Press Story

Yn cynnwys 12 aelod o’r tîm o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM) yng Nghymru, mae Casgliad Cymru, dan arweiniad National Theatre Wales, wedi’i ddewis i arwain un o ddeg prosiect arloesol Festival UK* 2022.

Ar ôl prosiect Ymchwil a Datblygu tri mis dwys, a phroses asesu drwyadl yn cynnwys 30 tîm ledled y DU, mae Casgliad Cymru wedi ennill ei gais i gynrychioli Cymru yn yr ŵyl creadigrwydd ledled y DU yn 2022. Mae manylion y comisiwn yn cael eu cadw’n gyfrinachol am y tro, fodd bynnag, datgelwyd mai rhodd fwyaf Cymru – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – fu catalydd y prosiect.

Casglodd y tîm creadigol 12 unigolyn ar draws sectorau – gan ddod â’r Ganolfan Technoleg Amgen ym Machynlleth ynghyd â Jukebox Collective o Gaerdydd a Frân Wen yng Ngwynedd, technolegwyr ac arloeswyr creadigol o Sugar Creative a Clwstwr, newyddiadurwr a threfnydd cymunedol, awdur ac artistiaid, a’r cwmnïau cenedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru, National Theatre Wales a Ffilm Cymru.

Wedi’i greu gyda phobl Cymru ar gyfer cynulleidfa fyd-eang, bydd Casgliad Cymru, dan arweiniad National Theatre Wales, nawr yn cychwyn ar y gwaith i ddatblygu eu prosiect gyda phartneriaid Cymreig a rhyngwladol a chymunedau ar draws Cymru ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesaf, gan ddod â phobl ynghyd ac arddangos cryfderau Cymru mewn cynhyrchu ffilm a theledu, technoleg ymdrochol, cynaliadwyedd a pherfformiadau byw.

Dywedodd Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, “Mae’n fraint enfawr cael gweithio gyda’r consortiwm hwn o dalent Gymreig sy’n cynrychioli amrywiaeth, gwreiddioldeb, mentrusrwydd a haelioni y genedl hynod hon. Mae’r broses ymchwil a datblygu wir wedi herio meddwl unigol a chyfunol ac wedi ein gyrru i archwilio gwneud pethau newydd mewn ffyrdd newydd. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau rhannu’r prosiect gyda phartneriaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd.”

Wrth sôn am y newyddion heddiw, dywedodd Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, “Mae’n newyddion cyffrous iawn ein bod nawr yn cychwyn ar gam nesaf y prosiect. Yn ystod blwyddyn fu mor heriol, rwy’n falch iawn y gallwn helpu’r sectorau hyn wrth i ni i gyd edrych ymlaen at 2022 fwy addawol – gyda chreadigrwydd yn dod â chymunedau at ei gilydd unwaith eto.”

Bydd 10 prosiect Festival UK* 2022 yn cyrraedd pob cornel o’r DU ac yn cynnwys digwyddiadau, gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, cyfleoedd cyfranogi a rhaglenni dysgu fydd yn cyrraedd miliynau o blant a phobl ifanc, gan ddangos pwysigrwydd creadigrwydd ym mywydau pobl a’n dyfodol ar y cyd.

Gwahoddwyd 30 tîm yn cynnwys gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr, artistiaid a mathemategwyr o bob rhan o’r DU i ddod at ei gilydd i greu partneriaethau newydd a datblygu syniadau ar gyfer prosiectau ymgysylltu â’r cyhoedd ar raddfa fawr. Wedi’u cynllunio i gyrraedd miliynau yn fyd-eang, bydd y prosiectau’n digwydd mewn lleoliadau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, a byddant yn agored, yn wreiddiol ac yn optimistaidd.

Daw’r timau o’r sector cyhoeddus a phreifat, yn cynnwys artistiaid, gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr a mathemategwyr, ynghyd â choreograffwyr, codyddion, datblygwyr gemau, cerddorion, gwneuthurwyr theatr, awduron, a llawer o ddisgyblaethau eraill. Mae’r lledaeniad daearyddol ledled y DU hefyd yn adlewyrchu ei amrywiaeth, gan gynnwys sefydliadau anabledd, a thalent greadigol Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Cefnogodd y prosiect Ymchwil a Datblygu â thâl fwy na 500 o bobl greadigol o bob rhan o STEAM, gan gynnwys mwy na 100 o weithwyr llawrydd, ar adeg pan mae pandemig Covid wedi effeithio ar sectorau. Bydd rhagor o swyddi a chyfleoedd yn cael eu creu wrth i’r prosiectau a gomisiynir gael eu cynhyrchu.

Dros y 12 mis diwethaf mae’r sector celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru wedi wynebu argyfwng dirfodol o ganlyniad i Covid-19. Mae cynulleidfaoedd a chymunedau Cymru wedi colli cyfleoedd i gymryd rhan mewn enydau a rennir o weithgarwch diwylliannol a mynegiant creadigol, sy’n golygu na fu mynediad at ddiwylliant a chreadigrwydd erioed yn fwy hanfodol i gydnerthedd meddyliol ac emosiynol ac adferiad ein cenedl. Bydd prosiect Collective Cymru yn arbrawf mewn creadigrwydd y gobeithiant y bydd yn darparu sbardun arbennig i sector diwylliant Cymru sydd wedi’i effeithio mor ddramatig yn ystod y pandemig. Bydd y prosiect yn dod â chyfleoedd buddsoddi, cyflogaeth a datblygiad creadigol – ynghyd â’r cyfle i roi llwyfan i leisiau heb gynrychiolaeth ddigonol wrth ehangu cyfleoedd i bobl Cymru gymryd rhan mewn profiadau creadigol cysylltiol, creadigol a rennir.

Mae manylion llawn holl gomisiynau’r ŵyl yn cael eu cadw’n gyfrinachol er mwyn caniatáu i’r timau creadigol droi eu syniadau’n realiti, ond bydd prosiectau’n mynd â ni o’r tir, i’r môr, i’r awyr a hyd yn oed y gofod allanol, gan ddefnyddio technoleg arloesol a grym y dychymyg. Cyhoeddir rhaglen yr ŵyl, ynghyd ag enw newydd, yn ddiweddarach eleni.