News Story

Gyda chefnogaeth NTW, dechreuodd Common Wealth y flwyddyn yn archwilio plismona cudd ac anghyfiawnder.

Mae Common Wealth yn gwmni theatr wleidyddol safle-benodol, wedi’i leoli yn Bradford a Chaerdydd ac yn gweithio ar draws y DU. Rydym wedi bod yn cefnogi datblygiad prosiect newydd fel un o’n hegin gomisiynau.

Mae’r Ymchwil a Datblygu hwn wedi’i ysbrydoli gan Police Spies Out of Lives ac actifyddion lleol. Gan weithio gyda grŵp o artistiaid amlddisgyblaeth sydd â themâu gwleidyddol ac actifyddol yn eu gwaith, buont yn cynddeiriogi, yn gweiddi ac yn rhefru yn ystafell gefn tafarn y Royal Oak yn Splott, Caerdydd.

“Mae cymaint i’w ddysgu am y driniaeth erchyll o weithredwyr a’r diffyg atebolrwydd gan y wladwriaeth, a chymaint o lawenydd i’w ddathlu yng ngweithredoedd yr ymgyrchwyr sydd wedi helpu i lunio ein dyfodol.”