News Story

Gan Tabitha Milne a Rhian Hughes

Cyflwyniad

Cychwynnodd NTW o ddim yn 2009, a’r weledigaeth oedd datblygu ar yr hen draddodiadau adrodd straeon yng nghymunedau Cymru mewn ffyrdd newydd a radical – adrodd straeon y Gymru gyfoes ond gan gadw’r gymuned yn ganolog i bopeth.

Mae’r Cwmni wedi bod ar dipyn o siwrnai dros y 12 mis diwetha’. Mae’n deg dweud ei fod yn gweithio bellach mewn Cymru go wahanol i’r Gymru a oedd yn bodoli pan ffurfiwyd y Cwmni’n wreiddiol. Treuliwyd y blynyddoedd diwetha’ yn dygymod â phandemig byd-eang: ei effaith ar y byd a’n cymunedau, ei fygythiad i ddyfodol llawer o’n sector, a’r newid a ddaeth i ffyrdd sefydliadau o weithio wrth iddyn nhw ateb anghenion eu staff a’u cynulleidfaoedd.

Dyma gyfle felly i NTW ofyn cwestiynau eitha’ heriol i’w hun, gan gnoi cil am y siwrnai a’r dewisiadau a wnaeth, ac edrych o’r newydd ar ei weledigaeth, ei werthoedd a’i gyfeiriad o dan arweinyddiaeth artistig newydd (cymerodd Lorne Campbell yr awenau fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Mawrth 2020).

Creu’r weledigaeth

Yn ystod y pandemig, dechreuodd Tabby weithio ar y broses o greu’r weledigaeth ar gyfer y pethau sy’n bwysig i NTW heddiw a thrywydd newydd y Cwmni. Newidiodd y weledigaeth wreiddiol – sef creu theatr fel ffordd o edrych ar gymhlethdodau a chwestiynau’n gysylltiedig â hunaniaeth genedlaethol a lle. Yn hytrach, penderfynwyd bod angen ymateb i’r anghydraddoldebau aruthrol a ddaeth i’r wyneb yn sgil y pandemig, protestiadau Black Lives Matter, a mudiadau gwrth-abledd. Rhoddodd hyn ffrâm newydd i’r agenda, gan ddechrau edrych ar theatr fel ffordd o gysylltu pobl â’i gilydd a sbarduno newid.

Fel rhan o’r broses honno, cafodd cyfres o sesiynau creadigol eu cynnal gyda’r staff a’r bwrdd, gan edrych ar stori NTW hyd at y pwynt hwnnw. Edrychwyd ar y gorffennol a’r presennol, cyn mapio gobeithion pawb at y dyfodol. Gyda Covid yn tarfu ar bopeth o’n cwmpas ni, roedd yn gyfle i feddwl am sut gallen ni wneud pethau’n wahanol.

Wrth gynnal y sesiynau hyn, roedd gennyn ni un amcan pwysig mewn golwg: diffinio meddylfryd gyffredin ar gyfer beth sy’n bwysig i NTW yng nghyd-destun y byd mae’n rhan ohono – cyfres o werthoedd diwylliannol sy’n treiddio fel DNA drwy bopeth mae’n ei wneud, gan roi sail i’w ddiben, i’w ddiwylliant ac i’w uchelgeisiau. Roedd hi’n glir bod pawb yn barod i rywbeth newid, ac yn barod i lunio gweledigaeth gyffredin ar gyfer y dyfodol.

Drwy’r broses hon, aethon ni ati i greu gwerthoedd a fyddai’n ganolog i’r brand wrth i hwnnw ddatblygu dros y misoedd nesaf, yn ogystal â gosod cerrig sylfaen ar gyfer cynllun strategol newydd y Cwmni.

To spark change and open minds. Sharing stories, making connections and sharing conversations that enrich and inspire our collective national understanding.

Drwy’r broses hon, aethon ni ati i greu gwerthoedd a fyddai’n ganolog i’r brand wrth i hwnnw ddatblygu dros y misoedd nesaf, yn ogystal â gosod cerrig sylfaen ar gyfer cynllun strategol newydd y Cwmni.

Roedd y tîm Cynulleidfaoedd yn frwd dros weithio’n holistig er mwyn i ffyrdd o feddwl a oedd wedi’u seilio ar werthoedd gael eu plethu yn rhan o wead y strategaeth sefydliadol a diwylliant y Cwmni. Roedden ni’n gwybod y byddai hynny’n cryfhau’r broses o greu’r brand.

