Press Story

  • Sioe newydd, Possible, wedi’i chyflwyno gan National Theatre Wales i’w ffrydio’n fyw rhwng 29 Mehefin – 2 Gorffennaf ac ar alw rhwng 6 – 13 Gorffennaf 2021
  • Mae Possible yn archwilio themâu cariad, cydnerthedd a chysylltiad trwy gyfuniad hynod o theatr, cerddoriaeth a ffilm
  • Wedi’i greu a’i berfformio gan Shôn Dale-Jones

Mae National Theatre Wales yn llwyfannu sioe newydd, Possible, darn chwareus a dwys sy’n adrodd stori am gariad a dod o hyd i’r dewrder i archwilio’r gorffennol, er mwyn llunio’r dyfodol.

Wedi’i osod i drac sain emosiynol, gyda cherddoriaeth fyw a delweddau sinematig swrealaidd, mae’n brofiad sy’n rhannol yn theatr, yn rhannol yn air llafar, yn rhannol yn gig ac yn rhannol yn ffilm, gyda’r cynhyrchiad yn ffrydio’n fyw ac ar alw ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Wedi’i gomisiynu yn 2019, roedd Possible yn mynd i fod yn sioe am sut rydyn ni’n dychmygu ac yn darganfod cariad yn ein bywydau. Ond yna fe gyrhaeddodd y pandemig, gan yrru crëwr y sioe, Shôn Dale-Jones, i ailfeddwl am bethau trwy lens newydd. “Roeddwn i eisiau cipio’r siwrnai emosiynol rydyn ni wedi bod arni ers i’r pandemig ffrwydro i’n bywydau a gwneud rhywbeth a allai ein dal at ein gilydd o amgylch y pethau sy’n wirioneddol bwysig,” meddai Shôn.

Nid yn unig y newidiodd naratif y sioe gyda dyfodiad COVID-19, ond bu’n rhaid i’r ffordd y cafodd ei chreu newid hefyd. Yn hytrach na chreu caneuon, cerddoriaeth a fideo yn yr un ystafell, roedd yn rhaid i’r tîm gydweithredu o bell o wahanol ddinasoedd. Ac yn lle creu’r sioe ar gyfer y llwyfan, bu’n rhaid cynllunio popeth ar gyfer sgrin 16 x 9.

Gan fyfyrio ar wneud y sioe ar gyfer y sgrin, dywedodd Shôn: “Mae’r ffordd rydyn ni’n adrodd y stori hon ar y sgrin yn cynnig cyfleoedd i ni nad ydyn nhw’n bodoli ar y llwyfan, ac rydw i wedi fy nghyffroi yn fawr gan y peth. Rwy’n credu ein bod ni’n llwyddo i gadw’r agosatrwydd rydyn ni’n ei gyflawni yn y theatr, ac y gallai’r fformat helpu cynulleidfaoedd i deimlo’n fwy personol gysylltiedig â’r naratif a’r storïwr. Bydd y sioe yn cynnig amser iddynt fyfyrio ar y 18 mis diwethaf, dod o hyd i undod trwy’r profiad a rennir a, gobeithio, teimlo’n llai ar eu pennau’u hunain.”

Dywedodd Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, “Mae Shôn a gweddill y tîm creadigol yn gwneud darn rhyfeddol, amserol o theatr. Yn y cyfnod estynedig hwn o ansicrwydd ynghylch yr hyn sy’n bosibl ar lwyfan ac oddi arni, yn y byd go iawn, ym myd y dychymyg a’r mannau ansicr rhyngddynt, mae Possible yn gynhyrchiad sy’n rhannu gobaith, ansicrwydd, cariad a chydnerthedd dynol.

“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’n ffrindiau yng Nglan yr Afon i ffrydio’r cynhyrchiad yn fyw i gynulleidfaoedd ledled Cymru a’r byd, cyn gobeithio dod â’r sioe i gynulleidfaoedd yn bersonol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Er y gall theatrau ailagor yn awr, mae yna lawer o heriau i’w goresgyn o hyd i gael cynulleidfaoedd yn ôl i’w llawn gapasiti mewn lleoedd perfformio. Gyda chadw phellter cymdeithasol yn dal yn ei le, bydd llawer o theatrau yn parhau i gael trafferth. Rydym yn llawn cyffro i gael cyfleoedd fel hyn i fod yn fwy arloesol yn ein gwaith. Mae ffrydio’r cynhyrchiad yn golygu y gallwn o bosibl gyrraedd rhagor o bobl â phrofiadau byw a rennir sy’n ein helpu ni i gyd i gymryd ein camau petrus i’r byd sy’n dod i’r amlwg.”

Dywedodd crëwr a pherfformiwr y sioe, Shôn Dale-Jones: “Mae wedi bod yn wych gweithio gyda National Theatre Wales eto. Mae’r cymorth y maen nhw wedi’i ddarparu yn eithriadol ac rydw i wedi cael fy ysbrydoli gymaint wrth weithio gyda’r tîm. Rydyn ni i gyd wedi ein clymu gyda’n gilydd gan yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu, ac rydyn ni’n chwilio’n angerddol am atebion, er mwyn i ni allu parhau i adrodd straeon, a chysylltu cynulleidfaoedd o amgylch ein profiad dynol cyffredin.”

Mae Possible wedi’i greu a’i berfformio gan Shôn Dale-Jones a’i gyd-gyfarwyddo a’i ddylunio gan Stefanie Mueller. Cyfarwyddwyd y ffilm a’r ffotograffiaeth gan Bear Thompson, cerddoriaeth gan John Biddle, dyluniad sain gan Sam Jones a dyluniad goleuo gan Katy Morison. Cynhyrchu a ffrydio’r ffilm gan Red90.

Yn cael ei ffrydio’n fyw o Lan yr Afon yng Nghasnewydd rhwng 29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021 am 8pm, yna ar gael ar alw rhwng 6 – 13 Gorffennaf 2021. Mae tocynnau ar gyfer Possible yn dechrau am £8 ac yn mynd ar werth ddydd Iau 20 Mai. Am docynnau a gwybodaeth bellach, ewch i nationaltheatrewales.org/cy/ntw_shows/possible

Mae Possible yn cynnwys peth cynnwys y gallai rhai aelodau o’r gynulleidfa ei ystyried yn sbardun.