News Story

Ym mis Chwefror 2023, fe wnaethon ni gynnal Cyfnewidfa TEAM: Sir Benfro yn Hyb Arberth, i feithrin sgwrs greadigol gyda chymunedau lleol, ffrindiau TEAM a llu o artistiaid a chydweithwyr dawnus.

Clywson ni am syniadau, anghenion a dymuniadau ar gyfer y celfyddydau yng Ngorllewin Cymru, wrth i ni gyda’n gilydd ddychmygu sut olwg allai fod ar ddyfodol TEAM, nid yn unig yn yr ardal ond ymhellach i ffwrdd.