News Story

Rydym yn hynod falch a hapus i allu cyhoeddi bod NTW, ynghyd â phartneriaid creadigol mewn gwyddoniaeth, technoleg a’r celfyddydau o bob rhan o Gymru, wedi’i ddewis i arwain un o’r 30 tîm i gymryd rhan ym Mhrosiect Ymchwil a Datblygu Festival UK* 2022.

Mae Festival UK* 2022 yn lansio heddiw gyda rhaglen Ymchwil a Datblygu i ddatblygu syniadau agored, gwreiddiol ac optimistaidd a allai fynd ymlaen i ddod yn un o ddeg prosiect creadigol mawr, pob un wedi’i gynllunio i gyrraedd miliynau, dod â phobl ynghyd ac arddangos creadigrwydd ac arloesedd y DU yn fyd-eang yn 2022.

Mae’r Ymchwil a Datblygu hwn yn gyfle rhagorol i Gymru ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses o ddatblygu cynnig yn agored ac yn gynhwysol, a bod ein cysyniad terfynol yn cynrychioli cyfoeth diwylliant Cymru a photensial talent sy’n dod i’r amlwg i ail-ddychmygu ein dyfodol. Mae ein Tîm Creadigol yn dwyn ynghyd rai o’r meddyliau disgleiriaf a’r cynhyrchwyr mwyaf blaengar yng Nghymru ar draws gweithredu amgylcheddol, technoleg ymdrochol, arloesi sgrin a theledu, newyddiaduraeth dinasyddion, ffilm ryngweithiol, celf gyhoeddus a pherfformiad cyfranogol wedi’i seilio ar le. Mae pob aelod o’r tîm yn cynrychioli grŵp ehangach o gydweithredwyr a chymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a fydd yn cyfoethogi ein meddwl dros y tri mis nesaf. Rydym yn gyffrous i’r prosiect hwn ddatgloi cyfleoedd newydd a gweledigaethau newydd o’r dyfodol ar yr adeg dyngedfennol hon ledled Cymru ac yn fyd-eang.

Dewiswyd 30 o Dimau Creadigol i gymryd rhan ym Mhrosiect Ymchwil a Datblygu Festival UK* 2022, gyda phob un yn derbyn hyd at £100,000 o fuddsoddiad i’w galluogi i ddatblygu eu syniadau ar gyfer yr Ŵyl. Mae’r timau yn dod â mwy na 300 o sefydliadau ac unigolion ynghyd o bob rhan o’r DU, yn cynnwys gweithwyr llawrydd a thalent sy’n dod i’r amlwg, gyda llawer yn gweithio gyda’i gilydd am y tro cyntaf. Wedi’u lleoli yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, maent yn dod ag ehangder rhyfeddol o wybodaeth a chreadigrwydd ar draws Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM).

Partneriaid National Theatre Wales yw:

  • Liara Barussi, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig, Jukebox Collective, hefyd yn cynrychioli Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru
  • Pauline Burt, Prif Weithredwr sefydlu, Ffilm Cymru
  • Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig, National Theatre Wales
  • Claire Doherty, Cyfarwyddwr Artistig, Cyfarwyddwr sefydlu, Situations a Chyfarwyddwr Cyswllt, NTW
  • Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig, Fran Wen, hefyd yn cynrychioli Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru
  • Shirish Kulkarni, newyddiadurwr, ymchwilydd newyddion a threfnydd cymunedol yn Bureau Local, hefyd yn cynrychioli Clwstwr
  • Will Humphrey, Cyfarwyddwr Stiwdio, Sugar Creative
  • Robin Moore, cyn Bennaeth Arloesi, BBC Cymru a Chyd-gyfarwyddwr, Clwstwr
  • Kaite O’Reilly, dramäydd, dramodydd, yn cynrychioli Disability Arts Cymru
  • Marc Rees, artist rhyngddisgyblaethol, gwneuthurwr theatr a Chydymaith Creadigol, NTW
  • Owen Sheers, nofelydd, awdur, bardd ac Athro mewn Creadigrwydd, Prifysgol Abertawe
  • Rebecca Upton, Uwch Ddarlithydd mewn MSc Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiad, Canolfan Technoleg Amgen

I gael gwybod rhagor am am Festival UK 2022 ewch i festival2022.uk