Feral Monster

Mae’r adnodd hwn, sydd wedi’i anelu at fyfyrwyr TGAU a Safon U, yn archwilio’r themâu a’r broses artistig o greu Feral Monster ac yn annog dysgwyr i ddatblygu eu hymateb creadigol eu hunain i'r sioe gerdd newydd gyffrous hon.

Mae’r tasgau o fewn y pecyn adnoddau yn ymwneud â maes dysgu a phrofiad “Celfyddydau Mynegiannol” – yn benodol yr arbenigeddau Drama, Cerddoriaeth, Dawns a Celfyddydau Perfformio, tra’n gweu trwy ‘cynefin’ – cysyniad sy’n eistedd ar draws y cwricwlwm cyfan ac a ddiffinnir fel, “y lle rydym yn teimlo ein bod yn perthyn, lle mae’r bobl a’r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, a’r golygfeydd a’r synau’n gysurol o adnabyddadwy.”

Mae’r adnoddau ar ffurf pedair ffilm fer, golygwyd gan Jay Bedwani, pob un yn cynnwys aelod o’r tîm creadigol gwych y tu ôl i Feral Monster:

  • Awdur Bethan Marlow
  • Cyfarwyddwr Izzy Rabey
  • Cyfarwyddwr Symud Osian Meilir
  • Cyfansoddwr Nicola T. Chang

Mae pob ffilm 10-20 munud yn cynnwys:

  • cyfweliad am ymarfer artistig y gweithiwr creadigol a'i ddull o weithio
  • archwiliad o rôl y gweithiwr creadigol yn natblygiad Feral Monster
  • golwg fanwl ar ddwy olygfa allweddol o'r ddrama.

Ar ddiwedd pob ffilm, gosodir tasg i ddysgwyr ei chwblhau er mwyn iddynt ddatblygu eu hymateb creadigol eu hunain. Mae pob tasg yn dilyn ymlaen o'r olaf, gan arwain at ddarn terfynol wedi’i ysbrydoli gan Feral Monster wedi’i greu gan y myfyrwyr eu hunain.

Efallai y byddwch yn penderfynu rhannu’r darnau terfynol hyn fel perfformiadau i’w hasesu, i’w rhannu â chynulleidfa ehangach neu efallai yr hoffech chi hyd yn oed ffilmio ac yna rhannu gyda NTW i lwyfannu doniau eich disgyblion a thynnu sylw at eich ysgol neu’ch coleg eich hun.

Mae testun y ddrama ar gael i'w brynu trwy Parthian gyda diolch i gefnogaeth hael Cymdeithas Adeiladu’r Principality.

Feral Monster introduced me to new techniques I’d never seen before. It creatively dealt with serious topics and issues that people face daily.

I really think all teenagers from deprived backgrounds should see the musical. It spoke to my pupils on so many levels.

Gwyliwch y cyfweliadau

Gwyliwch Golygfa 4 a Golygfa 11

Gwybodaeth ddefnyddiol

Defnydd a awgrymir o'r ffilmiau

Drwy gydol y ffilmiau bydd y cwestiynau allweddol yn ymddangos ar y sgrin, sef adeg berffaith i oedi a myfyrio ar yr atebion blaenorol.

Gellid gwylio a thrafod pob ffilm dros ddwy wers gyda gwersi ychwanegol i astudio'r golygfeydd penodol ynghyd â datblygu, ymarfer a pherfformio eu hymatebion eu hunain. Mae hyn yn golygu y gallai'r prosiect cyfan gymryd hyd at ddeg gwers i'w gwblhau.

Trefn a awgrymir ar gyfer gwersi

Rydym wedi creu'r ffilmiau hyn gyda'r cynllun canlynol mewn golwg, er y gellir eu haddasu i weddu i'ch dysgwyr a'ch arddull addysgu. Rydym yn awgrymu eu bod yn cael eu gwylio yn y drefn ganlynol:

  1. Cyfweliad gyda Bethan Marlow, ac yna'r dasg ysgrifennu.
  2. Cyfweliad gydag Izzy Rabey, ac yna'r dasg gyfarwyddo.
  3. Cyfweliad gydag Osian Meilir, ac yna'r dasg symud.
  4. Cyfweliad gyda Nicola T. Chang, ac yna'r dasg gerddoriaeth.

Cynlluniwyd y gwersi hyn gyda chydweithio/gwaith grŵp mewn golwg, er efallai y bydd disgyblion yn dymuno cyflawni rhai tasgau ar eu pen eu hunain. Mae cyfle hefyd i gydweithio’n drawsgwricwlaidd ar draws disgyblaethau Drama, Cerdd, Dawns a Celfyddydau Perfformio.

Ynglŷn â Feral Monster

Feral Monster yw stori’r arddegwr di-nod, Jax, wrth iddi/iddynt/beth bynnag lywio cariad, rhywioldeb, hunaniaeth, teulu a'r amryfal rannau o'i hymennydd swnllyd, llawn barn.

