News Story

Ar ôl toriad o 100% i’n cyllid craidd o fis Ebrill 2024, bydd National Theatre Wales yn parhau i fodoli ond gyda strwythur gwahanol a rhaglen waith wahanol.

Dyma ddiolch o waelod calon i Lorne Campbell, ein Cyfarwyddwr Artistig a’n Prif Weithredwr, sy’n ein gadael ym mis Mawrth, gan groesawu Leonora Thomson, sy’n ymuno â ni fel Prif Weithredwr Dros Dro. Mae gan Leo brofiad helaeth fel arweinydd ym maes y celfyddydau, a bydd yn llywio’r sefydliad drwy’r cyfnod hwn o esblygu.

Mae’r newidiadau anodd y bu’n rhaid i ni’u gwneud i sicrhau ein dyfodol yn sylweddol, a byddan nhw’n cael effaith ar bawb ohonon ni yn National Theatre Wales. Rydyn ni’n teimlo i’r byw dros gydweithwyr gwerthfawr a dawnus y mae’n rhaid i ni ffarwelio â nhw. Serch hynny, wrth i ni weithio tuag at weledigaeth a dyfodol newydd, mae’n gysur gweld cynifer o gymheiriaid, partneriaid a chymunedau sy’n barod i helpu i lywio a dychmygu sut sefydliad y gallai NTW fod yng Nghymru’r dyfodol.

Pan fydd pethau’n newid, bydd posibiliadau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at greu theatr gwych gyda phobl Cymru ac i bobl Cymru, gan barhau i alw am fwy o gefnogaeth i’r celfyddydau.

Gan Ymddiriedolwyr National Theatre Wales