News Story

Ar ôl colli ei ewythr i COVID-19, cododd y cyfarwyddwr Circle of Fifths Gavin Porter ei gamera a dechrau casglu straeon pobl am sut mae bywydau'n cael eu dathlu mewn marwolaeth a phwysigrwydd traddodiadau a defodau.

Gan ddefnyddio Twitter gofynnodd i bobl rannu pa ganeuon yr hoffent i gael eu chwarae yn eu hangladd. Roedd yr ymateb llethol yn cynnwys popeth o Abba i The Abyssinians, Gil Scott Heron i Nat King Cole.

Wedi hynny cafodd Circle of Fifths ei dyfeisio a’i pherfformio gan gerddorion ac artistiaid o gymuned Butetown gan gynnwys y cerddor Ska a Reggae Drumtan Ward, yr aml-offerynnwr Kiddus Murrell, a’r berfformwraig (a threfnydd angladdau) Maureen Blades. Mae cyd-greu yn ganolog i Circle of Fifths, yn yr un modd â phob un o brosiectau NTW.

Pe bawn yn saer, efallai y byddwn wedi gwneud mainc iddo. Pe bawn yn saer maen, efallai y byddwn wedi cerfio carreg fedd iddo. Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth, felly mae cerddoriaeth hefyd wedi bod yn ffordd i brosesu pethau.

Wedi'i chreu gyda chydweithfa o gerddorion ac artistiaid o gymuned amlddiwylliannol hynaf Cymru, Butetown, ac yn cynnwys straeon go iawn gan bobl ledled Cymru, mae Circle of Fifths yn archwilio sut y gall cerddoriaeth a straeon ein cysylltu mewn cyfnod o alar a cholled - gan ganiatáu gofod i fyfyrio a dathlu ar y cyd.


Fyma, mae Gavin yn rhannu mwy am ei waith ar y sioe:

Mae’n cymryd llawer o ddewrder i siarad am farwolaeth a cholled. Ni allwn fod wedi ei gwneud hebddynt.

Fel artist, dwi’n defnyddio ffilm a theatr – y ddau fyd dwi’n byw ynddynt – fel arf i wneud synnwyr o bethau. Wrth wneud y sioe hon, dwi jyst yn ceisio gwneud synnwyr o fy mhrofiad fy hun o golli fy Ewythr, yn ogystal ag anwyliaid eraill.

Daw marwolaeth i bob un ohonom. Mae profedigaeth yn cysylltu pob diwylliant. Dydw i ddim yn disgwyl i bawb brofi’r sioe hon yn yr un ffordd. Nid wyf yn gwybod pa brofiad bywyd y gallech ddod gyda chi. Y cyfan y gallaf ei obeithio yw eich bod yn dod o hyd i ryw bwynt o gysylltiad, beth bynnag fo hynny.

Rwy’n angerddol am adrodd straeon o fy nghymuned. Mae fy nghymuned wedi newid. Mae pob cymuned yn newid. Yr unig gysonyn yw newid. Felly mae’n bwysig i mi gadw’r straeon a’r traddodiadau hyn yn fyw. Rwy’n gynnyrch fy amgylchedd ac fel artist, mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr hyn rwy’n ei wneud.

Nid yw’r rhan fwyaf o’r artistiaid a welwch ar y llwyfan yn dod o gefndir theatr. Dim ond bod yn nhw eu hunain ydyn nhw. Mae popeth yn benderfyniad creadigol ond ar yr un pryd, mae llawer ohono’n wirionedd.

Rwyf am ddiolch i NTW am roi cynnig ar syniad anghonfensiynol. Maen nhw wedi rhoi eu ffydd ynof i, ond hefyd yn y bobl rydw i eisiau gweithio gyda nhw. Pobl sydd, yn fy marn i, yn hynod dalentog ond nad ydynt efallai wedi gweithio yn y theatr o’r blaen.

Heb NTW, ni fyddwn i na llawer o pobol eraill erioed wedi camu i mewn i theatr, heb sôn am weithio yn y theatr.

Gobeithio y byddwch yn gweld ac yn clywed straeon sy’n adlewyrchu eich profiad eich hun. Os na, gobeithio y byddwch yn dysgu rhywbeth am brofiadau, traddodiadau a diwylliannau pobl eraill, yn enwedig gan bobl Butetown.

Mae Gavin Porter wedi gweithio gyda National Theatre Wales ar nifer o brosiectau gan gynnwys The Agency, sy’n rhoi pobl ifanc wrth galon datblygu prosiectau a busnesau sydd â phwrpas cymdeithasol a The Soul Exchange fel gwneuthurwr ffilmiau yn ystod blwyddyn gyntaf NTW. Yn ddiweddarach daeth yn gysylltiedig â TEAM NTW a gweithiodd ar De Gabay (2013), drama arobryn gan feirdd Somalïaidd o Butetown. Ef oedd Cydymaith Creadigol NTW o 2013 ac, wrth adeiladu ar waith pobl eraill, creodd y prosiect theatr cyfranogol, Y Prosiect Democratiaeth Mawr. Mae Porter wedi treulio blynyddoedd lawer yn dweud straeon heb eu hadrodd trwy ei raglenni dogfen a Circle of Fifths oedd ei waith theatrig mawr cyntaf.