Mwy na logo

Un o brif amcanion yr ailfrandio yw helpu NTW i ddod yn frand diwylliannol cenedlaethol, gan ehangu ei gyrhaeddiad a’i broffil y tu hwnt i’r sector celfyddydau a theatr, a’r tu hwnt i’r bobl sy’n ei adnabod yn dda, er mwyn cysylltu â phobl ym mhob cwr o Gymru.

Roedden ni eisiau rhoi delwedd newydd i’r Cwmni. Byddai’r brand yn un cynnes, agos-atat, wedi’i seilio ar werthoedd, a byddai’n dangos bod theatr yn rhywbeth sy’n bodoli o’n cwmpas ym mhobman ar ffurf straeon a phrofiadau pobl. Ac nid yn rhywbeth uchel-ael sydd wedi’i greu gan y dethol rai ar gyfer y dethol rai’n unig.

Mae ailfrandio yn llawer mwy na dim ond logo newydd. Mae’n berthnasol i bopeth mae’r Cwmni’n ei wneud, i’w hunaniaeth, ac i sut mae am i bobl eraill deimlo. I’n helpu ni i greu stori, naratif a llais i’n brand penodol ni, aethon ni ati i gomisiynu Jo Lilford o Run Jump Fly. Mae Jo yn awdur, yn hwylusydd ac yn strategydd brandio a chyfathrebu ac mae’n byw yma yng Nghymru.

Roedd modd i Jo grisialu hanfod yr hyn sy’n gwneud NTW yn gwbl unigryw, cyn ein helpu ni i roi hynny ar waith. Roedd Jo hefyd yn onest a chynnes, ac fe wnaeth ein partneriaeth ein helpu ni’n arw i greu pethau da.

Addewid brand newydd NTW yw sbarduno newid cadarnhaol ac agor meddyliau pobl. Rhannu straeon, creu cysylltiadau a dechrau sgyrsiau sy’n cyfoethogi ac yn ysbrydoli ein dealltwriaeth o bwy ydyn ni fel cenedl.

Mae’n rhoi’r Cwmni mewn lle beiddgar, lle bydd yn amlwg yn ei faes. Felly hefyd lais newydd y brand, llais sy’n chwilfrydig, yn hyderus, yn gynnes, yn agored, yn sgyrsiol ac yn llawn mynegiant. Dyma lais sy’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar bob cyswllt a gawn â chynulleidfaoedd, a llais sy’n gallu cyrraedd rhannau o’r gymuned a allai fod wedi bod y tu hwnt i NTW o’r blaen. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y Gymraeg a'r Saesneg diolch i waith yr ysgrifennwr copi, Rhys Iorwerth.

Geiriau a delweddau byw

Roedden ni eisiau defnyddio brand gweledol y Cwmni i feithrin yr ymdeimlad hwn o agosrwydd a chysylltiadau. Roedden ni eisiau dangos sut gall straeon ein cysylltu, ein helpu ni i ddeall ein gilydd, a sbarduno newid. Ac roedden ni eisiau crynhoi hyn i gyd mewn ffordd drawiadol, chwareus a chynnes.

Mae NTW yn dod â phobl ynghyd ac yn cydweithio ym mhopeth mae’n ei wneud, gan roi llwyfan yn aml i wneuthurwyr theatr annibynnol a chwmnïau llai o faint. Mae hefyd yn aml yn gweithio ar y cyd neu fel partner sy’n cyd-gynhyrchu. O safbwynt brand, mae hyn ar adegau wedi bod yn dalcen caled i NTW wrth iddo geisio cryfhau ei hunaniaeth ei hun. Felly un o’r prif ofynion oedd creu hunaniaeth weledol a fyddai’n gweithio ochr yn ochr â phethau eraill, gyda phresenoldeb cryf a theimlad unigryw o gymeriad. Fyddai rhywbeth rhy anhyblyg, neu rywbeth na fyddai’n cyd-fynd yn dda â phethau eraill, ddim yn gweithio.

Aethon ni ati i gomisiynu Alex Jenkins o Borthcawl, o stiwdio Designed for Life, i weithio gyda ni ar hyn. Mae’r hyn mae Alex wedi’i greu yn feiddgar ac yn fodern – ond eto mae iddo deimlad retro. Ac mae’n llawn dop o gymeriad. Mae ganddo botensial aruthrol.


