News Story

Yn 2019 enillodd fy nrama gyntaf Safe From Harm gystadleuaeth Awdur Preswyl BBC Cymru. Fel rhan o’r wobr, mae wedi’i chomisiynu i’w darlledu ar BBC Radio 4.

Nawr, cyn y pandemig roedd y ddrama i fod i gael ei recordio yn y stiwdio recordio uwch-dechnoleg flaenllaw yn adeilad sgleiniog, newydd y BBC yn y Sgwâr Ganolog yng Nghaerdydd. Hon fyddai’r ddrama sain gyntaf erioed i gael ei recordio yno. Roedd tîm BBC Writersroom wedi cynllunio lansiad cyffrous i’r wasg ac roeddent yn barod i sicrhau rhai actorion enwog.

Roedd ein dyddiad recordio wedi’i osod – Mawrth y 24ain a’r 25ain 2020.

Yn y cyfnod cyn hynny gwnaeth fy nghyfarwyddwr anfon e-bost ataf –

‘Gobeithio y bydd y peth ‘ma’n cyrraedd ei uchafbwynt ac yn diflannu cyn ein dyddiad recordio!’ meddai.

Roedd ei phositifrwydd i’w ganmol, ond mawredd, cyn lleied roedden ni’n ei wybod yn ôl bryd hynny am yr aflonyddwch a’r tor-calon y byddai’r feirws hwn yn ei achosi.

Ac felly, wrth gwrs, gwnaeth y pandemig ein gorfodi i mewn i gyfnod clo cenedlaethol a chaiff recordio Safe From Harm ei ohirio. Ond os yw’r pandemig byd-eang hwn wedi dysgu unrhyw beth i ni bobl sy’n gweithio yn y cyfryngau neu’r celfyddydau, y neges yw –

Rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen!

Aiff misoedd heibio a chaiff y cyfnod clo ei lacio. Caiff dyddiad recordio newydd ei bennu ar gyfer dechrau mis Rhagfyr 2020, ond y tro hwn bydd y ddrama’n cael ei recordio o bell.

Felly sut wnaeth y ffordd newydd, eithaf anghonfensiynol hon o recordio drama BBC Radio 4 weithio mewn gwirionedd?

Fe wna’ i ddweud wrthych …

Yn gyntaf, mae actorion yn cael eu castio. Mae rhai i lawr y ffordd oddi wrthyf yng Nghaerdydd ac eraill yn Llundain. Nesaf, mae’r actorion yn derbyn meicroffonau modern o’r radd flaenaf gan negesydd ac anfonir cyfarwyddiadau iddynt ar sut i wneud stiwdios recordio gwrthsain gartref. Maent i eistedd mewn cypyrddau, cypyrddau dillad neu unrhyw le bach arall ac amgylchynu eu hunain gyda duvets a gobenyddion. Mae’n bell o fywyd moethus yr actor rydyn ni i gyd yn ei ddychmygu ond mae’r tîm medrus iawn o berfformwyr yn gwneud iddo weithio. Wedi’r cyfan, onid dyna oedd pwrpas 2020? Addasu i newid a bwrw ymlaen.

Nesaf, ychydig ddyddiau cyn y dyddiad recordio, anfonir lincs a chyfarwyddiadau mewngofnodi at y tîm ar gyfer platfform recordio modern o’r enw Pre Rec. Fodd bynnag, caniateir i’r prif actor, y cyfarwyddwr, y cynorthwyydd a’r peiriannydd sain i fod yn y stiwdio yn Sgwâr Canolog Caerdydd – gan gadw pellter cymdeithasol a chadw at y rheolau wrth gwrs.

Ar y diwrnod recordio rwy’n nerfus ac yn llawn cyffro. Dim ond fi, fy ngliniadur a’r ci yn fy nghegin – nad yw’n lle technolegol iawn. Rwy’n siomedig na fyddaf yn cael cwrdd â’r actorion wyneb yn wyneb a chael y profiad llawn o recordio yn y stiwdio foethus. Fodd bynnag, ar ôl i ni i gyd roi ein clustffonau i mewn, a chau ein llygaid, mae’n teimlo fel ein bod ni yn yr un ystafell gyda’n gilydd. Rydyn ni’n cyflwyno ein hunain; rydyn ni’n sgwrsio, rydyn ni’n chwerthin a chyn bo hir rydyn ni wedi arfer â’r norm newydd hwn – yr ystafell werdd rithwir.

