About Theatr Gymreig a'r Argyfwng Hinsawdd

Rydyn ni'n eich gwahodd i ddod at eich gilydd i drafod sut mae diwydiant theatr Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Yr argyfwng hinsawdd yw'r cyd-destun yr ydyn ni nawr yn creu gwaith ynddo. Ni allwn ni newid hynny. Ond fe allwn ni newid sut rydyn ni'n gwneud i hynny weithio a beth yw'r gwaith. Mae'r diwydiant yn ecosystem, wedi'i gysylltu ar sawl pwynt. Drwy gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd, gall Cymru osod y bar o arfer gorau.

Gwrandewch ar straeon am lwyddiannau a methiannau, cynnydd a heriau, a rhannwch eich meddyliau a'ch syniadau eich hun am greu theatr gan gadw cynaliadwyedd wrth galon y cyfan.

Yr hyn i'w ddisgwyl

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu'n bedair rhan. Bydd deuddeg siaradwr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn eu meysydd yn rhoi sgyrsiau byr i ysgogi sgwrs ac ateb cwestiynau. Mae'r gweddill i fyny i chi.

Gallwch ddweud wrthym am eich buddugoliaethau, penderfyniadau 'gwyrdd' sydd wedi gweithio, ailddefnyddio setiau, lleihau cludiant, neu newid i LEDs. Gallwch hefyd ddweud wrthym am bethau nad ydynt wedi mynd cystal…

Byddwch yn eistedd wrth fyrddau crwn i hwyluso sgwrs ac annog ymgysylltiad. Erbyn diwedd y dydd, rydym yn gobeithio y byddwn o leiaf wedi rhannu rhai syniadau a fydd yn ddefnyddiol ac y gallwch eu cymryd yn ôl a'u hymgorffori yn eich gwaith.

Siaradwyr

Glan yr Afon, Casnewydd - 12 Gorffennaf 2023

Rhan 1: Sut i weithredu adeilad yn gynaliadwy

Chris Davies - Gwneud adeilad yn addas ar gyfer yr 21ain Ganrif

Elizabeth Steel - Gosodiad yng Nglan yr Afon - heriau a llwyddiannau

Saul Eagles - Trydan Llwyfan - unedau foltedd isel, effeithlonrwydd

Rhan 2: Gwneud cynyrchiadau yn gynaliadwy

Karine Décorne - Yr Economi Gylchol

David Evans - Theatre Green Book

Huw Semmens - Diwydiant llogi ac arbedion effeithlonrwydd

Darren Joyce - Sut y gellir adeiladu setiau yn gynaliadwy?

Rhan 3: Ymatebion creadigol i'r argyfwng

Judith Musker Turner - Strategaeth CCC ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a'r Celfyddydau

George Harris - Tin Shed

Michelle Perez - Theatr Iolo

Justin Teddy Cliffe

Rhan 4: Edrych tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy

Ruth Stringer - Canfyddiadau GALWAD

Gemma Durham - Crynodeb o'r Prif Areithiau i Wrandawyr

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - 20 Hydref 2023

Rhan 1

Neil Glasser - Beth mae'r Argyfwng Hinsawdd yn ei olygu mewn gwirionedd

David Wilson - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a'r Argyfwng Hinsawdd

Bill Hamblett - Theatr Byd Bychan

Rhan 2

Cath Allen - CARAD

David Wilson - Yr Economi Gylchol

David Evans - Theatre Green Book

Darren Joyce - Sut y gellir adeiladu setiau yn gynaliadwy?

Rhan 3

Judith Musker Turner - Strategaeth ACW ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a'r Celfyddydau

Ffion Jones - Gwneud Theatr ym Myd Natur

Peter Cox - Safbwynt dramodydd

Jacob Gough - GALWAD a'm Practis

Rhan 4

Trafodaeth banel gyda Peter Cox, Jacob Gough, Judith Musker Turner a Fion Jones, dan gadeiryddiaeth David Wilson

Andrew Filmer - Crynodeb or Gwrandäwr

Pontio, Bangor - 7 Mawrth 2024

Rhan 1

Christian Dunn - Yr Argyfwng Amgylcheddol

Kate Lawrence - Prosesau creadigol technoleg isel: gwrando, arsylwi, asesu risg, ailgylchu, peidiwch â gorlwytho’ch hun

Dr Einir Young - Amgueddfa Eco

Rhan 2

Lindsey Coulbourne - Ceisio cysylltiad â bodau dynol a'r sawl sy'n fwy na bodau dynol

Karine Décorne - Yr Economi Gylchol

Rhan 3

Osian Gwynn - Pontio a'r Argyfwng Hinsawdd

David Evans - Cyflwyniad i Lyfr Gwyrdd y Theatr

Gwion Lloyd - Gweithio gyda Llyfr Gwyrdd y Theatr yn Pontio

Jim Davis - Gweithio gyda Llyfr Gwyrdd y Theatr yn Theatr Clwyd

Joe Roberts - Strategaeth CCC ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a'r Celfyddydau

David Evans - Fforest y Theatr

Rhan 4

Trafodaethau grŵp a rhannu

Prif ganfyddiadau a myfyrdodau'r gwrandawyr

Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Glan yr Afon, Casnewydd; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Pontio, Bangor; National Theatre Wales; ABTT Cymru a Creu Cymru.