Rhestr termau

Mae yna lawer o jargon ym mhob diwydiant, nid yw'r theatr yn eithriad.

Dyma ddadansoddiad o ystyr rhai o'r geiriau rydyn ni'n eu defnyddio:

Gwneud theatr

Egin gomisiwn

Mae egin gomisiwn yn ffordd i ni helpu artistiaid i ddatblygu syniad yn gynnar iawn ar ei daith. Fel arfer mae'n gronfa fach o arian ynghyd â rhywfaint o gymorth cynhyrchu gan ein tîm Datblygiad Creadigol.

Y ffordd y mae'n digwydd fel arfer yw ein bod ni'n mynd at artist y mae ei waith yn ddiddorol iawn i ni, a gofyn iddyn nhw feddwl am syniad newydd a allai ddod yn brosiect NTW.

Ar ôl i'r artist ddefnyddio'r arian i weithio ar ei syniad yn y ffordd y mae'n dymuno, bydd yn dangos i ni beth mae wedi'i gynhyrchu. Yna byddwn ni'n penderfynu a ydyn ni am fynd ag ef i gam arall o ddatblygiad, neu, os nad yw'n hollol iawn byddwn ni'n rhoi gwybod iddyn nhw fel y gallan nhw adeiladu arno eu hunain, yn aml trwy fynd ag ef i leoliadau/cynhyrchwyr eraill.

Comisiwn

Comisiwn yw ninnau'n addo gwneud i brosiect ddigwydd.

Gallai hyn fod wedi deillio o egin gomisiwn, ninnau'nmynd at artist y mae gennym ni eisoes berthynas sefydledig â nhw a diddordeb mewn gweithio ar raddfa fwy gyda nhw, neu gallai ddod o’n gwaith gyda chymunedau trwy Gydweithio a TEAM.

Mae hyn yn fwy o ymrwymiad gennym ni o ran arian ac amser staffio, ac fel arfer daw i ben mewn perfformiad cyhoeddus y gall pobl brynu tocynnau ar ei gyfer.

Cyfnod preswyl

Gall cyfnod preswyl fod ar lawer o siapiau a ffurfiau, ond fel arfer mae’n golygu rhoi gofod newydd i artistiaid arbrofi ynddo.

Mae'n llai anhyblyg na chomisiwn, ac yn fwy o ofod i archwilio syniadau, yn aml gydag artistiaid eraill. Weithiau mae cyfnodau preswyl mewn lleoliadau penodol ac yn gofyn i'r artist aros dros nos am ychydig ddyddiau (y cyfan wedi'i dalu amdano gennym ni).

Mae'n ymwneud â datblygu dy ymarfer artistig dy hun llawn cymaint ag y mae'n ymwneud â thithau'n archwilio syniadau. Bydd gennyt fynediad at gefnogaeth benodol gan staff NTW ac weithiau hwyluswyr allanol. Ac mae tâl am gymryd rhan.

Y&D

Y&D sef Ymchwil a Datblygu. Mae'n debyg mai hwn yw'r mwyaf hyblyg o'r holl dermau y byddi di'n dod o hyd iddyn nhw ar y dudalen hon gan mai mater i'r artist mewn gwirionedd yw sut mae am archwilio ei syniad.

Mae Y&D fel arfer yn dilyn egin gomisiwn, os ydyn ni am fwrw ymlaen â’r syniad, neu efallai y byddan nhw'n dod yn gynnar iawn yn y broses gomisiwn. Mae'n gyfle i'r artist archwilio ac ehangu ei syniad gyda mwy o aelodau o dîm creadigol o'i gwmpas - ee cyfarwyddwr, ychydig o actorion, rheolwr llwyfan, efallai cyfansoddwr.

Mae'n ffordd i roi cig ar esgyrn prosiect, ac i ni weld y potensial.

