News Story

Mae Feral Monster yn sioe gerdd ffrwydrol newydd am berson ifanc di-nod. Gan gyfuno cerddoriaeth grime, R&B, soul, pop a rap, mae’r trac sain yn mynd â ni o uchelfannau i ddyfnderoedd taith wyllt hormonaidd ieuenctid.

Ond rydyn ni'n siŵr nad Feral Monster yw'r unig beth â thrac sain ffrwydrol. Rydyn ni eisiau clywed y caneuon o dy arddegau.

Ychwanega dy drac sain i playlist Spotify ni.

Gwrandewch ar y playlist