News Story

Dal i fyny ag un o’n hymddiriedolwyr mwyaf newydd, Anna Arrieta.

Mae Anna Arrieta yn gerddor a chydlynydd gwaith ieuenctid sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n arbenigo mewn prosiectau celfyddydau creadigol, gan gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial trwy gyfryngau creadigol.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn ymddiriedolwr?

Rwy’n credu mai’r hyn a wnaeth fy ysbrydoli i ddod yn ymddiriedolwr oedd y cyfle i sicrhau bod fy safbwynt a’m llais am rywbeth rwy’n angerddol iawn amdano yn cael eu clywed, ac i allu cael sedd wrth y bwrdd gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Rwy’n credu, fel person ifanc sy’n byw yng Nghymru, fod hynny’n brofiad gwerthfawr iawn.

Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am weithio gyda NTW?

Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw’r chwilfrydedd sydd gen i wrth ddechrau ar y rôl. Rwy’n llawn cyffro i ddysgu mwy am yr holl gyfleoedd a phrosiectau anhygoel sydd gan NTW i’w cynnig, ac i deimlo cyswllt unwaith eto â rhywbeth rydw i’n ei garu, sef y theatr. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gwrdd â rhai pobl anhygoel yr wyf yn siŵr y byddaf yn gallu dysgu cymaint ganddynt.

Pa wahaniaeth ydych chi’n gobeithio ei wneud yn NTW?

Rwy’n gobeithio rhannu persbectif newydd gyda’r tîm yn NTW, a helpu i arddangos yr holl waith gwych rydyn ni’n ei wneud. Rwyf hefyd yn gobeithio y gallaf gyfrannu at brosiectau newydd sydd ar ddod a helpu i wneud cyfleoedd yn hygyrch i bawb waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa.

Beth hoffech chi i’n cynulleidfaoedd ei wybod amdanoch chi?

Rwy’n gerddor, ac rydw i’n hoff iawn o fwyd! Rwyf hefyd wrth fy modd yn perfformio, rwyf wrth fy modd â’r theatr, ac rwy’n mwynhau casglu darnau celf – yn arbennig gan artistiaid lleol o Gymru.

Beth yw eich profiad theatrig mwyaf cofiadwy?

Byddai’n rhaid i mi ddweud fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol, pan chwaraeais i Audrey 2 (y planhigyn), yn y sioe ‘Little Shop of Horrors’. Cefais gyfle i ail-greu y cymeriad yn llwyr a rhoi fy naws fy hun i’r peth. Roedd yn gymaint o hwyl! Mae’n dod ag atgofion gwych yn ôl o’m holl ffrindiau, fy athrawon, a hefyd un o fy hoff leoliadau yng Nghymru, Y Pafiliwn Mawr, Porthcawl.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd. Rwyf wedi symud yma yn ddiweddar, ac rwyf wrth fy modd â’r holl ddiwylliant ac amrywiaeth sydd yma. Mae pob rhan o Gaerdydd fel ei fyd bach ei hun, ni allech fyth ddiflasu! Lle arall sy’n dod i’r meddwl yw Llandudno. Dim ond cwpl o weithiau dwi wedi bod yno ond dwi’n cofio’r golygfeydd ar y daith ar y trên ac roedden nhw mor llonydd a hardd, fe wnaeth i mi sylweddoli cymaint mwy sydd i Gymru.

Unigolyn â gwallt hir melyn a lelog, yn gwenu ar y camera.