News Story

Dyma’r llythyr anfonon ni i Gyngor Celfyddydau Cymru heddiw:

Ynghylch: Canlyniad Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru 2023

Annwyl Dafydd,

Rydyn ni wedi ystyried eich gohebiaeth ar 27 Medi yn amlinellu penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i beidio â chynnig cyllid aml-flwyddyn i National Theatre Wales. Ar ôl cnoi cil dros y penderfyniad hwn, dyma eich hysbysu y byddwn ni’n cyflwyno apêl. Rydyn ni’n cydnabod nad oes modd trafod natur yr apêl y tu allan i’r broses honno. Serch hynny, rydyn ni’n teimlo bod sgyrsiau y mae angen i ni eu cynnal gyda’n gilydd ar frys tra bo’r broses apelio yn mynd rhagddi.

Rydyn ni’n croesawu adolygiad arfaethedig Cyngor Celfyddydau Cymru o ddarpariaeth theatr Saesneg yng Nghymru. Serch hynny, rydyn ni’n herio’r penderfyniad i ddatgymalu cwmni theatr cenedlaethol Saesneg Cymru cyn cynnal yr adolygiad hwnnw.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi buddsoddi gwerth 15 mlynedd o gyllid ynom ni. A ninnau’n elusen, rydyn ni wedi defnyddio’r cymorth hwnnw i greu gwerth £11 miliwn yn ychwanegol o fuddsoddiad yn y theatr yng Nghymru. Mae ein model yn golygu bod y buddsoddiad hwn wedi cael ei wario ar bobl; ar gymunedau ledled Cymru; ar gynyrchiadau; ar ddatblygu rhwydweithiau, sgiliau, cysylltiadau, hyder a gyrfaoedd; ac ar y gallu sylfaenol i ddwyn ynghyd safbwyntiau a phrofiadau amrywiol y bydd angen eu clywed wrth gynnal adolygiad ystyrlon o’r theatr.

Ers eich penodi yn Brif Weithredwr, rydych chi wedi sôn yn rymus, ac wedi argyhoeddi wrth wneud hynny, am yr angen i Gyngor Celfyddydau Cymru a sefydliadau celfyddydol weithio mewn partneriaethau dwfn, er mwyn rhannu ein dyheadau a’n heriau. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ymwybodol o’r anawsterau rydyn ni wedi’u hwynebu a’r cynnydd sylweddol rydyn ni wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n ymwybodol hefyd o’n “cynlluniau cadarnhaol” a’n “potensial” – fel y cydnabuwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn ei ymateb i’n cyflwyniad. Rydyn ni’n rhannu â Chyngor Celfyddydau Cymru y cyfrifoldeb dros ofalu am National Theatre Wales fel ased diwylliannol, a hynny er mwyn y 331,328 o aelodau o gynulleidfaoedd byw a’r 8.2 miliwn o aelodau o gynulleidfaoedd ar-lein ac ar y teledu sydd wedi elwa ers 2008.

Wrth dorri ein cyllid blynyddol, bydd Cymru’n colli un o gyflogwyr mwyaf gwneuthurwyr theatr y wlad – fe wnaethon ni gyflogi 645 o bobl y llynedd yn unig. Bydd y penderfyniad hwn yn peryglu’r broses o ddatblygu gyrfaoedd a sgiliau ein hactorion, cyfarwyddwyr, awduron, dylunwyr a staff cynhyrchu gorau. Mae llawer o’r bobl rydyn ni wedi’u cefnogi bellach wrth yr awenau yn y sefydliadau y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn eu hariannu. Bydd y penderfyniad yn torri’r cyflenwad amhrisiadwy hwn o sgiliau sydd hefyd yn bwydo’r diwydiant teledu a ffilm ffyniannus yng Nghymru.

At hynny, bydd y penderfyniad yn datgymalu TEAM, ein model arloesol, cymunedol sy’n bodoli ers degawd ac sydd wedi golygu cyd-greu â 104,000 o bobl ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion dirifedi, pobl ifanc y tu allan i addysg brif ffrwd, byrddau iechyd, elusennau lleol ac unigolion na fyddai fyth wedi dychmygu bod y celfyddydau’n rhywbeth iddyn nhw. Nid oes yr un sefydliad celfyddydol, cenedlaethol arall yng Nghymru wedi democrateiddio’i brosesau gwneud penderfyniadau fel rydyn ni wedi gwneud hynny drwy Banel TEAM NTW. Ar y panel hwn ceir gweithwyr creadigol, ymgyrchwyr, addysgwyr ac arweinwyr cymunedol, a hynny’n cynnig amrywiaeth sy’n gwbl gynrychioladol o’r Gymru gyfoes ac wedi arwain at roi llwybr hygyrch i bobl i’r celfyddydau. Bydd y penderfyniad yn rhoi diwedd disymwth i’n cydweithio â phartneriaid rhyngwladol mawr a sefydliadau ar lawr gwlad, sy’n fodd i ni roi llwyfan byd-eang i straeon sydd wedi’u gwreiddio yn ardaloedd lleol Cymru. Bydd gan y theatrau drwy Gymru y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn eu hariannu lai fyth o sioeau i wahodd eu cynulleidfaoedd i’w gweld.

Drwy fwrw ymlaen â’r penderfyniad ariannu hwn, bydd Cymru’n colli National Theatre Wales ymhen chwe mis. O’i golli, ni fydd modd ei ddisodli yn rhwydd nac yn fforddiadwy.

Yng ngoleuni hyn oll, rydyn ni’n gofyn am sgwrs adeiladol gyda chi a’ch cydweithwyr cyn gynted ag y bo modd i edrych ar y posibilrwydd o greu sefyllfa lle gall National Theatre Wales weithredu ar sail interim tra bo’r adolygiad yn cael ei gynnal. Rydyn ni’n credu y gellid dod o hyd i ddatrysiad a fydd yn galluogi National Theatre Wales i barhau i weithredu – gan anrhydeddu ein hymrwymiadau i gymunedau, gwneuthurwyr theatr a phartneriaid eraill, a chan ddenu £500,000 yn ychwanegol i theatr yng Nghymru gan gyllidwyr eraill eleni – wrth i ni gyfrannu at weledigaeth y dyfodol ar gyfer y theatr yng Nghymru.

Diolch yn fawr.

Yn gywir,

Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig
Sharon Gilburd, Cyd-Gadeirydd
Yvonne Connikie, Cyd-Gadeirydd