GALWAD: Stori o’n dyfodol

Adrodd stori mewn amser go iawn dros saith niwrnod ar-lein, ar y teledu, yn fyw o Gymru.

26 Medi 2022 – bu i storm drydanol dorri'n ddramatig dros Gymru. Roedd yr amhosib yn digwydd – holltodd amser, roedd y dyfodol yn cysylltu.

Honodd Efa, merch 16 oed o Ferthyr Tudful, bod mwy na dim ond negeseuon wedi cyrraedd o 2052 – mae hi wedi cyfnewid lle gyda’i hunan 46 oed o 2052. Wrth i ni ddilyn ei thaith byw ledled Cymru dros saith niwrnod, mae hi a’i ffrindiau yn eu harddegau mewn cyfyng-gyngor: beth i’w wneud pan fyddwch chi’n wynebu dyfodol eich hunan. Beth sydd gan 2052 i'w ddweud wrthon ni, ac ydyn ni’n mynd i wrando?

Digwyddodd GALWAD ar-lein ac ar y teledu (Sky Arts) rhwng 26 Medi a 2 Hydref 2022.

Ynglŷn Casgliad Cymru

Cynhyrchir GALWAD gan Casgliad Cymru, sef partneriaeth ledled Cymru dan arweiniad NTW sy’n cynnwys y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Clwstwr, Celfyddydau Anabledd Cymru, Ffilm Cymru, Frân Wen a Sugar Creative.

Mae’r partneriaid cymunedol ar hyn o bryd yn cynnwys CellB, Citizens Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig (EYST) Abertawe ac Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful a chwmni creadigol o awduron, artistiaid, perfformwyr, dylunwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a cherddorion.

Mae GALWAD wedi’i gomisiynu gan Cymru Greadigol fel rhan o UNBOXED: Creadigrwydd yn y DU.