News Story

Pam ydych chi’n ysgrifennu?

Dechreuais fynd ar drywydd ysgrifennu yn iawn yn 2018 ond rwyf wedi caru geiriau ers cyn cof. Darllenais lawer fel plentyn ac ochr yn ochr â’m 3 brawd a chwaer, roeddwn yn gyson yn llunio straeon a gemau dychmygus. Es i i Ysgol Stanwell ym Mhenarth a oedd ag adran ddrama anhygoel ac yno y sylweddolais y gallwch chi lunio straeon a’u hactio i ennill bywoliaeth. Pan raddiais o astudio drama yn y brifysgol, cefais y realiti o gydbwyso ceisio actio a’r angen i weithio’n amser llawn mewn swydd ‘normal’ yn anodd iawn. Rwy’n teimlo bod actorion yn dechrau creu eu gwaith eu hunain am lawer o wahanol resymau ond i mi, roeddwn i eisiau adfer y rheolaeth honno dros fy mherfformiadau a gwneud cyfiawnder â’m gwaith actio eto. Wrth fynd ar drywydd ysgrifennu am y rheswm hwn, sylweddolais mai gorfod gweithio’n amser llawn oedd y peth gorau oedd wedi digwydd imi gan fy mod yn ddiarwybod wedi bod yn cronni swm enfawr o brofiadau bywyd, sydd wedi gosod seiliau ar gyfer fy nghymeriadau a straeon a bydoedd wrth symud ymlaen. Fe wnes i synnu fy hun gyda chymaint roeddwn i wrth fy modd yn ysgrifennu. Erbyn hyn nid cyfrwng ar gyfer fy actio yn unig yw ysgrifennu, ond mae’n angerdd yn ei rinwedd ei hun. Rwy’n ysgrifennu mwy a mwy ar gyfer perfformwyr eraill ac yn treulio oriau yn cuddio gyda fy mhen wedi’i gladdu yn fy ngliniadur.

Beth oedd eich llwyddiant cyntaf o ran ysgrifennu?

Rwy’n teimlo mai fy sioe dau berson ‘Detention’ oedd fy llwyddiant ysgrifennu cyntaf yn 2018. Fe wnes i logi’r gofod i lawr y grisiau yn Little Man Coffee Co yng Nghaerdydd a gwneud dwy noson, yn bennaf i ffrindiau a theulu. Fodd bynnag, cawsom adolygiad 5* gan Cardiff Theatre Review a roddodd yr hyder imi wybod y gallai fod potensial i’m gwaith.

Sut y gwnaethoch chi ddod i wybod am Awdur Preswyl Cymru a beth wnaeth i chi fod eisiau gwneud cais?

Yn 2019 awgrymodd Helen Perry y dylwn wneud cais am y cyfnod preswyl ar ôl iddi fy ngweld yn perfformio mewn noson gwaith newydd a gynhaliwyd gan Chippy Lane Productions. Bryd hynny, doedd gen i ddim byd sylweddol ac ni chefais lwyddiant ond yn lle hynny fe wnaeth Helen fy ngwahodd i Leisiau Cymreig BBC Writersroom 2019. Ar y diwrnod cyntaf roeddwn i wrth fy modd gyda’r ysgrifbin a’r llyfr nodiadau am ddim – blwyddyn yn ddiweddarach, dydw i ddim yn gallu credu’r pecyn cymorth o sgiliau ysgrifennu yr wyf wedi eu hennill. Daeth enillydd 2019 Rhiannon Boyle i bob un o’n sesiynau Writersroom ac fe wnaeth ei brwdfrydedd dros APC fy annog i ail-ymgeisio. Y tro hwn, cyflwynais sgript a ysgrifennwyd gennyf i yn defnyddio’r sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu y flwyddyn honno ac fe wnes i lwyddo i gyrraedd y diwedd. Mae hyn yn brawf o’r hyfforddiant a’r anogaeth a gefais yn Writersroom.

O ble daeth y syniad am eich sgript fuddugol a’r cymeriadau yn y stori?