'In contrast to the previous branding I wanted to create an icon that was deliberately bold, confident and chunky whilst being very flexible and fun to use. It was key to capture a unique sense of character in the branding. I worked with a hand drawn lettering artist and typographer to create a unique set of letters for NTW that could be used in two different formats, one for NTW and the other for NTW TEAM.

I wanted to create an icon that would animate really well, could be used large-scale but more importantly could be cropped to create a series of very flexible graphic shapes and holders for NTW imagery. The branding and colour palette was designed to be bright, compelling, engaging, vibrant and warm with a liberal sprinkling fun for good measure.'

Alex Jenkins


Cartre’ rhithwir

Roedden ni wastad yn gwybod y byddai rhan o’r ailfrandio yn golygu ailddatblygu gwefan y Cwmni. Roedd honno wedi troi’n Frankenstine o wahanol rannau a thudalennau dros y blynyddoedd, ac roedd hi’n anodd ei defnyddio i roi gwybod am bopeth roedd y Cwmni’n ei wneud. Roedd hi’n weddol wael o ran hygyrchedd hefyd. Roedd hi wedi disgyn i’r fagl o ddefnyddio strwythur a therminoleg oedd wedi’u seilio ar strwythurau mewnol y sefydliad, yn hytrach na dyluniad a oedd yn canolbwyntio ar bobl ac yn rhwydd i’w ddefnyddio.

Roedden ni eisoes wedi cymryd y cam arwyddocaol o symud i system CRM newydd, sef Spektrix, er mwyn sicrhau bod datblygu cynulleidfaoedd yn rhan annatod o waith y sefydliad ac yn ganolog i strwythurau a phrosesau NTW. Byddai gwefan newydd yn gyfle i fynd gam ymhellach yn hyn o beth.

Dechreuon ni weithio gyda Supercool, sef ein partneriaid digidol newydd. Dyma gwmni sydd â hanes o lwyddo wrth weithio gyda sefydliadau ym maes y celfyddydau a diwylliant, ac roedd modd iddyn nhw ein helpu i roi lle canolog i gynulleidfaoedd drwy gydol y broses.

Mae bod yn theatr ‘heb waliau’ yn rhoi hyblygrwydd i NTW sy’n arwain at gael rhyddid a grym, ond mae heriau’n gysylltiedig â hynny hefyd. Mae’r posibiliadau o ran yr hyn y gall y theatr fod – ac i bwy – yn golygu mai tasg gymhleth yw rhoi sylw i’r holl wahanol ffyrdd y mae pobl yn ymwneud â’r theatr hwnnw. Does dim gofod corfforol lle gall cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr gael teimlad o natur y Cwmni y tu hwnt i’w profiad o gynyrchiadau neu brosiectau, ac mae hynny’n gallu bod yn faen tramgwydd wrth geisio meithrin cysylltiadau a pherthnasau dyfnach. Dyna pam mae gwefan NTW a’i sianeli ar-lein yn adnoddau cwbl hanfodol i’r Cwmni a’i gynulleidfaoedd.

Mae’r wefan newydd yn ofod i bobl ddod ar draws pob math o gynnwys sy’n mynegi hanfod National Theatre Wales. Mae’n gartre’ rhithwir i gynulleidfaoedd ymwneud â’r Cwmni a deall yr hyn mae’n ei greu a’r hyn sydd ganddo ar y gweill. Mae hygyrchedd a pherfformiad y wefan yn well o lawer, ac mae’n rhoi platfform llawer rhagorach i gyfathrebu’r brand newydd. Mae’n gwbl ddwyieithog hefyd.


'Having gone through such a thorough branding process, and then developing a really fun and engaging visual identity, we had time and space to really focus on the end user in this project. We weren't distracted by who or what NTW is, this had already been established. So we could focus on bringing that personality to life and putting users at the heart of the website process.

The end result is a deceptively simple website that covers the vast array of work NTW does in Wales. It's accessible, engaging, draws you in and doesn't put you off with loads of internal jargon. My favourite part of the website is the way language and colour brings NTW to life in the call to actions across the site.'

Kate Mroczkowski, Supercool


Roedd dod mor bell yn dipyn go lew o waith, a fydden ni ddim wedi llwyddo heb ein tîm gwerth chweil, sef Jo, Alex, criw Supercool, ynghyd â phawb yn NTW. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y brand a’r wefan newydd yn fodd i’r Cwmni newid gêr, ac yn hwb iddo symud yn ei flaen gydag ymdeimlad newydd o hyder a diben.