Nesaf, mae’r cynorthwyydd a minnau yn trefnu sgwrs WhatsApp rhyngom. Nawr, fel arfer mewn stiwdio recordio ni all yr actorion yn y stiwdio glywed y tîm yn y bwth oni bai bod botwm yn cael ei wasgu. Fel hyn gall y tîm drafod yn dawel unrhyw nodiadau y mae angen eu trosglwyddo i’r actorion. Fodd bynnag, ar Pre Rec gallwn i gyd glywed ein gilydd trwy’r amser. Ac felly, yn y drefn anghonfensiynol hon bydd angen i mi anfon neges destun at y cynorthwyydd a gofyn iddi fwydo nodiadau yn ôl i’r tîm yn y bwth, yna mae’r nodiadau hynny’n cael eu bwydo o’r cyfarwyddwr i’r actorion. Mae’n rhyfedd ar y dechrau, ond mae’n gweithio’n eithaf da.

Rydyn ni’n barod i fynd..

Gosodir ffonau ar ddistaw. Mae pawb wedi rhybuddio eu teuluoedd, eu partneriaid a’u plant a addysgir gartref i fod yn dawel oherwydd bod y ‘golau recordio coch’ rhithwir ar fin ymddangos! Rhaid bod dim – canu, gweiddi, siarad â phobl trwm eu clyw ar y ffôn, gwagio peiriannau golchi llestri, chwarae iwcalili ac yn bendant dim DIY. Rwy’n rhoi nodyn ar y drws yn dweud wrth y boi Amazon i beidio â chnocio.

Wrth recordio mae’r meicroffonau yn hynod sensitif. Maent yn codi popeth o stumogau actorion yn canu grwndi i dudalennau sgriptiau yn cael eu troi yn ofalus. Mewn cyferbyniad â recordio mewn stiwdio mae’n ymddangos bod mwy o heriau gyda lefelau meicroffonau. Mae golygfeydd sy’n cynnwys gweiddi yn arwain at wyrdroi’r sain, ond rydyn ni’n goresgyn y rhwystrau bach hyn heb lawer o oedi. Rydyn ni’n llwyddo. Ni chawn ein hatal hyd yn oed pan fydd yn rhaid i ni ail-recordio oherwydd bod haearnwerthwyr Caerdydd yn gweiddi, ‘ANY OLD IRON!’ yn y stryd, neu pan fydd cymydog rhywun yn penderfynu hongian silff yn swnllyd.

Mae Safe From Harm yn cymryd dau ddiwrnod cyfan i’w recordio ac mae’n swnio’n anhygoel. Mae’r tîm yn wych. Mae’r actorion yn arbennig. Mae’r her o berfformio deialog pan na allwch edrych i lygaid eich cyd-actor yn un go iawn, ac eto maent yn perfformio’r testun yn rhwydd gan gyflwyno llinellau sy’n fyw ac yn naturiolaidd. Rwy’n crio yn ystod yr olygfa olaf – wedi fy nghyffwrdd gan berfformiadau’r actorion, yn falch ein bod ni wedi cyrraedd yma er gwaethaf popeth, wedi fy ngorlethu gan y flwyddyn rydyn ni wedi’i chael ac yn hapus bod fy mreuddwyd o ddod yn awdur go iawn wedi’i gwireddu o’r diwedd.

Felly, a oedd recordio fy nrama gyntaf y profiad yr oeddwn wedi’i ragweld? Nac oedd, yn bendant. Ond yna a wnaeth unrhyw beth droi allan yn y ffordd roeddem ni’n meddwl y byddai yn 2020? A beth bynnag, rwy’n siŵr nad hon yw’r ddrama radio olaf y byddaf yn ei hysgrifennu. Bydd cyfleoedd eraill i recordio yn y stiwdio sgleiniog, fodern honno. Rwy’n sicr o hynny. Ac ar ôl blwyddyn eithaf cythryblus, anodd, roedd hon yn bendant yn ffordd gadarnhaol i orffen 2020.