Datblygiad Creadigol

Mae Datblygiad Creadigol yn NTW yn unrhyw beth sy'n ymwneud â datblygu artistiaid. Boed hynny’n Y&D, egin gomisiynau, comisiynau, cyfnodau preswyl, cyfleoedd swyddi penodol a mwy. Mae'n unrhyw beth sy'n gosod artistiaid a'u datblygiad wrth galon y gwaith.

Mae angen tîm o bobl greadigol gwych i wneud gwaith. Dyma rai o'r rolau y byddi di'n eu gweld amlaf, ac ychydig am yr hyn maen nhw'n ei wneud.

Pwy sy'n rhan o'r broses

Dramaydd

Yn gyffredinol, mae dramaydd yn cefnogi tîm creadigol i wireddu themâu, bwriadau a chyd-destun stori yn llawn. Gallai'r stori hon fod ar ffurf cynhyrchiad theatr, ffilm fer, darn o berfformiad byw, neu hyd yn oed brosiect ysgrifenedig. Rydyn ni'n barod i archwilio pob maes dramayddiaeth, a phob math o bobl a allai fod yn ddramayddion.

Cynhyrchydd

Rhywun sy'n gwneud i'r cyfan ddigwydd. Daw cynhyrchwyr ar ffurf bob lliw a llun ac yn aml maen nhw'n arbenigo mewn math arbennig o gelf, ond yn fras maen nhw'n trefnu a rheoli prosiect o ran y gwaith, gan roi timau o bobl greadigol at ei gilydd sy’n gallu gwireddu gweledigaeth, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cefnogi i wneud i'r weledigaeth ddigwydd.

Cyfarwyddwr

Rhywun sy'n gyfrifol am weledigaeth greadigol y prosiect. Maen nhw fel arfer yn un o’r artistiaid cyntaf ar brosiect, ac yn goruchwylio’r gwaith o ddod â’r tîm creadigol, y tîm cynhyrchu, a’r cast o berfformwyr at ei gilydd ochr yn ochr â chynhyrchydd. Eu gwaith nhw yw sicrhau bod yr holl rannau symudol yn cysylltu ac yn adrodd y stori - o'r set, i'r goleuo, i'r ffordd y mae'r perfformwyr yn symud ar y llwyfan.

Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Rhywun sy'n gofalu am yr holl logisteg, a chyfathrebu rhwng y cyfarwyddwr a gweddill y criw. Maen nhw yno i helpu'r cyfarwyddwr(wyr) i gyflawni eu gweledigaeth greadigol. Gallai hyn fod yn ymchwil cyn-ymarfer ar gyd-destun y ddrama, y dramodydd neu gysyniad penodol y mae’r cyfarwyddwr am ei archwilio.

Gweithiwr Cyswllt

Yn gryno, mae gweithiwr cyswllt yn rhywun sy'n cefnogi datblygu a chyflawni prosiectau. Gallai hwn fod yn Gyfarwyddwr Cyswllt, Cyswllt Creadigol, Cyswllt Mynediad... mae'r rhestr yn parhau.

Mae eu llais yr un mor bwysig â rolau arwain y sefydliad, ac maen nhw'n cyfrannu at benderfyniadau a pholisïau creadigol.

Efallai y byddan nhw'n gweithio mewn sefydliadau eraill hefyd, sy'n eu galluogi nhw i ddod â'r hyn maen nhw'n ei ddysgu a'u harbenigedd o rolau eraill.

Artist

Artist yw unrhyw un sydd â syniad am rywbeth y maen nhw am ei wireddu. Rydyn ni'n gweithio'n bennaf gydag artistiaid theatr a pherfformio byw, felly unrhyw un sydd â phrosiect a fyddai'n addas ar gyfer bod ar lwyfan (gall llwyfan hefyd olygu llawer o bethau gwahanol!). Mae perfformwyr, cyfarwyddwyr, awduron, cynhyrchwyr a dylunwyr i gyd yn artistiaid - efallai y byddi di'n gwneud un neu fwy o'r rolau hynny.