Wedi’i gwahardd o’r ysgol, ac ym methu â chael gwaith yn y siop tships hyd yn oed, mae Jax yn 'strab stryd hyfryd yn ei harddegau' sy'n byw gyda'i Nain mewn 'pentref bychan, diflas'. Yn erbyn cefndir o niwronau ac acsonau yn canu yn ei phen, mae ymennydd Jax yn rhoi sylwebaeth barhaus ar bopeth mae'n ei wneud, ddim yn ei wneud neu na ddylai ei wneud. Pan mae Jax yn gweld Ffion yn dod o’r siop tships, yn herfeiddiol yn eu gwallt a’u dillad swnllyd, mae’r gwreichion yn tasgu a chwant cwiar yr arddegau yn dod â’r pâr annhebygol hwn ynghyd yn ei holl ogoniant blêr, lletchwith a gwefreiddiol.

Mae Feral Monster yn ddathliad o bawb yn eu harddegau, ond mae’n gwneud hynny drwy hoelio’r sylw ar Jax, sy’n gyffredin o ddi-nod. Bydd unrhyw rai sydd erioed wedi bod yn eu harddegau yn gweld eu hunain yn y stori hon, wrth i sgript yr awdur Bethan Marlow fynd â ni o uchafbwyntiau uchel i isafbwyntiau isel taith wyllt hormonaidd llencyndod. Ochr yn ochr â hunaniaeth, rhywioldeb a theulu, mae Feral Monster yn trin a thrafod cyfeillgarwch, iechyd meddwl, byw yng Nghymru wledig, y bydoedd cwiar dosbarth canol a dosbarth gweithiol, effaith rhieni sy’n troi’u cefnau ar eu plant, ac ail gyfle.

Gwybodaeth am y cynnwys

Argymhelliad oedran 14+. Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref yn ogystal â:

Cyfeiriadau at: archwilio hunaniaeth rhywedd a rhywioldeb, pornograffi, rhyw, marwolaeth, hunan niwed, trawma plentyndod, salwch meddwl, tlodi a cyffuriau.

Portreadau o: alcoholiaeth, trais, troseddau cyllyll, gweithgarwch rhywiol.Cynrychiolaeth theatrig o: hunanladdiad.

Gyda diolch i Ayesha Rees Khan, cwnselydd a ddarllenodd drwy'r sgript a rhoi cyngor ar y wybodaeth yn y cynnwys.

Tîm creadigol

Mae’r tîm creadigol i gyd yn uniaethu fel LHDTQIA+, gan gynnwys:

Yr awdur Bethan Marlow, gwneuthurwr theatr a sgriptiwr o Gymru sy'n canolbwyntio ar adrodd straeon cwiar a benywaidd. Ymhlith ei chredydau theatr yn y gorffennol mae Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Theatr Pentabus, RSC a Theatr y Sherman.

Y cyfarwyddwr Izzy Rabey, sydd hefyd yn gerddor a hwylusydd a enillodd Wobr Selar 2022 am gyfraniadau i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ac sydd wedi gweithio yn y Royal Court (lle bu’n Gyfarwyddwr dan Hyfforddiant 2020-2021), Theatr Clwyd, Pentabus, English Touring Company ac sydd hefyd wedi gweithio yn Kenya, UDA, India yn ogystal â'r DU.

Y cyfarwyddwr symud Osian Meilir, perfformiwr, artist symud a choreograffydd sydd wedi creu gwaith newydd yn ddiweddar i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel rhan o’u prosiect 4x10 yr haf hwn ac sydd hefyd wedi bod ar daith gyda’i greadigaeth goreograffig ei hun, QWERIN mewn gwyliau a lleoliadau ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Mae Nicola T. Chang yn gyfansoddwraig/dylunydd sain arobryn ar gyfer theatr a ffilm, ac mae ei gwaith diweddar yn cynnwys sioeau o fri: For Black Boys Who Have Considered Suicide When the Hue Gets Too Heavy (Apollo Theatre West End / Royal Court Jerwood Downstairs / New Diorama) a My Neighbour Totoro (RSC / Barbican).

Geirfa

Mae’r ddrama hon yn cynnig archwiliad o unigrywiaeth ymennydd yr arddegau, gan symud yn ddi-dor rhwng digwyddiadau “bywyd go iawn” a’r digwyddiadau yn ymennydd Jax. Gallai’r wybodaeth ganlynol fod o gymorth i’ch dysgwyr pan fyddant yn dod i ddatblygu eu hymatebion creadigol eu hunain i Olygfa 4 a Golygfa 12.

Mae'r Amygdala Dde yn chwarae rhan wrth fynegi ofn ac wrth brosesu ysgogiadau sy'n achosi ofn.

Mae'r Amygdala Chwith yn gysylltiedig â phrosesu emosiynol llafar a pharhaus.

Mae'r Serebrwm yn rheoli meddyliau ymwybodol; sy'n golygu, y pethau rydych chi'n meddwl amdanynt neu'n eu gwneud.

Mae'r Chwarren Bitwidol yn rheoli metaboledd, twf, aeddfedu rhywiol, atgenhedlu, pwysedd gwaed a llawer o swyddogaethau corfforol hanfodol eraill.

Mae'r Cortecs Rhagflaenol yn gyfrifol am sgiliau fel cynllunio, blaenoriaethu a gwneud penderfyniadau da.


Noddir Feral Monster gan y Cymdeithas Adeiladu Principality a’i cefnogi gan The Open Fund PRS Foundation, John Ellerman Foundation, fel rhan o raglen Dramayddion NTW, Jack Arts a gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd.