rabey, gyda cherddoriaeth gan Nicola T. Chang. Bydd yn teithio ar draws theatrau Cymru yn ystod gwanwyn 2024, gyda lleisiau anhygoel yn uno grime, R&B, pop a rap. Meddyliwch am Inside Out yn cyfarfod â Skins yn cyfarfod â Kae Tempest.

Mae'r sioe yn dathlu stori’r arddegwr di-nod, Jax, wrth iddi/iddynt/beth bynnag lywio cariad, rhywioldeb, teulu a'r amryfal rannau o'i hymennydd swnllyd, llawn barn.