News Story

Mae cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a ffocws ar lesiant wrth wraidd ein gweledigaeth newydd ar gyfer creu newid.

Rydyn ni angen arweinwyr a all gefnogi ein taith tuag at degwch a mwy o wydnwch meddwl ar gyfer ein staff, gwneuthurwyr theatr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd, ac sydd â'r arbenigedd a'r profiadau byw i lywio ein cynnydd.

Mae Cadeirydd yn goruchwylio cwmni ac yn ei ddwyn i gyfrif am bopeth mae'n ei wneud. Fe wnaethon ni ofyn i’n staff NTW, ein cydweithwyr a’n Panel TEAM ddweud wrthyn ni pa nodweddion yr oedden nhw eu heisiau yn ein Cadeirydd nesaf. Chwilfrydig, dibynadwy, cydweithredol, dewr, cysylltiol a hwyliog oedd rhai o'r geiriau a gawson ni.

Dechreuodd y mewnwelediad hwn ein proses recriwtio, gyda chreu newid yn bendant mewn cof. Ar ôl dau gam, llawer o sgyrsiau a sawl coffi, daeth ein panel i'r penderfyniad i wneud pethau'n wahanol a phenodi dau Gyd-Gadeirydd yn lle un. Ac wele Yvonne Connikie a Sharon Gilburd.

Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr i ti ddod i'w hadnabod. Felly, dyma ni'n cydio mewn camera a'r gadair wedi’i haddurno â dymuniadau ein tîm, ac eistedd i lawr am sgwrs. Dim ond dechrau ein cyfres Dere i adnabod ein Cyd-Gadeiryddion yw hyn, fel y galli di weld dros dy hun sut mae Sharon ac Yvonne yn cynnig y rhinweddau yr oedden ni'n edrych amdanyn nhw.

Dere i gwrdd â Sharon

Fel Ymddiriedolwr presennol, mae gan Sharon lwyth o wybodaeth am NTW yn barod. Mae'n awyddus i gyfuno hyn â'i phrofiad proffesiynol i archwilio ein gweithrediadau a'n strategaeth.

Dere i gwrdd ag Yvonne

Mae Yvonne yn dod â rhinweddau arbennig o ran ei dealltwriaeth o’r celfyddydau, ei dull cyd-greu a rhwydweithiau cymunedol, a fydd yn herio ein strategaeth a’n gwaith.

Bydd cael Cyd-Gadeiryddion yn cefnogi cyflymder o fewn ein llywodraethu, ac yn tynnu ystod eang o safbwyntiau i mewn i drafodaethau a gwneud penderfyniadau ar lefel arweinyddiaeth.

Mae llawer i'w wneud. Rydyn ni'n gyffrous i fwrw iddi.