Fe wnes i feddwl am y syniad am fy sgript o’r adeg pan oeddwn i’n gwerthu fy mhethau mewn gwerthiannau cist car gyda fy chwaer i gynilo er mwyn symud i Lundain. Roedd y gwerthiannau yn llawn bywyd a digwyddodd cymaint o bethau doniol i ni. Mae yna ymdeimlad rhyfedd o gymuned yno a gwleidyddiaeth ryfedd sy’n unigryw i’r lle. Roeddwn i hefyd eisiau dangos chwaeroliaeth ar y sgrin a’i bod yn ymwneud â chyfeillgarwch yn unig a sut y gall y math hwnnw o gariad yn aml ragori ar gariad rhamantus. Rwy’n ffrindiau gyda llawer o ferched doniol ac roeddwn i eisiau i hynny fod yn rhan fawr o’r sioe.

Pa mor bwysig yw hi, yn eich barn chi, i adrodd straeon Cymreig dilys?

Rwy’n angerddol am adrodd straeon Cymreig a rhoi Cymru ar y map. Rwy’n credu bod gennym hanes diwylliannol cyfoethog nad yw’n aml yn cael ei gynrychioli ar lwyfan neu sgrin. Rwy’n teimlo bod sinema yr Alban a’r Iwerddon yn brydferth ac rwyf am i Gymru ddangos yr un llusern Geltaidd yn y DU. Rwy’n anelu gyda’r gwaith rwy’n ei greu i ddangos prydferthwch Cymru a’n profiadau mewn modd dilys, gan ddangos rhannau o’n gwlad nad yw pobl bob amser yn gwybod amdanynt.

Beth yw’r pethau gorau rydych chi wedi’u gweld neu eu clywed eleni?

Yn ystod 2020, fel llawer o bobl, roeddwn yn hynod siomedig pan gaewyd ein theatrau ac roeddwn wedi symud i Lundain yn rhannol i fwynhau’r West End a gofodau eraill. Rwyf wedi gwylio llawer o theatr ar-lein anhygoel ac ailddangosiadau NT a RSC o sioeau blaenorol. Y peth gorau a welais yn 2019 oedd fersiwn The Bridge o A Midsummer Nights Dream. Es i gyda fy nghydletywyr nad ydyn nhw’n ymwneud â’r celfyddydau ac roedden nhw wrth eu bodd. Rwy’n credu mai dyna theatr ar ei gorau, yn enwedig Shakespeare, pan mae’n hygyrch ac yn rhoi hwb i’ch adrenalin. Fe wnaethant hyd yn oed chwarae Beyoncé ar y diwedd!

Beth arall sydd gennych chi ar y gweill?

Yn y flwyddyn newydd mae gen i ychydig o brosiectau ar y gweill. Yn fwyaf nodedig, rwyf wedi cyrraedd rhestr fer Pitch Your Play Masterclass yn Theatre Royal Haymarket a byddaf yn cyflwyno fy nrama ‘Two Flats on Clifton Street’ i banel yn y gobaith y byddaf yn cael wythnos o Ymchwil a Datblygu ar lwyfan yr Haymarket fydd yn arwain at ddarlleniad wedi’i ymarfer o flaen gweithwyr proffesiynol gwahoddedig y diwydiant.

Beth mae’n ei olygu i chi i fod yn Awdur Preswyl Cymru a beth yr ydych yn edrych ymlaen ato?

Rydw i wedi cael sioc ac rwyf wrth fy modd i fod wedi ennill Awdur Preswyl Cymru 2020, ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r panel am roi’r cyfle hwn i mi. Gall ysgrifennu fod yn unig ac mae cael eich gwaith wedi’i ddarllen a’i fwynhau gan banel fel beirniaid APC yn deimlad mor hyfryd. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar yr holl gyfleoedd anhygoel rwy’n gwybod y bydd y lleoliadau yn eu cynnig.

Hunlun o fenyw yn dal gwobr Awdur Preswyl y BBC 2020.