News Story

Y Diwrnod y Ddaear hwn, rydym yn myfyrio ar sut y daeth timau creadigol a chynhyrchu Feral Monster â’r sioe gerdd newydd hon yn fyw tra’n gwneud cyn lleied o ddifrod â phosibl i’r blaned.

Gyda'n holl gynyrchiadau, rydym yn bodloni safon sylfaenol cynaliadwyedd Theatre Green Book, sy'n golygu bod 50% o ddeunyddiau wedi'u defnyddio o'r blaen a bydd 65% yn mynd ymlaen i gael bywyd yn y dyfodol. Yn ein cyfweliad gyda dylunydd Feral Monster Cara Evans, dywedasom y byddem yn anelu at y safon Ganolradd ar gyfer y sioe hon, sy'n golygu y byddai 75% o ddeunyddiau wedi'u defnyddio o'r blaen a byddai 80% o ddeunyddiau yn mynd ymlaen i gael bywyd yn y dyfodol. Dewch i ni weld sut wnaethon ni.

Llogi a defnyddio deunyddiau presennol

Un o fanteision niferus ailddefnyddio a llogi yw bod ein deunyddiau yn dod gyda stori. Dyma rai o’n huchafbwyntiau:

  • Prynon ni'r set siglen gan gyn-Olympiad ar Facebook Marketplace
  • Fe wnaethon ni ddefnyddio ysgolion o'n sioe 2019 On Bear Ridge
  • Fe brynon ni loriau o Theatr Genedlaethol Cymru
  • Fe wnaethom addasu ein sgaffaldiau i adeiladu'r ffrâm ddringo.
  • Fe brynon ni'r beiciau BMX o Facebook Marketplace
  • Fe brynon ni wisgoedd ail-law o siopau elusen, eBay, Depop a Vinted
  • Fe wnaethon ni logi wal fawr (cyclorama) wedi'i gwneud o PVC gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Sicrhau bod deunyddiau'n mynd ymlaen i gael bywyd yn y dyfodol

Os wnaethoch chi weld y sioe, efallai y byddwch chi'n cofio'r arhosfan bws lle roedd Jax, Ffion, Sam, Cuz, Blubz a Connor yn canfod eu hunain yn aml. Ers y daith, mae wedi gwneud ei ffordd draw i'r grŵp syrcas gwych Organised Kaos.

Mae deunyddiau eraill hefyd wedi dod o hyd i gartref newydd:

  • Aeth yr holl ddur a ddefnyddiwyd i ffermwr yn Sir Gaerfyrddin i adeiladu giatiau
  • Mae'r set swing wedi mynd i deulu newydd
  • Mae'r glaswellt ffug wedi'i roi i feithrinfa yng Nghaerdydd i greu gofod awyr agored
  • Mae'r beiciau BMX wedi cael eu rhoi i aelodau’r criw llawrydd.
Mae grŵp o bobl yn eistedd ar ben hen safle bws, yn sefyll am y camera.

Felly, sut mae hynny i gyd yn adio i fyny?

Ar draws y cynhyrchiad, mae 66% o ddeunyddiau wedi eu defnyddio o'r blaen a 80% wedi mynd ymlaen i gael bywyd yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu na wnaethon ni gwrdd â'r safon Ganolradd yn gyffredinol o drwch blewyn. Mae David, ein Pennaeth Cynhyrchu, wedi nodi bod hyn oherwydd yr angen am fetel crai i sicrhau bod y set yn ddiogel i ddringo a dawnsio arni. “Roedd yr arhosfan bws yn unig yn 300kg! Pwy ddywedodd fod gweithio yn y theatr yn hawdd?”.

Wrth sicrhau bod ein cynyrchiadau yn cael eu gwneud mor gynaliadwy â phosibl, dros y flwyddyn ddiwethaf rydym hefyd wedi bod yn cyd-gynnal digwyddiadau Theatr Gymreig a'r Argyfwng Hinsawdd i rannu’r hyn a ddysgwyd ar draws y diwydiant theatr yng Nghymru. Cynaliwyd un o'r cynulliadau hyn ochr yn ochr â taith Feral Monster yn Pontio ym Mangor, wrth i ni glywed gan 12 arbenigwr ar bynciau o'r economi gylchol i brosesau creadigol technoleg isel i Strategaeth Cyfiawnder Hinsawdd a'r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru.